Dim ond ychydig o’r pethau y mae pobl Cymru yn delio â nhw yw biliau cynyddol, taliadau morgais a rhent uchel, prisiau bwyd eithafol a chyflogau isel

Mae’r argyfwng costau byw yn cael effaith uniongyrchol ar aelwydydd yng Nghymru ac yn rhoi llawer mwy o bobl mewn perygl o fod yn ddigartref.
Nod ymgyrch gaeaf The Wallich 2023 yw lliniaru’r caledi a wynebir gan unrhyw un sy’n ddigartref, sydd mewn perygl o fod yn ddigartref neu mewn tai agored i niwed yng Nghymru yn ystod misoedd oer y gaeaf.
Er bod camau cadarnhaol wedi cael eu cymryd i helpu i roi diwedd ar ddigartrefedd yng Nghymru a ledled y DU, mae digartrefedd yn dal ar gynnydd.
Yn ôl Llywodraeth Cymru a Sefydliad Bevan
- Roedd 9,246 o aelwydydd mewn perygl o fod yn ddigartref yn 2022/2023
- Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, cafodd 5,481 o aelwydydd eu rhoi mewn llety dros dro
- Mae pedwar o bob deg o bobl yn mynd heb wres yn eu cartref
- Mae 48% o bobl yng Nghymru yn dweud bod eu sefyllfa ariannol yn cael effaith negyddol ar eu hiechyd meddwl.
- Mae 52% o bobl ag anableddau wedi mynd heb wres yn eu cartref dros y tri mis diwethaf
Mae’r ffigurau hyn yn llwm, a chredwn fod pobl Cymru’n haeddu rhwyd ddiogelwch.
Dydy pobl ddim yn dewis mynd i drafferth, maen nhw’n cael eu gorfodi i sefyllfaoedd ariannol nad oes modd eu rheoli.
Beth mae The Wallich yn ei wneud
Wrth i’r tywydd ddechrau newid ac wrth i fisoedd y gaeaf ein cyrraedd, mae The Wallich yn mynd yr ail filltir.
Rydyn ni nawr yn mynd y tu hwnt i ddarparu allgymorth i bobl sy’n cysgu allan, llety a pharatoi ar gyfer dyfodol annibynnol.
Mae The Wallich yn llenwi bylchau cynyddol ym miliau bwyd pobl, gan helpu i glirio dyled a chael eitemau hanfodol newydd i wella iechyd a lles cyffredinol rhywun.
Hyd yma eleni, mae The Wallich wedi cefnogi dros 4,750 o bobl. Mae The Wallich yn cyflogi dros 450 o staff ac mae’n rhedeg dros 100 o brosiectau ledled Cymru.
Bydd yr arian a godir drwy’r ymgyrch hon yn allweddol i sicrhau bod ein staff arbenigol yn gallu parhau i fod yno i unrhyw un sydd ein hangen, 365 diwrnod y flwyddyn.
Beth allwch chi ei wneud i helpu The Wallich i leddfu caledi
Ymunwch â The Wallich y gaeaf hwn i gefnogi’r bobl sydd angen ein help ledled Cymru.
Trefnu rhodd reolaidd
Drwy drefnu rhodd reolaidd, gallech gael mwy o effaith a rhannu’r gost drwy gydol y flwyddyn.
- Gallai £2 y mis brynu sach gysgu i rywun sy’n cysgu allan
- Gallai £5 y mis (16 ceiniog y dydd) brynu gwres ar gyfer cartref
- Gallai £10 y mis brynu bwyd hanfodol
- Gallai £15 y mis brynu chwe sesiwn cwnsela iechyd meddwl
- Gallai £25 y mis brynu dodrefn ar gyfer cartref newydd
- Gallai £50 y mis sicrhau blaendal rhent
- Gallai £50 y mis helpu i dalu dyledion

Gwneud rhodd untro
Ni waeth pa mor fach, gallai rhodd untro helpu rhywun i gael gafael ar eitemau hanfodol yn ôl yr angen.
- Gallai £5 brynu cynnyrch hylendid hanfodol
- Gallai £10 brynu hetiau neu fenig thermol
- Gallai £20 brynu cyflenwad o fwyd sylfaenol
- Gallai £24 brynu sach gysgu i rywun sy’n cysgu allan
- Gallai £60 brynu gwres i gartref

