Rhoddion ar y radio

Ydych chi wedi ein clywed ni ar y radio? Beth am roi arian i The Wallich?

O bryd i’w gilydd, mae The Wallich yn cynnal ymgyrchoedd codi arian ar orsafoedd radio yng Nghymru. 

Os ydych chi wedi clywed un o’n hymgyrchoedd yn eich car, yn y swyddfa neu efallai wrth gerdded y ci, rydym yn ddiolchgar eich bod wedi agor ein tudalen rhoddion ar y radio. 

Diolch am eich cefnogaeth

Bydd eich rhodd yn helpu pobl fel Charlie

Gyda chymaint mwy o bobl yn ddigartref, gallwch fod yn achubiaeth i’r rheini mewn argyfwng, i bobl fel Charlie. 

Symudodd Charlie* i eiddo ar ôl cyfnod o fod yn ddigartref. Roedd yr eiddo yn gragen wag gyda lloriau concrid moel, un gadair ac un gwely.

Mae gan Charlie heriau iechyd meddwl difrifol a doedd yr amgylchedd ddim yn addas i’w lesiant.

Roedd The Wallich wedi darparu carpedi, celfi meddal a chelfi eraill i droi’r fflat gwag yn gartref.

Ymgyrch codi arian dros y gaeaf The Wallich i leddfu caledi i bobl yng Nghymru

* Astudiaeth achos cleientiaid o adroddiad Cronfa Cymorth Ariannol The Wallich. Mae’r holl enwau a manylion adnabod wedi cael eu newid i ddiogelu’r cleient. 

I gael rhagor o wybodaeth am waith The Wallich, ewch i’n gwefan. 

Efallai yr hoffech ymweld â’r tudalennau: 

Astudiaethau achos

Ein gwasanaethau

Ydy hyn wedi’ch ysbrydoli i gefnogi The Wallich ymhellach? 

Ewch i’n tudalen Codi Arian

Ewch i’n tudalen Gwirfoddoli

Ewch i’n tudalen Beth yw digartrefedd

Tudalennau cysylltiedig