Holiaduron a chyfweliadau manwl â phobl 60 oed a drosodd sydd yn yr ymchwil hwn yn bennaf, a chanfu bod lefelau yfed a allai fod yn niweidiol yn fwy cyffredin ymysg pobl hŷn nag a feddyliech. At hynny, prin iawn yw’r gwasanaethau sydd ar gael i helpu’r ddemograffeg hon.
Mae’r adroddiad hwn yn cyflwyno canfyddiadau’r ymchwil ac yn gwneud argymhellion a allai leihau’r niwed a achosir i bobl hŷn oherwydd eu bod yn defnyddio alcohol, problem y credir yn aml ei bod yn effeithio’n benodol ar bobl iau.