Raffl Gaeaf The Wallich

Chwaraewch raffl gaeaf elusen The Wallich am gyfle i ennill gwobrau gwych

Raffl yn cau:Dydd Iau 28 Ionawr 2027, 5pm
Cynhelir y raffl:Dydd Gwener 29 Ionawr 2027, 10am

Mae tocynnau raffl yn costio £2 yr un yn unig a gellir eu prynu ar-lein.

Mae pob tocyn raffl a brynwch yn helpu i greu cyfleoedd i bobl symud o ddigartrefedd tuag at ddyfodol mwy diogel ac annibynnol.

Gwobrau’r raffl ar gyfer 2026

Rhowch gynnig arni nawr i gael cyfle i ennill un o’n 26 gwobr anhygoel, gan gynnwys gwyliau yn Bluestone, taleb gwerth £250 yn M&S, diwrnod ar y trac rasio gyda PSR Experience, tocynnau i Arena Abertawe, a llawer iawn mwy o wobrau gwych.

Ni fydd tocynnau papur ar gael, ond bydd rhifau tocynnau raffl yn cael eu cyhoeddi trwy e-bost.

 

Pam cefnogi raffl elusen The Wallich?

Bob gaeaf, mae miloedd o bobl ledled Cymru yn wynebu realiti anodd digartrefedd.

Gyda’ch cefnogaeth chi, gall The Wallich fod yno pan fo gwir angen.

Bob blwyddyn, mae The Wallich yn helpu mwy na 7,000 o bobl sy’n profi digartrefedd neu ar fin colli eu cartrefi.

Diolch i’ch cefnogaeth chi, gallwn gamu i mewn ar yr adegau hollbwysig hynny pan fydd gweithred fach o garedigrwydd yn gallu gwneud byd o wahaniaeth, boed hynny drwy dalu dirwy na ellir ei fforddio, darparu eitemau hanfodol i rywun sydd heb ddim byd, neu gynnal gweithdai creadigol.

Trwy gymryd rhan yn  Raffl Gaeaf The Wallich, rydych chi’n gwneud mwy na chwarae am wobr yn unig, rydych chi’n helpu pobl go iawn trwy adegau o argyfwng.

Mae pob tocyn sy’n cael ei werthu yn mynd tuag at gamau bach o gefnogaeth ond sy’n newid bywydau.

Y pethau bach yma – gwely, ffôn, cawod gynnes – sy’n gallu adfer urddas, gobaith, a sefydlogrwydd.

Gyda’n gilydd, gallwn wneud yn siŵr nad oes unrhyw un yn wynebu’r gaeaf ar ei ben ei hun.

textimgblock-img

Os rydych chi neu aelod o’ch teulu yn teimlo eich bod yn cael problemau gyda gamblo, gallwch chwilio am gyngor a chefnogaeth gan gwnselwyr proffesiynol ar Gambleaware drwy ffonio 0808 8020 133 am ddim neu fynd ar y wefan www.gambleaware.co.uk.