Ymchwil

Mae ein tîm ymchwil a pholisi yn cynhyrchu adroddiadau manwl ynglŷn â digartrefedd a materion cysylltiedig yng Nghymru

Mae digartrefedd yn fater cymhleth, gyda llawer o ffactorau yn cyfrannu at bam y mae rhywun yn ddigartref.

Mae bod yn ddigartref yn effeithio ar lawer rhan o fywyd unigolyn, gan effeithio ar eu hiechyd, eu haddysg a’u gallu i ddod o hyd i waith, a gall arwain at gynnydd mewn aildroseddu i’r rhai hynny gyda gorffennol troseddol.

 

Adroddiadau Diweddaraf

 

Rydym yn gwneud ymchwil gyda’n defnyddwyr gwasanaethau er mwyn cael gwell dealltwriaeth ynglŷn â digartrefedd, yn ogystal â chomisiynu ymchwilwyr allanol i ymgymryd â phrosiectau mwy.

Rydym yn defnyddio’r hyn yr ydym yn ei ddysgu er mwyn dylanwadu ar y rhai hynny sydd â’r grym i wneud bywydau yn well ar gyfer pobl ddigartref yng Nghymru drwy awgrymu yn rhagweithiol sut y gellir gwella gwasanaethau ac ymateb i gynghorau a Llywodraeth Cymru pan maen nhw’n gofyn am wybodaeth.

ddigartrefedd yng nghefn gwlad
01 Jan 2004

Stigma Digartrefedd yng Nghefn Gwlad Cymru

Nid dim ond problem drefol yw digartrefedd. Mae gan ddigartrefedd yng nghefn gwlad ei heriau ei hun.