Mae Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai y Senedd yn cynnal ymchwiliad i’r sector rhentu preifat yng Nghymru.
Ym mis Mawrth 2023, cyhoeddodd y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai y byddent yn ymchwilio i’r sector rhentu preifat yng Nghymru. Mae hyn yn dilyn eu hymchwiliadau blaenorol i Ddigartrefedd a’r Hawl i Gael Tai Digonol.
Y cylch gorchwyl ar gyfer yr ymchwiliad yw ystyried:
- Cyflenwad, ansawdd a fforddiadwyedd llety yn y sector rhentu preifat;
- yr heriau sy’n wynebu landlordiaid yn y sector rhentu preifat ar hyn o bryd;
- y cyfleoedd ar gyfer rhagor o waith mewn partneriaeth rhwng landlordiaid yn y sector rhentu cymdeithasol a landlordiaid yn y sector rhentu preifat;
- y rhwystrau sy’n atal mynediad at y sector rhentu preifat, gan gynnwys yr heriau sy’n wynebu pobl ifanc a phobl sydd ag anifeiliaid anwes;
- i ba raddau y mae’r sector rhentu preifat yn cael ei reoleiddio’n effeithiol; ac
- i ba raddau y mae’r data sydd ar gael am y sector rhentu preifat yn ddigonol a sut y gellir gwella ansawdd y data hyn.
Fel elusen digartrefedd fwyaf Cymru, fe wnaethom ni yn The Wallich rannu ein safbwyntiau â’r pwyllgor ynghylch y cyfleoedd a’r heriau sy’n wynebu’r sector rhentu preifat ar hyn o bryd, gan gyfeirio’n benodol at rôl y sector yn y gwaith o ddarparu cartrefi parhaol i bobl sydd wedi bod yn ddigartref.