Ein tystiolaeth i ymgynghoriad Llywodraeth Cymru ar ddefnydd Gwely a Brecwast mewn llety dros dro

15 Sep 2023

Mae Llywodraeth Cymru yn ymgynghori ynghylch defnyddio Gwely a Brecwast a Gwestai fel llety dros dro

Ymgyrch codi arian dros y gaeaf The Wallich i leddfu caledi i bobl yng Nghymru

Ers i bandemig y Coronafeirws ddechrau yn 2020, mae pwysau sylweddol ar wasanaethau digartrefedd awdurdodau lleol wedi golygu bod nifer sylweddol o bobl wedi cael eu rhoi mewn llety gwely a brecwast neu westai, fel llety dros dro. 

Pan gafodd Deddf Rhentu Cartrefi 2016 ei rhoi ar waith ym mis Rhagfyr 2022, cafodd eithriad dros dro ei roi ar waith i olygu na fyddai aelwydydd sy’n aros mewn llety Gwely a Brecwast na gwestai yn destun contract meddiannaeth, fel y daeth yn gyfraith i bobl mewn llety rhent arall. 

Ym mis Gorffennaf 2023, ymgynghorodd Llywodraeth Cymru ar ymestyn yr eithriad hwnnw, o ystyried y lefelau uchel parhaus o alw am lety dros dro ar draws pob rhan o Gymru. 

Fel elusen digartrefedd fwyaf fe wnaethom ni yn The Wallich rannu ein safbwyntiau â Llywodraeth Cymru, ynghylch y risg o barhau i ddefnyddio Gwely a Brecwast ar gyfer arosiadau hir mewn llety dros dro, ond hefyd y risg o dynnu’r ddarpariaeth honno’n ôl heb ddewisiadau amgen addas ar waith. 

Tudalennau cysylltiedig