Rwy’n falch iawn o fod yn Ymddiriedolwr yn The Wallich ac yn Drysorydd y Bwrdd.
Fe wnes i ddod yn Ymddiriedolwr am y tro cyntaf yn 2017 – roedd yn rhywbeth roeddwn i wedi bod eisiau ei wneud ers i mi ddechrau fy swydd yn KPMG.
Gan fy mod yn gweithio gyda’r sector cyhoeddus ac elusennau ym maes archwilio a sicrwydd, roeddwn yn gwybod beth oedd y rôl yn ei olygu ac roeddwn wedi gweld yn uniongyrchol faint o werth y gallai’r Ymddiriedolwr cywir ei roi i sefydliad. Roeddwn i’n gwybod fy mod i eisiau defnyddio fy sgiliau i greu effaith gadarnhaol.
Ar ôl tair blynedd fel Ymddiriedolwr sefydliad lles anifeiliaid, daeth yr amser i gael profiad newydd a daeth cyfle i ddod yn Drysorydd Bwrdd Ymddiriedolwyr The Wallich.
Mae cael fy mhenodi i Fwrdd The Wallich yn fraint enfawr ac rydw i mor falch o fod yn rhan o achos a mudiad rwy’n teimlo’n gryf iawn yn ei gylch.
Yn 2019, cafodd aelod o’m teulu ei wneud yn ddigartref, ac er ei fod yn achos rydw i wastad wedi teimlo’n gryf yn ei gylch, doeddwn i ddim wedi sylweddoli cymhlethdod y broblem yn llwyr, sef y rhwystrau diddiwedd a’r ymdrech amhosibl i bob golwg i ddod o hyd i loches a llety iddo ailddechrau adeiladu ei fywyd.
Drwy elusennau fel The Wallich y mae wedi setlo i fflat newydd o’r diwedd. Mae’n adennill ei hyder ac yn benderfynol o fod yn hunangynhaliol.
Gall pob un ohonom gyfaddef nad yw pethau wedi bod yn hawdd yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf yn sgil y pandemig, ond rwy’n credu’n gryf bod pethau cadarnhaol wedi dod i’r amlwg.
Un o’r pethau cadarnhaol pwysig yw ein bod wedi profi, gyda’r ymgyrch iawn, y gallwn gymryd camau breision tuag at roi diwedd ar ddigartrefedd.
Ar ôl blynyddoedd o deimlo’n anobeithiol, o’r diwedd roedd y pandemig yn golygu bod yr arian a’r adnoddau ar gael er mwyn cael pobl yn uniongyrchol oddi ar y strydoedd ac i mewn i lety.
Rwy’n teimlo’n hynod o gryf na allwn adael i’r cyfle hwn fynd heibio ac y dylen ni adeiladu arno tuag at ddyfodol cynaliadwy o loches a llety i’r rhai sydd ei angen.
Dyna pam fy mod i eisiau ymuno â The Wallich, bod yn rhan o hynny a cheisio cyfrannu fy rhan fach i yrru’r agenda honno.
Ers ymuno â The Wallich, rydyn ni wedi gwneud penderfyniadau pwysig a dewr.
Mae mor gyffrous bod yn rhan o sefydliad sydd wir eisiau newid, yn hytrach na rhoi atebion tymor byr o hyd.
Mae bod yn Ymddiriedolwr yn rhoi cyfle i mi ddod â’m sgiliau, fy arbenigedd a’m profiad, er mwyn i The Wallich allu dod yn bopeth y dylai fod.
Oherwydd hynny, rwy’n teimlo’n falch fy mod yn helpu’r elusen, a hefyd yn cael dysgu sut beth yw bod ar ochr arall y bwrdd, gan wella fy sgiliau fy hun yn y broses.
Byddwn yn annog unrhyw un sydd â gwybodaeth a phrofiad yn eu maes, boed hynny’n gyllid, Adnoddau Dynol, yr iaith Gymraeg, cynaliadwyedd amgylcheddol, beth bynnag y gallwch ei gynnig – i ymuno fel Ymddiriedolwr a defnyddio’r hyn rydych chi’n ei wybod i greu effaith fwy fyth.