Mae camddefnyddio alcohol neu bod yn gaeth i alcohol yn aml yn gysylltiedig â digartrefedd.
Fodd bynnag, gan fod yfed yn rhywbeth amlwg yn niwylliant Prydain, rydyn ni’n gwybod nad oes yn rhaid ichi fod yn ddigartref i orfod wynebu’r broblem hon.
Wrth edrych ar Gymru gyfan, mae Alcohol Change UK yn dangos bod 54,900 o bobl wedi cael eu derbyn i’r ysbyty oherwydd alcohol yn 2017/18.
Mewn achosion lle mae digartrefedd ac alcohol yn gysylltiedig, mae’n aml wedi’i wreiddio, yn llawer dyfnach, mewn trawma yn y gorffennol.
Yn The Wallich, rydyn ni’n cynnig cymorth sy’n seiliedig ar ddealltwriaeth o drawma i’n defnyddwyr gwasanaeth sy’n cael trafferth gydag alcohol; yn gweithio gydag asiantaethau eraill sy’n arbenigo mewn alcohol ac yn defnyddio dull sy’n canolbwyntio ar leihau niwed.
Er mwyn meithrin perthynas gyda’u gweithiwr cymorth, mae defnyddwyr ein gwasanaeth yn aml yn elwa ar arbenigedd pobl sydd wedi profi’r problemau y maen nhw’n eu hwynebu.
Mae llawer o’n gweithwyr cymorth yn dryloyw ynghylch eu profiadau eu hunain yn y gorffennol o ddigartrefedd, carchar, iechyd meddwl neu gaethiwed.
Mae un Uwch Weithiwr Cymorth o’r fath, Alison, wedi bod yn ddigon caredig i rannu ei stori â ni – yn y gobaith y bydd yn helpu eraill ar eu taith i wella.
“Roedd fy mam yn ‘alcoholig’ ac wedi lladd ei hun pan oeddwn yn 11 oed.
Roeddwn i’n benderfynol na fyddwn i’n dilyn yr un patrwm â hi, ond wrth edrych yn ôl rwy’n sylweddoli nawr nad oeddwn i’n gwybod llawer ynglŷn â sut mae’n gallu effeithio ar unrhyw un.
Roeddwn i bob amser yn blentyn a oedd yn orbryderus ac yn teimlo nad oedd croeso i mi.
Roedd bod yn rhan o deulu un rhiant yn ychwanegu at y straen a’r teimlad o unigrwydd yn fy arddegau.
Pan oeddwn i’n 15 oed, fe gefais i fy niod gyntaf.
Yn sydyn, doedd dim o hynny’n bwysig mwyach, roeddwn i’n teimlo’n y gallwn i drechu unrhyw beth a diflannodd fy holl broblemau.
Symudais i Lundain pan oeddwn yn 19 oed a chael swydd wych. Gweithiais yn galed i ddatblygu fy ngyrfa.
Teithiais y byd a dywedodd fy ffrindiau fy mod yn rhan o’r grŵp pwysig, sef yr “it crowd” a oedd yn cymryd cyffuriau, yn mynd i bartïon ac yn mwynhau popeth yr oedd gan Lundain i’w gynnig.
Fodd bynnag, roeddwn i wedi sylwi nad oedd pawb eisiau mynd i bartïon tan oriau mân y bore, yna mynd adref ac yfed mwy.
Ond dyna oedd hanes fy arferion yfed i.
Erbyn i mi gyrraedd 37, roeddwn i wedi gadael fy swydd ac es i byth yn ôl.
Roedd y 10 mlynedd nesaf yn ymwneud â rhoi’r gorau i yfed am chwe mis, mynd yn ôl i yfed, bron â cholli popeth a newid o yfed alcohol i smocio Canabis. Yn gyffredinol, roeddwn i’n ceisio ymdopi â bywyd.
Doeddwn i ddim yn gallu ymdopi â sut roeddwn i’n teimlo y tu mewn, ac roeddwn yn defnyddio sylweddau fel meddyginiaeth i mi fy hun.
Byddwn yn sobri, yn cael swydd a byddai pethau’n dechrau gwella. Yna byddwn i’n cael diod eto, gan feddwl i mi fy hun: ‘Dim ond un bach…’ ac yna byddwn yn mynd yn ôl i’r hen drefn eto.
Bedair blynedd yn ôl, ar ôl wythnos gyfan o feddwi, lle roeddwn i’n gweld pethau ac wirioneddol ddim yn poeni am fyw na marw, fe chwiliais ar Google am Alcoholics Anonymous (AA) a mynd i fy nghyfarfod cyntaf.
Doedd gen i ddim syniad sut roedd AA yn gweithio ond roeddwn i’n gwybod na allwn i fyw fel hyn dim mwy.
Gwelais gymrodoriaeth anhygoel o bobl a rannodd eu profiadau gyda mi. Fe wnaethon nhw ddweud wrtha i nad oedd yn rhaid i mi deimlo fel hyn ddim mwy a dysgu’r 12 cam o wella i mi.
Roeddwn yn uniaethu â’r hyn yr oedd pawb yn ei ddweud yn y cyfarfodydd hynny, a rwy’n cofio meddwl y noson gyntaf honno: ‘Dyna sut rwyf i’n teimlo, nid fi yw’r unig un felly’.
Fe wnes i ddathlu blwyddyn o fod yn sobr, fe gefais i swydd wych ac roedd pethau’n gwella eto.
Rhoddais y gorau i fynd i gyfarfodydd AA gan feddwl fy mod wedi gwella a doedd dim angen y bobl hyn arna i dim mwy. Yna un diwrnod, yn annisgwyl, clywais y llais cyfarwydd hwnnw yn dweud: ‘Mae’n ddiwrnod braf, beth am i ti gael un gwydraid bach o win’.
