Mae The Wallich yn gweithio mewn partneriaeth â chynllun ‘Home to Home’ Dunelm sy’n helpu teuluoedd ac unigolion ledled Gogledd Cymru

28 Apr 2023

Bydd y cynllun newydd yn annog cwsmeriaid i ddod â nwyddau’r cartref nad oes eu hangen arnynt bellach i’r siop er mwyn i elusennau lleol eu hailddosbarthu

Beth yw Home to Home?

Mae Dunelm, prif fanwerthwr nwyddau cartref y DU, wedi lansio treial ar draws siopau yng Ngogledd Cymru a Gogledd Orllewin Lloegr.

Bydd yn caniatáu i gwsmeriaid roi nwyddau’r cartref gan unrhyw fanwerthwr nad oes eu hangen arnynt bellach, i’w hailddosbarthu i elusennau lleol a grwpiau cymunedol yn y rhanbarthau.

Bydd y cynllun, a lansiwyd yng nghanol yr argyfwng costau byw, yn annog cwsmeriaid i leihau annibendod yn eu cartrefi, heb anfon eitemau i safleoedd tirlenwi, a dod â budd i bobl yn eu cymuned leol ar yr un pryd.

Dywedodd Nick Wilkinson, Prif Swyddog Gweithredol Dunelm:

“Mae ein treial Home to Home yn cynnig ffordd ystyrlon i gwsmeriaid drosglwyddo eitemau’r cartref nad oes eu heisiau neu eu hangen arnynt.

“Yn Dunelm, rydyn ni’n credu y gall eich cartref roi pleser i chi a thrwy greu amgylcheddau mwy cartrefol i bobl a allai fod yn ei chael hi’n anodd fforddio eitemau hanfodol, gallwn ni helpu i’w rhoi ar lwybr newydd a fydd yn eu caniatáu i fod yn hunangynhaliol ac yn annibynnol.”

Sut bydd Home to Home yn effeithio ar The Wallich?

The Wallich yw’r unig elusen yng Nghymru sy’n elwa o’r cynllun Home to Home.

Rydyn ni’n ymdrechu i greu amgylcheddau sy’n ystyriol o gyflwr seicolegol (PIE) ar gyfer defnyddwyr ein gwasanaeth, gan wneud yn siŵr eu bod yn teimlo’n ddiogel a’u bod yn gallu troi eu cefnau ar ddigartrefedd am byth.

Rydyn ni’n ymfalchïo yn y ffaith bod ein heiddo preswyl yn lleoedd cynnes a chroesawgar i ddefnyddwyr y gwasanaeth. Dylen nhw deimlo’n gartrefol, nid yn ofodau oer, clinigol gyda theimlad sefydliadol.

Ychwanegodd Rebeca, Cydlynydd Codi Arian Rhanbarthol yn The Wallich:

“Mae The Wallich yn cefnogi pobl i ddod o hyd i lety addas.

“Yn aml, pan fydd rhywun yn symud i denantiaeth newydd, mae angen eitemau arnyn nhw i helpu i wneud eu gofod newydd yn gartref cyfforddus.

“Gall cynlluniau fel hyn gael effaith enfawr ar y bobl rydyn ni’n eu cefnogi ac rydyn ni’n ddiolchgar iawn i unrhyw un sy’n dewis rhoi eitemau.”

Sut mae cymryd rhan?

  1. Edrychwch isod i weld pa eitemau y gallwch eu trosglwyddo
  2. Ewch â’ch eitemau i siop Dunelm sy’n cymryd rhan (Wrecsam a Bangor yw’r unig siop sy’n cymryd rhan yng Nghymru ar hyn o bryd)
  3. Bydd Dunelm yn gweithio gydag elusennau i ddod o hyd i gartref newydd ar gyfer eich eitemau

Eitemau sy’n cael eu derbyn ar hyn o bryd: llestri coginio, llestri bwyd, llestri gwydr, llestri bwrdd, llestri pobi ac addurniadau’r cartref, ar yr amod eu bod mewn cyflwr da, a’i bod yn bosibl eu defnyddio (a’u caru) ar unwaith.

Busnesau sy’n cefnogi pobl sy’n ddigartref

Wrth i ni fyw drwy argyfwng costau byw, mae sawl ffordd y gall busnesau helpu i ysgafnhau’r baich.

Os ydych chi’n gweithio i sefydliad neu fusnes sydd â phrosiect, cynllun neu rodd a fyddai o gymorth i’r bobl rydyn ni’n eu cefnogi, cysylltwch â’n tîm – DoSomething@thewallich.net

Tudalennau cysylltiedig