Y Bwrdd Ymddiriedolwyr

| 02920 668 464
Y Bwrdd ymddiriedolwyr

 

Ni ddylid tanbrisio rôl ymddiriedolwyr o ran llywodraethu elusen. Mae ein bwrdd o arbenigwyr amrywiol yn helpu The Wallich i barhau’n ddiddyled, i gydymffurfio ac i fod yn ddiogel ac yn gorff  yr ymddiriedir ynddo.

Mae’r trydydd sector yn wynebu nifer o heriau ar hyn o bryd, gyda galwadau’n cynyddu’n barhaus ac adnoddau nad ydynt yn cynyddu ar yr un raddfa.

Fel ymddiriedolwyr, maent wedi ymrwymo  i sicrhau bod gwasanaethau’n cael eu darparu i roi’r budd gorau posibl i’r cyhoedd, gan gynnal y safonau moesegol uchaf ar yr un pryd.

Yn The Wallich, rydym yn cadw gwerthoedd ein sefydliad yn agos at ein calonnau ac maent yn trosglwyddo’n uniongyrchol i’r modd yr ydym yn sefydlu diwylliant yr elusen ar lefel bwrdd. Yn y pen draw, ein rôl ni yw craffu ond rhaid gwrthbwyso hyn â’n rôl gefnogol fel cyfeillion beirniadol.

 

Ein Hymddiriedolwyr

Cinzia Porcedda

Cadeirydd interim

Mae Cinzia yn gweithio fel Uwch Gynghorydd Strategaeth yn UK Research and Innovation (UKRI), corff cyhoeddus anadrannol.

Mae’n aelod o fyrddau eraill ac yn hyrwyddo cydraddoldeb rhwng y rhywiau fel Cadeirydd Rhwydwaith Staff Pennod Menywod UKRI.

Mae hi’n awyddus i gyfrannu at nodau The Wallich drwy ddod â sgiliau llywodraethu a meddwl strategol i’r bwrdd.

Mae hi’n frwd dros eirioli dros bobl agored i niwed a sicrhau cyfle cyfartal a chynhwysiant i bawb.

Oliver Townsend

Ar hyn o bryd mae Oliver yn gweithio i Platfform, ond cyn hynny bu’n gweithio i Cymorth Cymru, gan gynrychioli mudiadau sy’n perthyn iddo gan gynnwys The Wallich, Llywodraeth Cymru a mwy.

Gyda chefndir proffesiynol ym maes marchnata, polisi a chyfathrebu, a phrofiadau personol o ddiffyg pŵer mewn lleoliadau GIG mawr, mae’n gobeithio dod â rhai o’r sgiliau a’r profiadau hynny i The Wallich.

Ellie Hetenyi

Trysorydd

Mae Ellie yn rheolwr archwilio allanol sy’n arbenigo mewn cynnal adolygiadau ariannol o elusennau, a chleientiaid ym maes addysg a llywodraeth ganolog.

Gyda chefndir mewn archwilio allanol, archwilio mewnol a sicrwydd risg, mae Ellie bellach yn arwain tîm archwilio elusennau KPMG UK.

Mae Ellie yn gyfrifydd siartredig sydd wedi bod yn ymddiriedolwr gydag elusen lles anifeiliaid cyn hyn, ac mae bellach yn cynnig yr arbenigedd hwn i’r Wallich fel Ymddiriedolwr a Thrysorydd. Mae hefyd yn Gadeirydd y Pwyllgor Cyllid ac Archwilio.

Yr Athro Simon Moore

Mae Simon yn Athro adnabyddus a mawr ei barch ym Mhrifysgol Caerdydd.

Yn ogystal â phortffolio academaidd enfawr o waith cyhoeddedig, mae Simon yn arbenigo mewn gwerthuso gwasanaethau ac asesiadau effaith yn ymwneud â lleihau niwed cysylltiedig ag alcohol.

Siobhan Williams

Mae Siobhan yn gyfreithiwr yn Darwin Gray.

Mae’n canolbwyntio ar Lywodraethu cyffredinol yn The Wallich a yn Gadeirydd y pwyllgor AD.

Siobhan Johnson

Mae Siobhan yn aelod Siartredig o CIPD ac yn Uwch weithiwr proffesiynol profiadol ym maes Adnoddau Dynol a Datblygu Sefydliadol, gyda dros 14 mlynedd o brofiad ym maes tai cymdeithasol.

A hithau bellach yn gweithio fel ymgynghorydd llawrydd, mae ganddi hefyd sgiliau mewn Coetsio, Newid Diwylliant, Meddwl yn Feirniadol, Lles Cyflogeion, Arweinyddiaeth a Rheolaeth.

Mae Siobhan yn eiriolwr dros gydraddoldeb ac amrywiaeth ac yn frwd dros sicrhau bod pobl yn gwireddu eu potensial yn llawn.

Polly Thompson

Polly yw Cyfarwyddwr TG Valleys to Coast.

Cyn hynny, treuliodd 14 mlynedd yn cefnogi defnyddio technoleg a data i helpu unigolion ac i ymgyrchu dros newid polisi.

Mae ganddi MBA o’r Brifysgol Agored.

Mary-Ann McKibben

Mae Mary-Ann yn Ymgynghorydd Iechyd Cyhoeddus yn Iechyd Cyhoeddus Cymru.

Mae hi’n gyfrifol am raglenni cenedlaethol sydd â’r nod o greu’r amodau i gefnogi ac i wella iechyd a llesiant meddyliol a chorfforol yn y gweithle a gwreiddio dulliau ataliol ar draws y GIG.

Mae hi’n Gymrawd Cyfadran Iechyd y Cyhoedd ac wedi gweithio ar ystod eang o faterion iechyd y cyhoedd mewn rolau blaenorol, gan gynnwys camddefnyddio sylweddau, iechyd meddwl a llesiant, ac iechyd troseddwyr.

Mae hi wedi bod yn aelod o Fwrdd Alcohol Concern yn y DU ac yn ddarparwr gwasanaethau cymdeithasol i deuluoedd yn Seland Newydd.

Ymuno â Bwrdd Ymddiriedolwyr The Wallich

Os oes gennych chi sgiliau hanfodol y gallwch ddod â nhw i Fwrdd Ymddiriedolwyr The Wallich, cofrestrwch eich diddordeb i ymuno â’n bwrdd drwy e-bost: mail@thewallich.net

Tudalennau cysylltiedig