Mae Hanner Marathon Caerdydd yn ras 13.1 milltir sy’n enwog am ei llwybr gwastad, cyflym ac eiconig trwy brifddinas Cymru.
Mae wedi dod yn fwyfwy poblogaidd o un flwyddyn i’r llall, gan ddenu rhedwyr o bob oed a gallu. Yn 2024, gwerthwyd pob cofrestriad cyffredinol ar gyfer y ras erbyn mis Mai.
Ers 2022, mae bron i 100 o redwyr anhygoel wedi cymryd rhan yn Hanner Marathon Caerdydd ar ran The Wallich.
Drwy gofrestru gyda ni heddiw, byddwch yn ymuno ag aelodau anhygoel eraill o #TîmWallich sydd i gyd wedi gwneud rhywbeth i atal digartrefedd yng Nghymru.
Pryd y cynhelir Hanner Marathon Caerdydd?
Dydd Sul 5 Hydref 2025
Beth yw cost lle gyda’r elusen?
Ymunwch â #TeamWallich heddiw drwy dalu ffi cofrestru adar cynnar gostyngol o £5, ac addo codi £200 i atal digartrefedd yng Nghymru.
Pam rhedeg Hanner Marathon Caerdydd dros The Wallich?
Yn ogystal â helpu i gefnogi ein gwasanaethau hanfodol, bydd pawb sy’n ymuno â #TîmWallich yn cael:
Mae elusennau digartrefedd Cymru, The Wallich, Shelter Cymru, Crisis a Llamau, wedi dod at ei gilydd i annog rhedwyr Hanner Marathon Caerdydd i gefnogi un achos cyffredin.
Mae’r pedwar sefydliad digartrefedd yng Nghymru wedi dod ynghyd ar gyfer Hanner Marathon Caerdydd 2023 i dynnu sylw at yr effaith maen nhw’n ei chael, yn unigol ac ar y cyd, ar gefnogi pobl sy’n wynebu a/neu’n profi digartrefedd.
Llenwch y ffurflen isod ac fe gysylltwn â chi i roi eich manylion cofrestru.
Byddwch hefyd yn cael pecyn codi arian am ddim – sy’n cynnwys yr holl gyngor, cefnogaeth a deunyddiau sydd eu hangen arnoch chi i ddechrau arni.
E-bost: dosomething@thewallich.net
Ffoniwch: 02920 668 464 (Opsiwn 2)