Mae croeso i chi ddewis a ydych chi am gerdded, rhedeg, sglefr-rolio neu wneud rhywbeth mwy creadigol! Byddwch yn cael het bwced rad ac am ddim ‘Making Homelessness History’ ar ôl i chi gasglu eich £10 cyntaf mewn rhoddion.
Mae her TheWallich100 yn ymwneud ag elwa o fanteision gweithgaredd corfforol ar yr un pryd â chodi ymwybyddiaeth o ddigartrefedd yng Nghymru. Wrth wneud hynny, byddwch yn codi arian hanfodol i helpu i roi diwedd ar ddigartrefedd.
Mae’r her hon yn cael ei chynnal yn gyfan gwbl drwy Facebook.
Gyda’ch gilydd, byddwch chi’n creu cymuned ar-lein #TheWallich100 i rannu awgrymiadau codi arian, i gefnogi eich gilydd ac i bostio lluniau o’ch teithiau.
Byddwch hefyd yn dysgu sut bydd yr arian rydych chi’n ei godi yn cael ei ddefnyddio gan The Wallich i helpu’r rheini rydyn ni’n eu cefnogi.
Dechreuwch drwy rannu eich tudalen codi arian ar eich proffil Facebook a gofyn i’ch teulu a’ch ffrindiau a ydyn nhw’n fodlon eich cefnogi gyda’r her hon.
Yn ystod 2023, roedd ein cefnogwyr anhygoel wedi codi mwy na £3,440 drwy gamu ymlaen i roi diwedd ar ddigartrefedd yng Nghymru
Cymerwch eich cam cyntaf chi drwy gofrestru am yr her heddiw.