Mae Mr Townsend yn cymryd lle’r Cadeirydd Dros Dro Cinzia Porcedda a’r rhagflaenydd Will Henson, a roddodd y gorau iddi ar ôl bron i dair blynedd fel Cadeirydd y Bwrdd.
Mae Oliver wedi cefnogi elusen The Wallich er 2014, gan ymuno’n swyddogol â’i Bwrdd yn 2021 a dod yn Gadeirydd ym mis Ebrill 2024.
Ar hyn o bryd, mae Mr Townsend yn gweithio i elusen iechyd meddwl a newid cymdeithasol, Platfform, fel ei Phennaeth Cysylltiadau a Newid. Arferai weithio yn Cymorth Cymru, gan gynrychioli’r sefydliadau sy’n aelodau ohono gan gynnwys The Wallich, Llywodraeth Cymru ac eraill i wella a datblygu polisïau digartrefedd yng Nghymru.
Gyda chefndir proffesiynol ym maes marchnata, polisi a chyfathrebu, a phrofiadau personol o deimlo’n ddi-rym yn lleoliadau mawr y GIG, mae’n dod â sgiliau a phrofiadau gwerthfawr i The Wallich.
Ceir wyth aelod ar Fwrdd Ymddiriedolwyr The Wallich, pob un ohonynt â’i arbenigedd ei hun, gan gynnwys cynrychiolwyr o KPMG, Prifysgol Caerdydd, Tai Cymoedd i’r Arfordir a Darwin Gray.
Mae The Wallich yn darparu dros 100 o wasanaethau, gan helpu dros 7,000 o bobl ledled Cymru bob blwyddyn. Mae’r elusen yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru, cynghorau lleol, gwasanaethau iechyd ac asiantaethau eraill i ddarparu gwasanaethau digartrefedd effeithiol.
“Mae The Wallich yn gwneud gwahaniaeth enfawr. Maen nhw’n siarad gyda llais pwerus ar sail profiad ac arbenigedd, ac maen nhw’n gweithio’n galed i roi’r bobl maen nhw’n eu helpu yn gyntaf.
Alla i ddim aros am y bennod nesaf yn stori The Wallich.
“Rwyf wedi cefnogi’r elusen wych hon er 2014. Pan gyrhaeddais y sector digartrefedd i ddechrau, ymwelais â rhai o’u gwasanaethau lleol yng Nghaerdydd am ddiwrnod cyfan. I rywun a oedd yn newydd i’r maes tai, cefais fy nghyffwrdd gan eu gweledigaeth flaengar ar gyfer mynd i’r afael â digartrefedd, eu hagwedd at leihau niwed yn dosturiol o safbwynt defnyddio sylweddau a’u hymroddiad i weithio gyda phobl y gallent gael eu gwrthod gan wasanaethau eraill.”
Yng Nghymru ceir nifer syfrdanol o bobl sydd naill ai’n ddigartref neu sy’n byw mewn cartref sydd dan fygythiad. Dengys ffigurau swyddogol Llywodraeth Cymru bod 11,721 o bobl yn aros mewn llety dros dro ar 29 Chwefror 2024. Amcangyfrifwyd bod 121 o bobl yn cysgu allan ar yr un dyddiad ledled Cymru. Mae The Wallich yn credu bod y nifer hon yn uwch.
Fel elusen digartrefedd a chysgu allan fwyaf Cymru, mae The Wallich yn gweithredu o dan dri amcan craidd: cael pobl oddi ar y strydoedd; cadw pobl oddi ar y strydoedd; a chreu cyfleoedd i bobl. Ei nod yw darparu gwasanaethau i bobl ar bob cam o’r ffordd tra maent yn ddigartref.
Aeth Mr Townsend yn ei flaen, “Dylai The Wallich fod yn falch iawn o’i hetifeddiaeth. O sefydlu gwasanaeth Tai yn Gyntaf cyntaf Cymru ar Ynys Môn i fod yn un o’r darparwyr cyntaf i fabwysiadu dull gweithio sy’n ystyriol o drawma ynghyd â strategaeth Amgylcheddau sy’n Ystyriol o Gyflwr Seicolegol.
“Mae’r elusen wedi bod yn sbardun i gyplysu polisïau digartrefedd ac iechyd ac ers tro byd mae wedi cyflwyno rhaglen gyd-gynhyrchu dan arweiniad cyfoedion, sy’n ailgynllunio gwasanaethau gyda mewnbwn gan y bobl sydd wedi’u defnyddio. Maen nhw hefyd yn falch bod gan 32.2% o’i weithlu brofiad uniongyrchol o ddigartrefedd, cartrefi dan fygythiad, iechyd meddwl neu’r system cyfiawnder troseddol. Mae The Wallich bob amser yn ceisio rhoi cynnig ar bethau newydd ac ymdrechu i weithio’n well er mwyn y bobl rydyn ni’n eu cefnogi.”
“Rydyn ni’n sicr y bydd Oliver yn parhau i fod yn rhan o wead The Wallich. Dan ei arweiniad ar Fwrdd yr Ymddiriedolwyr, fe wyddom y byddan nhw’n ein tywys i ddefnyddio dulliau arloesol sy’n seiliedig ar dystiolaeth, ac mae unrhyw her i’n huwch dîm, pan fydd angen, i’w groesawu.
Wrth i gyfleoedd am gyllid fynd yn brinnach ac wrth i’r galw gynyddu, rydyn ni’n falch o gael ar ein Bwrdd bobl fel Oliver sy’n deall y dirwedd y mae’r sector digartrefedd yn ei hwynebu ac a fydd yn ein helpu i feddwl am yr atebion.”