Dadansoddiad o’r niferoedd a gasglwyd gan ein Timau Ymyriadau Cysgu Allan yn Ne Cymru rhwng Tachwedd 2017 a Hydref 2018, sy’n dangos bod nifer cynyddol o bobl â ffordd o fyw ar y stryd yng Nghaerdydd, Casnewydd, Pen-y-bont ar Ogwr ac Abertawe yn ystod y flwyddyn.
Pobl sydd â ‘Ffordd o Fyw sy’n Seiliedig ar y Stryd’ (SBL) yw pobl sy’n treulio’r rhan fwyaf o’u hamser ar y strydoedd. Mae hyn yn cynnwys pobl sy’n cysgu allan, unigolion sy’n aros mewn llety argyfwng neu dros dro, neu sydd heb gartref addas.
Mae Monitor Ffordd o Fyw sy’n Seiliedig ar y Stryd De Cymru, am 2017-18, yn rhoi darlun cyfoes a manwl o bobl sydd â ffordd o fyw sy’n seiliedig ar y stryd mewn gwahanol rannu o Dde Cymru.
Mae’r Monitor yn estyniad i’r adroddiadau RSIT misol a chwarterol sy’n cael eu cyhoeddi ar dudalen Ffigurau Cysgu Allan y Wallich.
Po fwyaf yr ydym yn ei ddeall am fyw ar y stryd yng Nghymru, a po fwyaf o ddata y gallwn eu casglu, a byddwn mewn sefyllfa gryfach i ganfod atebion.