Ni ddylid tanbrisio rôl ymddiriedolwyr o ran llywodraethu elusen. Mae ein bwrdd o arbenigwyr amrywiol yn helpu The Wallich i barhau’n ddiddyled, i gydymffurfio ac i fod yn ddiogel ac yn gorff yr ymddiriedir ynddo.
Mae’r trydydd sector yn wynebu nifer o heriau ar hyn o bryd, gyda galwadau’n cynyddu’n barhaus ac adnoddau nad ydynt yn cynyddu ar yr un raddfa.
Fel ymddiriedolwyr, maent wedi ymrwymo i sicrhau bod gwasanaethau’n cael eu darparu i roi’r budd gorau posibl i’r cyhoedd, gan gynnal y safonau moesegol uchaf ar yr un pryd.
Yn The Wallich, rydym yn cadw gwerthoedd ein sefydliad yn agos at ein calonnau ac maent yn trosglwyddo’n uniongyrchol i’r modd yr ydym yn sefydlu diwylliant yr elusen ar lefel bwrdd. Yn y pen draw, ein rôl ni yw craffu ond rhaid gwrthbwyso hyn â’n rôl gefnogol fel cyfeillion beirniadol.
Ar hyn o bryd mae Oliver yn gweithio i Platfform, ond cyn hynny bu’n gweithio i Cymorth Cymru, gan gynrychioli mudiadau sy’n perthyn iddo gan gynnwys The Wallich, Llywodraeth Cymru a mwy.
Gyda chefndir proffesiynol ym maes marchnata, polisi a chyfathrebu, a phrofiadau personol o ddiffyg pŵer mewn lleoliadau GIG mawr, mae’n gobeithio dod â rhai o’r sgiliau a’r profiadau hynny i The Wallich.
Mae Ellie yn Uwch Reolwr ac Arweinydd Perfformiad mewn cynnal adolygiadau ariannol o elusennau, a chleientiaid ym maes addysg a llywodraeth ganolog.
Gyda chefndir mewn archwilio allanol, archwilio mewnol a sicrwydd risg, mae Ellie bellach yn arwain tîm archwilio elusennau KPMG UK.
Mae Ellie yn gyfrifydd siartredig sydd wedi bod yn ymddiriedolwr gydag elusen lles anifeiliaid cyn hyn, ac mae bellach yn cynnig yr arbenigedd hwn i’r Wallich fel Ymddiriedolwr a Thrysorydd. Mae hefyd yn Gadeirydd y Pwyllgor Cyllid ac Archwilio.
Mae Simon yn Athro adnabyddus a mawr ei barch ym Mhrifysgol Caerdydd.
Yn ogystal â phortffolio academaidd enfawr o waith cyhoeddedig, mae Simon yn arbenigo mewn gwerthuso gwasanaethau ac asesiadau effaith yn ymwneud â lleihau niwed cysylltiedig ag alcohol.
Mae Siobhan yn gyfreithiwr yn Darwin Gray.
Mae’n canolbwyntio ar Lywodraethu cyffredinol yn The Wallich a yn Gadeirydd y pwyllgor AD.
Polly yw Cyfarwyddwr TG Valleys to Coast.
Cyn hynny, treuliodd 14 mlynedd yn cefnogi defnyddio technoleg a data i helpu unigolion ac i ymgyrchu dros newid polisi.
Mae ganddi MBA o’r Brifysgol Agored.
Mae Mary-Ann yn Ymgynghorydd Iechyd Cyhoeddus yn Iechyd Cyhoeddus Cymru.
Mae hi’n gyfrifol am raglenni cenedlaethol sydd â’r nod o greu’r amodau i gefnogi ac i wella iechyd a llesiant meddyliol a chorfforol yn y gweithle a gwreiddio dulliau ataliol ar draws y GIG.
Mae hi’n Gymrawd Cyfadran Iechyd y Cyhoedd ac wedi gweithio ar ystod eang o faterion iechyd y cyhoedd mewn rolau blaenorol, gan gynnwys camddefnyddio sylweddau, iechyd meddwl a llesiant, ac iechyd troseddwyr.
Mae hi wedi bod yn aelod o Fwrdd Alcohol Concern yn y DU ac yn ddarparwr gwasanaethau cymdeithasol i deuluoedd yn Seland Newydd.
Mae Helen yn gweithio i Lywodraeth Cymru ac mae ganddi gefndir ym maes datblygu a chyflwyno polisïau.
Ar hyn o bryd, mae’n canolbwyntio ar ddatblygu’r gweithlu a phobl yn y GIG, cyflawni newid sefydliadol sy’n cyd-fynd â gwerthoedd, a chefnogi llywodraethu da a rheoli risgiau.
