Mae Karen Robson yn camu i’r swydd o 23 Medi ymlaen, yn dilyn ymadawiad y Prif Swyddog Gweithredol blaenorol, Lindsay Cordery-Bruce, yn gynharach eleni.
Bydd y Prif Weithredwr Dros Dro, Sian Aldridge, yn dychwelyd i’w swydd flaenorol yn Nhîm Gweithredol The Wallich fel Cyfarwyddwr Gweithrediadau.
Sefydlwyd The Wallich yn 1978 a bu’n gweithio gydag 8,306 o bobl a brofodd ddigartrefedd, risg o ddigartrefedd neu galedi ariannol yn 2023/24 ledled Cymru.
Bydd Ms Robson yn goruchwylio 132 o wasanaethau digartrefedd ac atal digartrefedd, ar draws 21 o’r 22 awdurdod lleol yng Nghymru.
Bydd Ms Robson yn ymuno â Thîm Gweithredol The Wallich sydd â phrofiad helaeth ac angerdd dros gyfiawnder cymdeithasol.
Mae ganddi hanes o eirioli dros hawliau pobl anabl, pobl ifanc a chyn-filwyr yn ystod ei gyrfa, sy’n berthnasol i waith The Wallich i roi diwedd ar ddigartrefedd.
Mae ei swyddi blaenorol yn cynnwys Prif Swyddog Gweithredol, Cyfarwyddwr ac Uwch-arweinyddiaeth ar gyfer sefydliadau fel RNID (Sefydliad Cenedlaethol Brenhinol Pobl Fyddar a Thrwm eu Clyw), The Care Collective, Cymdeithas Genedlaethol yr Ymarferwyr Anabledd a Phrifysgol Metropolitan Caerdydd.
“Rwy’n gallu gweld o’r tu allan sut mae The Wallich yn newid bywydau er gwell drwy genhadaeth a gwerthoedd yr elusen – ac rwy’n teimlo’n angerddol iawn yn eu cylch.
“O’r tu mewn, rwy’n credu y gallaf fod yn gaffaeliad i’r sefydliad ac rwy’n edrych ymlaen i fwrw iddi.”
Yn 2018, roedd Ms Robson yn rhan o dîm a enillodd Wobr y Frenhines am Wasanaeth Gwirfoddol; y wobr uchaf i grwpiau gwirfoddol yn y DU i gydnabod y gwaith o gyfrannu at adfywio rhanbarthol yng ngogledd-ddwyrain Lloegr.
Mae ganddi brofiad helaeth hefyd fel aelod o banel ac fel rhan o fyrddau cynghori sy’n gweithio gyda Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru yn eirioli dros grwpiau sydd ar y cyrion a heb gynrychiolaeth ddigonol.
Mae ei gwaith wedi arwain sefydliadau drwy gyfnodau o newid a datblygu, ymgyrch chwyldroadol i ymgorffori cynhwysiant a chynaliadwyedd ariannol elusennau.
Yn wreiddiol o ogledd-ddwyrain Lloegr, mae Karen wedi byw a gweithio yng Nghymru ers 28 mlynedd.
“Fe wnaethon ni benodi Karen o faes hynod gystadleuol o ymgeiswyr, ac rydyn ni’n gyffrous iawn am y dyfodol gyda’n Prif Weithredwr newydd.
“Gwelsom fod gan Karen ddealltwriaeth wirioneddol o’r angen i adeiladu ar yr hyn y mae ein sefydliad yn dda am ei wneud – gan weithio ar draws Cymru, gyda phobl sy’n wynebu rhai o’r anghydraddoldebau a’r anghyfiawnderau mwyaf dwfn y gallwn eu dychmygu.
“Dyna lle mae angen The Wallich gymaint, gan weithio gyda phobl y mae cymdeithas wedi rhoi’r gorau iddyn nhw, yn rhy aml o lawer.”
Mae The Wallich yn sefydliad seicolegol wybodus sy’n gweithredu o dan dri amcan craidd i roi diwedd ar ddigartrefedd am byth: cael pobl oddi ar y strydoedd; cadw pobl oddi ar y strydoedd; a chreu cyfleoedd i bobl.
Bydd yr elusen yn lansio ei hymgyrch codi arian dros y gaeaf ar Ddiwrnod Digartrefedd y Byd, fel y mae’n ei wneud bob blwyddyn, ar 10 Hydref.
Mae digartrefedd yng Nghymru yn parhau i fod yn flaenoriaeth i Lywodraeth Cymru, a gyhoeddodd yr ystadegau digartrefedd diweddaraf ar gyfer mis Mehefin. Cofnodwyd bod 11,301 o bobl mewn llety dros dro a bod 153 o unigolion yn cysgu allan yng Nghymru.
Mae symud pobl i lety tymor hir addas a sefydlog yn parhau i fod yn her, gyda phwysau ariannol yn taro’r bobl sy’n cael cymorth gan The Wallich a gwasanaethau’r elusen.
“Bydd The Wallich yn parhau i weithio gyda’r llywodraeth i sicrhau bod digartrefedd yn rhywbeth sy’n brin, yn fyr ac nad yw’n cael ei ailadrodd”, dywedodd Mr Townsend, “ond mae angen i ni hefyd weld bod Llywodraeth Cymru yn gwneud ei rhan drwy gynyddu’r Grant Cymorth Tai yng nghyllideb Cymru.
“Mewn cyfnod ariannol anodd, mae angen i ni sicrhau bod adnoddau’n cael eu dyrannu i gyflawni’r uchelgeisiau a nodir gan y llywodraeth i roi diwedd ar ddigartrefedd.”