Ymgyrch codi arian dros y gaeaf The Wallich i leddfu caledi i bobl yng Nghymru

26 Oct 2023

Dim ond ychydig o’r pethau y mae pobl Cymru yn delio â nhw yw biliau cynyddol, taliadau morgais a rhent uchel, prisiau bwyd eithafol a chyflogau isel

Mae’r argyfwng costau byw yn cael effaith uniongyrchol ar aelwydydd yng Nghymru ac yn rhoi llawer mwy o bobl mewn perygl o fod yn ddigartref.

Nod ymgyrch gaeaf The Wallich 2023 yw lliniaru’r caledi a wynebir gan unrhyw un sy’n ddigartref, sydd mewn perygl o fod yn ddigartref neu mewn tai agored i niwed yng Nghymru yn ystod misoedd oer y gaeaf.

Er bod camau cadarnhaol wedi cael eu cymryd i helpu i roi diwedd ar ddigartrefedd yng Nghymru a ledled y DU, mae digartrefedd yn dal ar gynnydd.

Yn ôl Llywodraeth Cymru a Sefydliad Bevan

Mae’r ffigurau hyn yn llwm, a chredwn fod pobl Cymru’n haeddu rhwyd ddiogelwch.

Dydy pobl ddim yn dewis mynd i drafferth, maen nhw’n cael eu gorfodi i sefyllfaoedd ariannol nad oes modd eu rheoli.

Beth mae The Wallich yn ei wneud

Wrth i’r tywydd ddechrau newid ac wrth i fisoedd y gaeaf ein cyrraedd, mae The Wallich yn mynd yr ail filltir.

Rydyn ni nawr yn mynd y tu hwnt i ddarparu allgymorth i bobl sy’n cysgu allan, llety a pharatoi ar gyfer dyfodol annibynnol.

Mae The Wallich yn llenwi bylchau cynyddol ym miliau bwyd pobl, gan helpu i glirio dyled a chael eitemau hanfodol newydd i wella iechyd a lles cyffredinol rhywun.

Hyd yma eleni, mae The Wallich wedi cefnogi dros 4,750 o bobl. Mae The Wallich yn cyflogi dros 450 o staff ac mae’n rhedeg dros 100 o brosiectau ledled Cymru.

Bydd yr arian a godir drwy’r ymgyrch hon yn allweddol i sicrhau bod ein staff arbenigol yn gallu parhau i fod yno i unrhyw un sydd ein hangen, 365 diwrnod y flwyddyn.

Beth allwch chi ei wneud i helpu The Wallich i leddfu caledi

Ymunwch â The Wallich y gaeaf hwn i gefnogi’r bobl sydd angen ein help ledled Cymru.

Trefnu rhodd reolaidd

Drwy drefnu rhodd reolaidd, gallech gael mwy o effaith a rhannu’r gost drwy gydol y flwyddyn.

Gwneud rhodd untro

Ni waeth pa mor fach, gallai rhodd untro helpu rhywun i gael gafael ar eitemau hanfodol yn ôl yr angen.

Raffl

Chwaraewch i gael cyfle i ennill raffl gaeaf The Wallich. Mae tocynnau raffl yn dechrau am ddim ond £2 a gallech ennill un o’n gwobrau gwych.

Oes gennych chi ddawn dweud neu a oes gennych ambell i ddigwyddiad Nadoligaidd ar y gweill? Beth am werthu tocynnau raffl i ni yn eich cymuned. Rhagor o wybodaeth.

Gwneud i’ch siopa Nadolig fynd ymhellach

Os ydych chi wedi bod yn cynilo drwy gydol y flwyddyn, neu os ydych chi’n bwriadu siopa munud olaf, rydyn ni’n deall bod trin eich anwyliaid yn flaenoriaeth.

