Prif Swyddog Gweithredol The Wallich i ymddiswyddo

01 Mar 2024

Ym mis Chwefror 2024, cyhoeddodd Bwrdd Ymddiriedolwyr The Wallich fod Lindsay Cordery-Bruce, ar ôl chwe blynedd fel Prif Swyddog Gweithredol, yn gadael The Wallich i ddilyn cyfleoedd eraill

Cymerodd Dr Cordery-Bruce yr awenau fel Prif Weithredwr ym mis Ionawr 2018, a bydd yn gadael The Wallich yn ystod wythnos gyntaf mis Ebrill 2024.

Mae trefniadau pontio yn cael eu rhoi ar waith gyda’r Tîm Gweithredol a Bwrdd yr Ymddiriedolwyr presennol.
Hoffai The Wallich ddymuno’r gorau i Lindsay fel Prif Weithredwr newydd Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru (CGGC).

£20 miliwn

Dywedodd Cinzia Porcedda, Cadeirydd Dros Dro Bwrdd Ymddiriedolwyr The Wallich:

“Rwyf wedi cael y pleser a’r anrhydedd o weithio â Lindsay yn ystod dwy flynedd a hanner diwethaf ei chyfnod yn y swydd. Yn y cyfnod hwnnw, cefais weld pa mor wych oedd Lindsay yn ei rôl fel Prif Swyddog Gweithredol, a sut roedd ei charedigrwydd, ei thrugaredd a’i deallusrwydd emosiynol yn ei gwneud hi’n arweinydd arbennig.

Yn ystod ei chyfnod fel Prif Swyddog Gweithredol, mae Lindsay wedi gwneud gwaith rhagorol o roi diwedd ar ddigartrefedd yng Nghymru. Gan gadw at ein pum gwerth, mae Tosturi a’r Gymuned wedi bod yn ysgogwyr arbennig yn ei gwaith. Arweiniodd ar newidiadau mawr o fewn a thu hwnt i’r sefydliad, gan gynnwys creu a meithrin diwylliant gwaith, amgylchedd cyffredinol o gynhwysiant a pharchu, ac wynebu heriau COVID a’r argyfwng costau byw.

Mae Lindsay wedi adeiladu tîm cryf, gan weithio’n ddiflino â nhw i feithrin amgylchedd gwaith cadarn iawn. Mae’r tîm yn rhoi pob hyder i fi, holl aelodau’r Bwrdd, ein cymunedau a’n rhanddeiliaid ymddiried yng ngallu ein staff i wneud y cyfnod pontio hwn yn llyfn ac yn llwyddiannus.

Y Bwrdd ymddiriedolwyr

Hoffwn sicrhau tîm The Wallich, yr holl gymunedau rydyn ni’n eu gwasanaethu, a’n rhanddeiliaid, y bydd etifeddiaeth Lindsay yn cael ei meithrin a’i hanrhydeddu, wrth i’r tîm Gweithredol a’r Bwrdd Ymddiriedolwyr ein symud ni ymlaen.

Roeddwn i eisiau gorffen drwy ddiolch i Lindsay am yr egni, y weledigaeth a’r galon mae hi wedi’i roi i The Wallich a’r cymunedau rydyn ni’n eu gwasanaethu dros y chwe blynedd diwethaf. Rydyn ni’n dymuno’r gorau iddi yn ei holl gynlluniau a’i hymdrechion yn y dyfodol.”

 

Gwaith Lindsay yn The Wallich

Dywedodd Dr Cordery-Bruce am gyfnod Lindsay yn arwain yr elusen:

“Mae fy amser yn The Wallich wedi bod yn anhygoel ac rydw i mor falch o’r hyn rydyn ni i gyd wedi’i gyflawni gyda’n gilydd.

“Rwy’n gadael y swydd yn teimlo’n hyderus y gallwn roi diwedd ar ddigartrefedd, ac rydyn ni’n gwybod sut i gyflawni hynny yng Nghymru. Nawr mae’n ymwneud ag adnoddau ac ewyllys gwleidyddol i wneud i hyn ddigwydd.

“Roedd yn fraint cael bod yn rhan o’r trafodaethau hynny a hoffwn ddiolch i randdeiliaid, cyllidwyr a chydweithwyr am eich brwdfrydedd a’ch ymrwymiad parhaus.”

 

textimgblock-img

Prif uchafbwyntiau Linsday dros y chwe blynedd ddiwethaf

  • Cynrychioli The Wallich ar y Grŵp Gweithredu ar gyfer Ddigartrefedd
  • Sefydlu’r Bwrdd Cysgodol
  • Cwpan y Byd Digartref
  • Cynghori’r Llywodraeth ar sut i roi diwedd ar ddigartrefedd
  • Adsefydlu gwerthoedd The Wallich
  • Goruchwylio cefnogaeth 30,000 o bobl y mae angen cymorth digartrefedd arnynt yng Nghymru

Dywedodd Katie Dalton, Cyfarwyddwr Cymorth Cymru, sef mudiad aelodaeth ambarél y sector digartrefedd:

“Bydd colled enfawr i’r sector digartrefedd a chymorth tai ar ôl i Lindsay adael.

Roeddwn i’n gallu dibynnu arni bob amser, ac roedd hi wastad yn sefyll fyny dros yr hyn sy’n iawn. Mae ei harweinyddiaeth wedi bod yn ysbrydoliaeth yn ystod blynyddoedd heriol iawn.”

textimgblock-img

Ffigurau digartrefedd

Mae The Wallich yn rhedeg dros 100 o brosiectau a gwasanaethau sy’n ymwneud â digartrefedd ledled Cymru. Yn 2023, roedd yn cefnogi dros 7,000 o bobl a oedd yn ddigartref neu mewn perygl o fod yn ddigartref.

Wrth i’r galw am dai gynyddu, mae dros 11,000 o bobl yn byw mewn llety dros dro yng Nghymru ar hyn o bryd. Dan arweiniad Dr Cordery-Bruce, yn ddiweddar mae The Wallich wedi galw am roi sylw ar unwaith i danariannu’r sector digartrefedd, yn enwedig y Grant Cymorth Tai.