The Wallich yn lansio ymgyrch gaeaf 2025 ar Ddiwrnod Digartrefedd y Byd: Byddwch yn drobwynt i rywun sy’n wynebu digartrefedd

10 Oct 2025

Ar Ddiwrnod Digartrefedd y Byd (10 Hydref), mae The Wallich wedi lansio ei ymgyrch gaeaf 2025 – yn galw ar bobl Cymru i ‘fod yn drobwynt’ i’r rheini sydd mewn perygl o fod yn ddigartref neu sydd yn ddigartref.

Mae’r ymgyrch yn canolbwyntio ar weithredoedd bach ond hanfodol o garedigrwydd sy’n gallu newid bywydau.

O ychwanegu arian at ffôn er mwyn i rywun allu cael gafael ar ofal iechyd, i dalu’r darn olaf o rent y mae ar deulu ei angen er mwyn symud i gartref diogel.

Gallai’r pethau bach amserol hyn olygu’r gwahaniaeth rhwng digartrefedd a sefydlogrwydd.

Gall eich cefnogaeth y gaeaf hwn helpu rhywun i symud o ddigartrefedd i gartref, o ofn i sefydlogrwydd, o oroesi i fyw a ffynnu.

Stori Jess

Fe wnaeth Jess* gynilo bob ceiniog y gallai i roi cartref diogel i’w phlant. Ond nid oedd yn ddigon.

Ar ôl cael gorchymyn troi allan, cafodd Jess – sy’n fam i bedwar ac yn fyfyriwr coleg amser llawn – ei gorfodi i symud i lety dros dro.

A hithau’n benderfynol o greu dyfodol gwell i’w phlant, bu’n gweithio’n galed gan gynilo pob ceiniog y gallai.

Ond doedd hynny’n dal ddim yn ddigon i dalu’r costau sydd i’w talu ymlaen llaw i sicrhau cartref parhaol.

Wynebai Jess ddewis amhosibl: aros mewn llety ansefydlog, dros dro, neu ysgwyddo dyled na allai ei thalu i roi’r sefydlogrwydd yr oedd ar ei phlant ei angen.

Gyda’r pwysau’n cynyddu, trodd Jess at The Wallich.

Diolch i gefnogaeth Cronfa Cymorth Hyblyg yr elusen, cafodd grant bach i dalu’r costau terfynol oedd eu hangen i sicrhau tenantiaeth.

Mewn pryd, symudodd Jess a’i phlant i gartref cynnes a sefydlog.

*Newidiwyd yr enwau a’r delweddau rhag datgelu pwy yw’r bobl sy’n cael cefnogaeth gan The Wallich.

Gweithredoedd bach, effaith fawr

Mae The Wallich yn cefnogi dros 8,000 o bobl sy’n ddigartref, neu sydd mewn perygl o fod yn ddigartref, yng Nghymru bob blwyddyn.

Mae ei Gronfa Cymorth Hyblyg ar gael i bobl ar drobwynt tyngedfennol:

Nid anrhegion drudfawr yw’r rhain.

Ymyriadau bach, amserol yw’r rhain sy’n bosibl drwy roddion gan y cyhoedd.

A maen nhw’n gallu newid bywyd rhywun.

Sut allwch chi helpu pobl sydd ei angen y gaeaf hwn

Wrth i’r tymheredd ostwng, gallai eich cefnogaeth chi fod yn drobwynt i rywun yn eich cymuned chi.

Friday September 12 2025
Wallich Winter 2025 Campaign

Rhowch rodd un-tro i gefnogi ein hapêl gaeaf

Trefnu i roi rhodd yn rheolaidd i gefnogi gwaith The Wallich drwy gydol y flwyddyn

Apêl Nadolig

Ochr yn ochr â’n prif apêl, bydd The Wallich hefyd yn codi arian i wneud tymor yr ŵyl ychydig yn fwy disglair i bobl y byddent fel arall yn mynd heb ddim.

