“Mae cysgu allan yn beryglus; gall wneud niwed i iechyd meddwl a chorfforol pobl ac yn y pen draw, fel yr ydym wedi’i weld, gall ddod â bywyd i ben. Gwaetha’r modd mae peryglon cysgu allan yn mynd yn ymestyn y tu hwnt i dywydd eithafol a chyfnod y Nadolig, sydd ar feddwl pob un ohonom ar hyn o bryd. Mae pobl ar y strydoedd yn agored i ymosodiad, camdriniaeth a cham-fanteisio, teimladau o unigrwydd ac unigedd 365 diwrnod y flwyddyn.
Mae pobl sy’n byw ar y strydoedd yn llawer mwy tebygol o ddioddef trosedd na chyflawni trosedd eu hunain. Yn ôl ymchwil gan Crisis, roedd pobl sy’n byw ar y stryd bron i 17 gwaith yn fwy tebygol o ddioddef trais a 15 gwaith yn fwy tebygol o fod yn destun cam-drin geiriol yn y flwyddyn ddiwethaf o’i gymharu â’r cyhoedd.
Eleni, gwelodd ein tîm estyn allan 1,977 o bobl yn cysgu allan ar strydoedd Caerdydd yn unig; dyna 1,977 o unigolion gyda theuluoedd, gyda hanesion ac angen cymorth unigol ar bob un ohonynt. Gyda mwy o bobl yn cysgu allan, byddwn yn gweld mwy o straeon sy’n peri gofid am bobl ddigartref oni bai ein bod yn gwneud rhywbeth yn ei gylch. Mae angen ymateb cymunedol. Rhaid i ni ganfod beth sydd ei angen ar bobl a dod o hyd i ffordd o ddiwallu’r anghenion hynny; mynnwch sgwrs â rhywun, defnyddiwch ap StreetLink, cysylltwch â’ch cynrychiolydd lleol a dywedwch wrtho neu wrthi y dylai hyn fod yn flaenoriaeth.
Mae llawer o waith da’n digwydd i gynorthwyo pobl sy’n cysgu allan yng Nghymru ond mae’n amlwg bod llawer mwy i’w wneud. Gweledigaeth The Wallich yw bod pawb sy’n ymwneud â gwasanaethau digartrefedd, a’r rhai sy’n cysgu allan, yn gweithio gyda’i gilydd, fel un grŵp cydlynol, i geisio canfod beth arall allwn ni ei wneud a sut gallwn ni atal mwy o bobl rhag bod yn ddigartref yn y dyfodol. Mae angen i bawb wthio’r ffiniau, cynnig syniadau newydd a chwilio am ffordd wahanol i fynd i’r afael â digartrefedd sy’n fater o bryder cenedlaethol.”