Mae The Wallich yn gweithio gyda HSBC UK i helpu pobl sy’n ddigartref i agor cyfrif banc

10 Aug 2023

Rydyn ni’n falch o gyhoeddi bod The Wallich bellach yn bartner swyddogol i ‘r canlynol: Gwasanaeth Dim Cyfeiriad Sefydlog HSBC UK

Mae rhaglen Dim Cyfeiriad Sefydlog HSBC, a ddatblygwyd gyda Shelter, yn wasanaeth arbenigol sy’n galluogi unigolion heb gyfeiriad sefydlog i agor cyfrif banc sylfaenol.

Mae HSBC yn gweithio gydag elusennau’r DU i helpu unigolion i adennill annibyniaeth ariannol.

Mae methu â fforddio math o ID, er enghraifft, weithiau’n rhwystr rhag cael trefn ar gyllid.

Mae chwalu’r rhwystrau i agor cyfrif banc i’r rheini sy’n profi digartrefedd neu helynt ariannol, yn ei dro, yn helpu i dorri’r cylch digartrefedd.

Mae’r bartneriaeth hon yn creu cysylltiad uniongyrchol rhwng staff cymorth The Wallich a staff HSBC ymroddedig, gan symleiddio proses sy’n aml yn gallu bod yn anodd i ddefnyddwyr ein gwasanaeth ei defnyddio ar eu pen eu hunain.

Sut mae’r gwasanaeth hwn yn gweithio?

Mae’r broses wedi’i chynllunio i fod mor syml â phosibl ac i osgoi’r angen am ID.

Er mwyn i unigolyn ddefnyddio’r gwasanaeth hwn, rhaid iddo fod yn profi digartrefedd neu anawsterau tai a bod yn cael cymorth gan The Wallich neu un o’r elusennau partner eraill.

Mae’r gwasanaeth ar gael ar unwaith drwy un o’r canghennau dynodedig sy’n gwasanaethu’r rhan fwyaf o’r dinasoedd a’r trefi mwyaf yng Nghymru.

Gall The Wallich gadarnhau pwy ydyw drwy lythyr wedi’i lofnodi ac apwyntiad wyneb yn wyneb gyda’r defnyddiwr gwasanaeth yn un o’r canghennau dynodedig.

Pam mae’r gwasanaeth hwn yn bwysig?

Mae cael cyfrif banc yn angen hanfodol a sylfaenol. Er mai arian parod oedd y tendr safonol ar draws y DU, cerdyn banc yw’r dull talu safonol erbyn hyn.

Mae’r oes ddigidol bresennol wedi arwain at y DU yn symud tuag at gymdeithas ddi-arian, a gafodd ei gwaethygu gan bandemig y Coronafeirws.

Nid yw llawer o bobl sy’n ddigartref heb gyfrif banc yn gallu ymdopi â bywyd bob dydd yn rhwydd na defnyddio eu cyfrif banc fel ffordd o gael mynediad at amrywiaeth o wasanaethau.

Drwy weithio mewn partneriaeth â HSBC a Shelter ar y fenter hon, bydd The Wallich yn helpu i greu cyfleoedd i’n defnyddwyr gwasanaeth gael gafael ar fudd-daliadau, sicrhau gwaith a thorri’r cylch digartrefedd.

Dywedodd David Bennett, Pennaeth Arloesi a Gwella Gwasanaethau yn The Wallich,

“Mae agor cyfrif banc yn gam hanfodol i rymuso unigolion sy’n ddigartref i gymryd camau tuag at lety mwy cynaliadwy ac annibyniaeth ariannol.

Bydd y bartneriaeth flaengar hon gyda HSBC yn cynnig ateb sy’n sicrhau bod cymorth ar gael ac yn hawdd cael gafael arno, gan alluogi defnyddwyr ein gwasanaeth i ffynnu.”

Tudalennau cysylltiedig