Mae Helen yn academydd sy’n arbenigo mewn hunaniaeth a chynhwysiant yn y gwaith ac mae wedi’i lleoli yn Ysgol Rheolaeth Prifysgol Abertawe. Sefydlodd raglen ymchwil arloesol – Breaking Binaries – i archwilio hunaniaethau amrywiol a lleiafrifol ar draws amrywiaeth o gyd-destunau.
Mae Helen yn frwd dros gynhyrchu tystiolaeth o safon i greu arferion sefydliadol mwy teg a chynaliadwy. Mae’n defnyddio ei hymchwil i roi cymorth ac arweiniad i arweinwyr ar draws amrywiaeth o sectorau.
Cyn dod yn academydd, fel seicolegydd sefydliadol, gweithiodd Helen gydag amrywiaeth o sectorau, gan roi cyngor ar gynhwysiant yn y gweithle, perfformiad, a dethol arweinwyr sydd â llawer o botensial.
Mae gan Kirsty 20 mlynedd o brofiad ym maes tai, digartrefedd a gwasanaethau cymorth ac mae’n frwd dros sicrhau bod gan bawb le diogel i’w alw’n gartref. Mae ganddi brofiad uwch reoli mewn nifer o sefydliadau tai, yn fwyaf diweddar fel Cyfarwyddwr Tai a Chymunedau yng Ngrŵp Tai Cymunedol Cynon Taf, lle’r oedd yn gyfrifol am ystod eang o wasanaethau i denantiaid a chymunedau yn Rhondda Cynon Taf.
Mae hi wedi ymuno â Chymdeithas Tai Cymuned Caerdydd yn ddiweddar fel Cyfarwyddwr Corfforaethol Tai a Chymunedau, lle gall ganolbwyntio ar gefnogi’r tîm i barhau i ddarparu profiad rhagorol i gwsmeriaid drwy wasanaethau tai a chymunedol yng Nghaerdydd.
Mae Kirsty wedi ymuno â The Wallich fel Ymddiriedolwr oherwydd brwdfrydedd a phenderfyniad y sefydliad i roi diwedd ar ddigartrefedd, cefnogi pobl i lwyddo a chreu newid cymdeithasol go iawn. Mae hanes hir y sefydliad o wthio ffiniau’r hyn sy’n bosibl a helpu pobl i fyw bywyd sy’n rhydd o’r trawma o beidio â chael lle i’w alw’n gartref yn cyd-fynd â’i gwerthoedd a’i hawydd hi i wneud gwahaniaeth cadarnhaol.
Y tu allan i’r gwaith, mae Kirsty yn mwynhau treulio amser gyda’i theulu ifanc a rhedeg fel ffordd o gadw’n heini ac yn iach yn gorfforol ac yn feddyliol.
Mae Lauren wedi gweithio yn y sector tai cymdeithasol am 17 o flynyddoedd ac yn ystod y cyfnod hwnnw, mae wedi datblygu dealltwriaeth ddofn o’r heriau sy’n gysylltiedig â darparu tai a chymorth o safon. Yn ei rôl bresennol fel Arweinydd Diogelu a Phartneriaethau ar gyfer Cymdeithas Tai Cymuned Caerdydd, mae hi’n gyfrifol am greu diwylliant diogelu cryf a chefnogi’r sefydliad i gyflawni ei ddyletswydd gyfreithiol ac amddiffyn y rhai sydd mewn perygl. Mae’n rheoli partneriaethau llety â chymorth a llety dros dro, gan ddarparu gwasanaethau i gleientiaid sydd ag amrywiaeth o anghenion. Mae Lauren yn frwd dros godi proffil diogelu ym maes tai, a hyrwyddo rôl tai yn y gwaith o ddiogelu. Mae hi’n eiriolwr dros rannu arferion da a chodi safonau.
Mae Lauren wedi bod â diddordeb penodol mewn digartrefedd a thai â chymorth drwy gydol ei gyrfa, gan gredu ym mhwysigrwydd hanfodol ‘cartref’ fel sylfaen er mwyn i bobl allu ffynnu ac adeiladu bywydau hapus a bodlon.
Mae Lauren wedi ymuno fel Ymddiriedolwr oherwydd ei bod wedi’i hysbrydoli gan waith arloesol The Wallich. Mae hi’n edrych ymlaen at ddefnyddio ei sgiliau a’i phrofiad i gefnogi The Wallich i adeiladu ar ei lwyddiant, a chyflawni ei uchelgeisiau.
Y tu allan i’r gwaith, mae Lauren yn mwynhau treulio amser gyda’i theulu a’u ci achub, Lenny.
Os oes gennych chi sgiliau hanfodol y gallwch ddod â nhw i Fwrdd Ymddiriedolwyr The Wallich, cofrestrwch eich diddordeb i ymuno â’n bwrdd drwy e-bost: mail@thewallich.net