P’un ai a ydych chi’n siopa yn eich hoff siop ar y stryd fawr, neu fanwerthwr annibynnol, mae siopa drwy Give as You Live yn ffordd hawdd o godi arian i elusen o’ch dewis chi – a hynny heb gost i chi.

Mae’n ffordd syml ac awtomatig o gefnogi The Wallich bob tro rydych chi’n siopa, heb gostio ceiniog yn ychwanegol i chi.

Rydyn ni’n gwybod bod arian yn brin a hyd yn oed os hoffech chi wneud hynny, dydy gwneud rhodd ariannol ddim bob amser yn bosibl

Dyma rai ffyrdd y gallwch chi wneud gwahaniaeth heb roi’n ariannol.

Gwirfoddoli

Mae eich amser a’ch sgiliau yn amhrisiadwy.

textimgblock-img

P’un ai a ydych chi’n gwirfoddoli yn un o’n gwasanaethau neu’n rhannu eich arbenigedd i helpu pobl i feithrin sgiliau a hyder newydd.

Beth bynnag yw eich sgiliau a’ch diddordebau, byddwn yn eich helpu i ddod o hyd i’r cyfle gwirfoddoli sydd fwyaf addas i chi.

Dod yn wirfoddolwr

Dysgu am ddigartrefedd

Mae digartrefedd yn gallu bod yn bwnc cymhleth a dadleuol.

Mae cymryd yr amser i ddeall yr achosion sylfaenol a’r canlyniadau parhaus yn gam sylweddol tuag at leihau’r stigma cymdeithasol sy’n gysylltiedig â digartrefedd.

Sicrhewch eich bod yn cael yr wybodaeth ddiweddaraf ac anogwch eich cylch i ymuno â chi i ddeall digartrefedd.

Dilynwch The Wallich ar y cyfryngau cymdeithasol i gael gwybod am ddatblygiadau diweddar, newidiadau polisi, ymgyrchoedd dylanwadol, straeon bywyd go iawn, a mwy.

Codi arian

textimgblock-img

Cymerwch ran mewn digwyddiad sydd wedi’i gynllunio ymlaen llaw neu trefnwch eich digwyddiad eich hun yn eich ysgol, gweithle neu gymuned.

Mae pob ceiniog a godwch yn mynd yn uniongyrchol tuag at ddarparu adnoddau a chefnogaeth hanfodol i bobl sy’n ddigartref.

Mae ein tîm codi arian yma i’ch cefnogi bob cam o’r ffordd.

Lledaenu’r gair

Codi ymwybyddiaeth o ddigartrefedd yn eich cymuned.

Rhannwch ein hymgyrch ar y cyfryngau cymdeithasol, siaradwch â’ch ffrindiau a’ch teulu am y materion y mae pobl yn eu hwynebu, a’u hannog i gymryd rhan.

Mae eich ymgysylltiad yn gam hollbwysig tuag at dosturi ac ymwybyddiaeth ynghylch digartrefedd.

Instagram: @homelessinwales | Facebook: The Wallich

Twitter: @thewallich | LinkedIn: The Wallich

Diolchodd Mike Walmsley, Rheolwr Codi Arian ac Ymgysylltu â’r Gymuned The Wallich, am gefnogaeth barhaus y gymuned.

“Rydyn ni’n hynod ddiolchgar i bawb sy’n cefnogi ein hymgyrch gaeaf eleni.

Mae’r argyfwng costau byw yn cael effaith anghymesur ar aelwydydd incwm is yng Nghymru ac yn rhoi llawer mwy o bobl mewn perygl o fod yn ddigartref.

Gyda’ch cymorth chi, gallwn atal rhagor o deuluoedd rhag cyrraedd argyfwng y gaeaf hwn.”

Drwy ddod at ein gilydd fel cymuned, gallwn sicrhau bod gan bawb fynediad at y gefnogaeth sydd ei hangen arnynt i ailadeiladu eu bywydau a symud i ffwrdd o ddigartrefedd, am byth.

Tudalennau cysylltiedig