Raffl
Chwaraewch i gael cyfle i ennill raffl gaeaf The Wallich. Mae tocynnau raffl yn dechrau am ddim ond £2 a gallech ennill un o’n gwobrau gwych.
Oes gennych chi ddawn dweud neu a oes gennych ambell i ddigwyddiad Nadoligaidd ar y gweill? Beth am werthu tocynnau raffl i ni yn eich cymuned. Rhagor o wybodaeth.
Gwneud i’ch siopa Nadolig fynd ymhellach
Os ydych chi wedi bod yn cynilo drwy gydol y flwyddyn, neu os ydych chi’n bwriadu siopa munud olaf, rydyn ni’n deall bod trin eich anwyliaid yn flaenoriaeth.
P’un ai a ydych chi’n siopa yn eich hoff siop ar y stryd fawr, neu fanwerthwr annibynnol, mae siopa drwy Give as You Live yn ffordd hawdd o godi arian i elusen o’ch dewis chi – a hynny heb gost i chi.
Mae’n ffordd syml ac awtomatig o gefnogi The Wallich bob tro rydych chi’n siopa, heb gostio ceiniog yn ychwanegol i chi.
Rydyn ni’n gwybod bod arian yn brin a hyd yn oed os hoffech chi wneud hynny, dydy gwneud rhodd ariannol ddim bob amser yn bosibl
Dyma rai ffyrdd y gallwch chi wneud gwahaniaeth heb roi’n ariannol.
Gwirfoddoli
Mae eich amser a’ch sgiliau yn amhrisiadwy.
P’un ai a ydych chi’n gwirfoddoli yn un o’n gwasanaethau neu’n rhannu eich arbenigedd i helpu pobl i feithrin sgiliau a hyder newydd.
Beth bynnag yw eich sgiliau a’ch diddordebau, byddwn yn eich helpu i ddod o hyd i’r cyfle gwirfoddoli sydd fwyaf addas i chi.
Dysgu am ddigartrefedd
Mae digartrefedd yn gallu bod yn bwnc cymhleth a dadleuol.
Mae cymryd yr amser i ddeall yr achosion sylfaenol a’r canlyniadau parhaus yn gam sylweddol tuag at leihau’r stigma cymdeithasol sy’n gysylltiedig â digartrefedd.
Sicrhewch eich bod yn cael yr wybodaeth ddiweddaraf ac anogwch eich cylch i ymuno â chi i ddeall digartrefedd.
Dilynwch The Wallich ar y cyfryngau cymdeithasol i gael gwybod am ddatblygiadau diweddar, newidiadau polisi, ymgyrchoedd dylanwadol, straeon bywyd go iawn, a mwy.
Codi arian
Cymerwch ran mewn digwyddiad sydd wedi’i gynllunio ymlaen llaw neu trefnwch eich digwyddiad eich hun yn eich ysgol, gweithle neu gymuned.
Mae pob ceiniog a godwch yn mynd yn uniongyrchol tuag at ddarparu adnoddau a chefnogaeth hanfodol i bobl sy’n ddigartref.
Mae ein tîm codi arian yma i’ch cefnogi bob cam o’r ffordd.
Lledaenu’r gair
Codi ymwybyddiaeth o ddigartrefedd yn eich cymuned.
Rhannwch ein hymgyrch ar y cyfryngau cymdeithasol, siaradwch â’ch ffrindiau a’ch teulu am y materion y mae pobl yn eu hwynebu, a’u hannog i gymryd rhan.
Mae eich ymgysylltiad yn gam hollbwysig tuag at dosturi ac ymwybyddiaeth ynghylch digartrefedd.
Instagram: @homelessinwales | Facebook: The Wallich
Twitter: @thewallich | LinkedIn: The Wallich
Diolchodd Mike Walmsley, Rheolwr Codi Arian ac Ymgysylltu â’r Gymuned The Wallich, am gefnogaeth barhaus y gymuned.
“Rydyn ni’n hynod ddiolchgar i bawb sy’n cefnogi ein hymgyrch gaeaf eleni.
Mae’r argyfwng costau byw yn cael effaith anghymesur ar aelwydydd incwm is yng Nghymru ac yn rhoi llawer mwy o bobl mewn perygl o fod yn ddigartref.
Gyda’ch cymorth chi, gallwn atal rhagor o deuluoedd rhag cyrraedd argyfwng y gaeaf hwn.”