The Wallich yn ymuno â’r Dogs Trust i gefnogi pobl a chŵn sy’n ddigartref ledled Cymru

13 Jun 2025

Mae The Wallich, elusen ddigartrefedd sy’n darparu cymorth ledled Cymru, wedi gweld pum gwasanaeth llety dros dro yn cael eu cymeradwyo fel rhai sy’n croesawu cŵn gan gynllun Gyda’n Gilydd Drwy Ddigartrefedd y Dogs Trust.

Mae gwasanaethau llety dros dro The Wallich yn Abertawe, Rhydaman, Caerdydd a Wrecsam yn darparu lleoedd diogel a chefnogol i bobl sengl sy’n ddigartref, gyda chyfleusterau cymunedol a mannau awyr agored sy’n creu amgylchedd sefydlog i breswylwyr a’u hanifeiliaid anwes.

Dros y flwyddyn ddiwethaf, mae’r elusen wedi gweithio gyda’r Dogs Trust i ddod yn ddarparwr gwasanaeth sy’n croesawu anifeiliaid anwes, gan ganiatáu i bobl sy’n ddigartref gael mynediad at ei gwasanaethau, hyd yn oed os ydyn nhw’n berchen ar gi. Er mwyn cefnogi’r newidiadau hyn, mae’r Dogs Trust yn cynnig cefnogaeth bwrpasol a chyngor parhaus ar bopeth o bolisïau sy’n croesawu cŵn i adnoddau ymddygiad.

Mae’r Dogs Trust yn credu na ddylai unrhyw un gael ei orfodi i ddewis rhwng eu ci a lle diogel i gysgu; fodd bynnag, mae llawer o bobl sy’n ddigartref yn wynebu’r penderfyniad hwnnw, gan nad yw llawer o wasanaethau digartrefedd yn croesawu anifeiliaid anwes.

Yn wir, canfu ymchwil gan Dogs Trust fod 70% o weithwyr proffesiynol sy’n cefnogi’r rhai sy’n ddigartref wedi dweud bod eu cleientiaid wedi profi rhwystrau wrth geisio cael mynediad at wasanaethau digartrefedd oherwydd bod ganddynt gi.

textimgblock-img

Meddai Si, un o’r preswylwyr sy’n byw gyda’r Wallich yn Abertawe:

“Fy nghi Smudge yw fy myd.

“Rydyn ni wedi bod gyda’n gilydd trwy’r holl amseroedd anodd, mae hi’n golygu cymaint i mi, hi yw fy ffrind gorau.

“Mae The Wallich wedi bod mor wych. Maen nhw’n helpu i gael trefn ar bethau ac ar Smudge hefyd.

“Mae hi’n cael ei bwydo’n dda ac yn cael gofal; mae angen i mi wneud yn siŵr nad ydi hi’n mynd yn rhy dew nawr!

“Mae byw yma gyda hi yn gwneud i mi deimlo fy mod wedi setlo’n braf ac y galla i wneud unrhyw beth.”

Mae’r gymeradwyaeth arbennig hon gan y Dogs Trust, elusen lles cŵn fwyaf y DU, yn cael eu rhoi i wasanaethau sy’n mynd y filltir ychwanegol i helpu pobl, a’u cŵn i aros gyda’i gilydd, sy’n tynnu sylw at y gwaith gwych a wnaed gan The Wallich ledled Cymru.

Meddai Abigail Owens, Uwch Swyddog Ymgysylltu Rhanbarthol yn y Dogs Trust:

“Fe wnes i fwynhau ymweld â gwasanaethau The Wallich fel rhan o’r broses gymeradwyo hon. Mae The Wallich eisiau creu Cymru lle mae pobl a gwasanaethau yn cynnig gobaith, cefnogaeth ac atebion i roi terfyn ar ddigartrefedd, yn cynnwys i’r rhai sy’n profi hynny gyda’u hanifeiliaid anwes. Mae’r ymrwymiad hwn yn cael ei adlewyrchu’n glir yn eu gwaith.”

Meddai Karen Robson, Prif Weithredwr y prif elusen ddigartrefedd a chysgu allan yng Nghymru, The Wallich:

“Mae The Wallich yn falch iawn o fod yn aelod achrededig o gynllun Gyda’n Gilydd Drwy Ddigartrefedd y Dogs Trust. Rydyn ni’n falch ein bod wedi dangos ein hymrwymiad i gadw pobl sy’n cael eu heffeithio gan ddigartrefedd a’u hanifeiliaid anwes gyda’i gilydd; rydyn ni i gyd yn gwybod pwysigrwydd y berthynas rhwng perchennog ci a’i gydymaith.

“Rydyn ni’n annog pob landlord i ystyried sut y gall proses rentu sy’n croesawu anifeiliaid anwes weithio yn eu heiddo, ac rydyn ni’n am arwain trwy esiampl trwy ddangos ei fod o fudd i bawb sy’n cymryd rhan.

“Mae’r gymeradwyaeth hon yn golygu bod ein defnyddwyr gwasanaeth a’u cŵn yn cael cefnogaeth hanfodol a gofal rhagorol gan y Dogs Trust. Mae hefyd yn rhoi hyder i’n staff ein bod yn darparu’r amgylchedd gorau i bobl ac anifeiliaid anwes. Diolch i’r Dogs Trust am helpu i wneud y bartneriaeth hon yn bosibl.”

Mae pob un o hosteli The Wallich yn darparu cymorth pwrpasol i breswylwyr, gan gynnwys cymorth i fynychu apwyntiadau meddygon teulu, cael mynediad at wasanaethau camddefnyddio sylweddau ac iechyd meddwl, a gwasanaeth cwnsela The Wallich, y Rhwydwaith Myfyrio, sy’n helpu unigolion i fynd i’r afael â materion a gwneud newid parhaol, cadarnhaol. Wrth i breswylwyr feithrin ymddiriedaeth gyda’r elusen, maen nhw’n aml yn teimlo’n ddiogel i rannu eu straeon a sicrhau cefnogaeth hirdymor, gan leihau’r risg o ddychwelyd i fod yn ddigartref.

Mae prosiect Gyda’n Gilydd Drwy Ddigartrefedd y Dogs Trust yn gweithio’n uniongyrchol gyda gwasanaethau digartrefedd i’w helpu i ddod yn wasanaethau sy’n croesawu gŵn, gan gynnig cefnogaeth bwrpasol a chyngor parhaus ar bopeth o bolisïau sy’n croesawu cŵn i adnoddau ymddygiad.

I gael rhagor o wybodaeth am Gyda’n Gilydd Drwy Ddigartrefedd a’r cymorth sydd ar gael i berchnogion cŵn sy’n ddigartref neu mewn perygl o ddod yn ddigartref, ewch i www.dogstrusthopeproject.org.uk.