Gyda’ch cefnogaeth chi, gallwn baratoi cinio Nadolig traddodiadol i breswylwyr ei rannu gyda’i gilydd a gyda’n staff. Cyfle i ddod at ei gilydd, mwynhau bwyd da, a theimlo’n rhan o gymuned.

cracyr nadolig

Yn ogystal â’r bwyd, bydd pob person hefyd yn cael anrheg Nadolig, rhywbeth syml ond ystyrlon i’w hatgoffa nad ydynt yn cael eu hanghofio.

Gyda’i gilydd, mae’r pethau bach hyn yn dod â chynhesrwydd, urddas a gobaith ar adeg o’r flwyddyn a allai fod yn amser anodd ac unig iawn.

Raffl gaeaf

Byddwch yn barod i chwarae eich rhan a chael siawns o ennill gwobrau mawr!

Cynhelir Raffl Gaeaf The Wallich yn fuan, gyda thocynnau ar gael am gyn lleied â £2.

Bydd gwobrau gwych ar gael – cadwch lygad am yr holl fanylion.

Awydd rhannu hwyl yr ŵyl?

Os oes gennych chi ddawn dweud neu os oes gennych chi ambell ddigwyddiad ar y gweill dros y gwyliau, gallwch helpu drwy werthu tocynnau raffl yn eich cymuned.

Cadwch lygad ar sianeli cyfryngau cymdeithasol The Wallich am lansiad llawn raffl y gaeaf a’r holl ffyrdd y gallwch chi gymryd rhan.

Dysgu am ddigartrefedd

Mae digartrefedd yn dal i fod yn fater cymhleth sy’n aml yn cael ei gamddeall.

Mae deall yr achosion sylfaenol, yr heriau systemig a’r effeithiau hirdymor yn gam hanfodol tuag at leihau stigma a chefnogi newid ystyrlon.

Mynnwch y wybodaeth ddiweddaraf, a gwahoddwch eich ffrindiau, eich teulu a’ch cydweithwyr i ymuno â chi i ddysgu mwy am ddigartrefedd yng Nghymru heddiw.

Dilynwch The Wallich ar y cyfryngau cymdeithasol i gael yr wybodaeth ddiweddaraf am ddatblygiadau, diweddariadau polisi, ymgyrchoedd effeithiol, straeon go iawn, a chyfleoedd i wneud gwahaniaeth yn 2025 a thu hwnt.

Gallwch droi eich dealltwriaeth yn realiti.

Meddai Louisa Turner, Pennaeth Codi Arian yn The Wallich

“Yn The Wallich, mae codi arian yn ein galluogi i fynd y tu hwnt i’r pethau sylfaenol.

“Rydym yn darparu cymorth personol a thosturiol sydd wir yn newid bywydau.

“O brosiectau creadigol sy’n helpu pobl i ail-fagu hyder, i’n tîm Gweithrediadau Symudol sy’n mynd â gwasanaethau hanfodol yn uniongyrchol at y rhai mwyaf anghenus.

“Mae ein Cronfeydd Cymorth Hyblyg yn rhan hanfodol o’r gofal hwnnw, gan gynnig grantiau bach sy’n newid bywydau ar yr adegau pan fydd ar bobl eu hangen fwyaf.

Y gaeaf hwn, rydyn ni’n gofyn i bobl Cymru gefnogi ein hapêl a helpu i greu mwy o drobwyntiau i’r rheini sy’n wynebu digartrefedd.”

Byddwch yn drobwynt

Nid cyflwr sefydlog mo digartrefedd.

Pennod yn stori rhywun ydyw.

A gyda’r gefnogaeth iawn, ar yr adeg iawn, gall y stori honno newid.

Mae ymgyrch gaeaf 2025 The Wallich yn gofyn i’r cyhoedd gamu i mewn a bod yn drobwynt.

Rhowch rodd heddiw a helpwch rywun yng Nghymru i fod yn ddiogel, yn gynnes, ac yn obeithiol y gaeaf hwn.