Sir Benfro yn adnewyddu ei ffocws ar atal digartrefedd gyda The Wallich yn cymryd yr awenau ar eu gwasanaeth newydd

16 Sep 2026

PATH oedd yn darparu’r gwasanaeth cymorth fel bo’r angen cyffredinol blaenorol. Nawr, bydd The Wallich, sef elusen digartrefedd a chysgu allan fwyaf Cymru, yn helpu mwy o bobl sydd mewn perygl o brofi digartrefedd. Bydd yn gwneud hyn mewn partneriaeth â Chyngor Sir Penfro drwy’r Gwasanaeth Atal Digartrefedd newydd.

 

Yn ôl data’r awdurdod lleol, ym mis Mai 2026, cafodd 268 o bobl yn Sir Benfro eu rhoi mewn llety dros dro, gyda 23 ohonynt o dan 16 oed. Cofnodwyd ein bod yn gwybod bod 15 o yn cysgu allan yn yr un mis.

Bydd Gwasanaeth Atal Digartrefedd newydd Sir Benfro yn helpu pobl mewn amrywiaeth o amgylchiadau, gan gynnwys pobl sy’n byw mewn tai rhent preifat gyda landlord, eiddo cyngor neu gymdeithas dai, llety dros dro, cartrefi sy’n eiddo i berchen-feddianwyr, neu bobl sy’n profi digartrefedd, sy’n syrffio soffas, sy’n cysgu mewn car, sied, neu ffyrdd eraill o fyw heb gartref sefydlog.

Bydd tîm o Weithwyr Cymorth The Wallich yn teithio ledled Sir Benfro i weithio gyda phobl – yn lle bynnag y maent – i leihau digartrefedd yn y sir. Mae gan y gwasanaeth dri phrif nod; atal digartrefedd lle bynnag y bo modd, helpu pobl i gael gafael ar opsiynau tai diogel ac addas, a chefnogi pobl i gadw eu cartrefi a meithrin gwydnwch.

Dywedodd Michael Gray, Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol a Thai Cyngor Sir Penfro:

“Mae Cyngor Sir Penfro wedi ymrwymo i fod yn arloesol wrth ddelio â’r heriau tai rydyn ni’n eu hwynebu, drwy gefnogi pobl Sir Benfro i gael mynediad at gartrefi addas, sydd o safon uchel, fforddiadwy ac sy’n gwella ansawdd eu bywyd.

“Felly, rwy’n falch iawn o weithio mewn partneriaeth â The Wallich i atal a lleihau digartrefedd drwy ddull sy’n seiliedig ar waith cynnar, perthynol ac sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn. Mae atal digartrefedd yn waith cymhleth, ac rwy’n edrych ymlaen at ddysgu gyda The Wallich am yr hyn sy’n gweithio, i bwy a pham.”

textimgblock-img

Dywedodd Liz Evans, Rheolwr Ardal The Wallich:

“Rydyn ni’n edrych ymlaen at lansio Gwasanaeth Atal Digartrefedd Sir Benfro The Wallich, a fydd yn creu cyfleoedd newydd i gefnogi pobl yn gynharach ac atal digartrefedd cyn iddo fod yn argyfwng.

“Drwy ddull comisiynu arloesol, a Gweithwyr Cymorth ymroddedig The Wallich, sy’n aros ochr yn ochr â phobl drwy gydol eu taith, gallwn ddarparu cymorth cyson sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn ac sy’n helpu unigolion i feithrin hyder, gwydnwch a sefydlogrwydd tai yn y tymor hir.”

Enghreifftiau o gymorth atal digartrefedd yn Sir Benfro gan The Wallich

  • Cymorth gyda budd-daliadau
  • Cyllidebu
  • Dyledion ac ôl-ddyledion rhent
  • Ceisiadau am dai
  • Edrych ar opsiynau tai
  • Paratoi ar gyfer apwyntiadau
  • Help i siarad â landlordiaid ac asiantaethau partner
  • Symud tŷ
  • Cynnal tenantiaeth
  • Manteisio ar gyfleoedd lles, addysg, gwirfoddoli a datblygiad personol

Mae’r gwasanaeth newydd yn ymuno â thri arall gan The Wallich yn Sir Benfro, sef y Gwasanaeth Cymorth Digartrefedd ar y Stryd, y Gwasanaeth Datrys Gwrthdaro a’r Gwasanaeth Cyfannol Gwneud Lle.