Fe wnes i – ac fe wnes i ddirywio eto mewn cyfnod dychrynllyd o fyr.
Ar ôl tair wythnos roeddwn i’n gaeth eto, yn yfed fodca yn y bore i gadw’r symptomau rhoi’r gorau draw.
Fe wnes i gysylltu ag aelod arall o’r AA a ddaeth i’m nôl yn ei char a mynd â fi i gyfarfod.
Roedd yr un bobl yno yn fy nghroesawu’n ôl ac yn dweud wrtha i y byddwn i’n iawn – ar yr amod nad oeddwn i’n yfed y ddiod gyntaf honno.
Rydw i ar fin dathlu tair blynedd o fod yn sobr ac mae fy nyled i AA yn enfawr.
Rwyf yn rhydd o sylweddau, ac rwyf yn bwriadu byw felly am weddill fy mywyd, un diwrnod ar y tro.
Rwy’n ddiolchgar iawn fy mod wedi dod o hyd i ffordd yn ôl i wella.
Roeddwn i wedi ystyried neidio oddi ar bont pan oeddwn i’n hollol gaeth. Roeddwn i wir yn credu y byddai’r byd yn lle gwell hebof i.
Nawr rydw i’n caru fy mywyd. Pethau syml fel byw bywyd gonest sy’n gwneud byd o wahaniaeth.
Does dim rhaid i mi ddweud celwydd wrth ffrindiau a theulu i guddio fy nghaethiwed a galla i fyw fy mywyd mewn heddwch gan helpu pobl eraill sy’n gaeth i alcohol, i sobri.
Rydw i’n dal i fynd i gyfarfodydd AA. Rydw i’n gwirfoddoli ar y llinell gymorth genedlaethol am bedair awr yr wythnos, o amgylch fy shifftiau yn The Wallich. Rydw i’n Ysgrifennydd Rhyng-grŵp AA ac rydw i’n gwneud llawer o waith yn y gymuned ynglŷn â gwybodaeth gyhoeddus.
Rwy’n ceisio ymdrechu i roi i bobl eraill yr hyn a roddwyd mor hael i mi.
Mae’r cywilydd o fod yn gaeth i alcohol yn gallu ein cadw ni’n gudd y tu ôl i ddrysau caeedig – ond rwy’n brawf bod adferiad yn bosibl.”
Yn The Wallich, rydyn ni’n gweithio mewn ffordd sy’n deall trawma ac yn canolbwyntio ar leihau niwed.
Does dim un ateb sy’n addas i bawb ar gyfer adferiad, felly rydyn ni’n gweithio gyda defnyddwyr gwasanaeth ar y dull gweithredu gorau ar eu cyfer.
Mae gennym brosiectau ymatal ledled Cymru, ac mae gennym hefyd brosiectau ‘gwlyb’, sy’n golygu y bydd preswylwyr yn yfed llai neu’n canolbwyntio ar y materion iechyd sy’n gysylltiedig ag alcohol, mewn ffordd ddiogel, gyda tho uwch eu pennau.
Mae gwneud preswylwyr yn fwy ymwybodol o’r opsiynau, y cyfleoedd a’r dewisiadau sydd ar gael iddyn nhw’n eu galluogi i wneud dewisiadau deallus drostyn nhw eu hunain.
Os ydych chi’n cael trafferth â bod yn gaeth i alcohol, neu os ydych chi’n dechrau gweld patrwm sydd ddim yn iach yn datblygu, cofiwch nad ydych chi ar eich pen eich hun.
Gallwch gael help a newid eich perthynas ag alcohol er gwell.
Dyma ychydig o asiantaethau sy’n cefnogi pobl sy’n gaeth i alcohol yng Nghymru.
Os ydych chi wedi cofrestru gyda meddyg, gall cysylltu â’ch meddyg teulu fod y cam cyntaf tuag at gael help.
Mae Alcohol Change UK yn elusen alcohol flaenllaw sy’n cynnig adnoddau, ystadegau ac atgyfeiriadau.
Mae rhagor o wybodaeth am Alcohol Change UK.
Mae gweithwyr cyfeillgar a hyfforddedig yn gweithredu ar draws y rhan fwyaf o Dde a Gorllewin Cymru, gan roi cefnogaeth i unigolion y mae alcohol a chyffuriau yn effeithio arnyn nhw, eu ffrindiau a’u teulu.
Mae’r gefnogaeth a’r wybodaeth a ddarparwn yn rhad ac am ddim, yn gyfrinachol ac yn anfeirniadol.
Mae rhagor o wybodaeth am Barod.
Mae Alcoholics Anonymous yn ymwneud yn llwyr ag adferiad personol a sobrwydd parhaus alcoholigion unigol.
Elusen yw Smart Recovery sy’n hyrwyddo dewis wrth adfer.
Ceisio grymuso pobl gyda sgiliau, offer a chefnogaeth ymarferol er mwyn iddyn nhw allu rheoli eu hymddygiad caethiwus a byw bywydau ystyrlon sy’n rhoi boddhad iddyn nhw.
Mae rhagor o wybodaeth am Smart Recovery.
Mae Recovery Cymru yn gymuned adfer sy’n cael ei harwain gan gymheiriaid ac sy’n cael cymorth gan y naill a’r llall yng Nghaerdydd a Bro Morgannwg, ac mae’n grymuso pobl i sicrhau a chynnal adferiad ar yr un pryd â chefnogi eraill i wneud yr un fath.