Unedig yn Erbyn Digartrefedd: Elusennau’n dod ynghyd ar gyfer 20fed Hanner Marathon Caerdydd

15 May 2023

Mae elusennau digartrefedd Cymru, The Wallich, Shelter Cymru, Crisis a Llamau, wedi dod at ei gilydd i annog rhedwyr Hanner Marathon Caerdydd i gefnogi un achos cyffredin

Mae’r pedwar sefydliad digartrefedd yng Nghymru wedi dod ynghyd ar gyfer Hanner Marathon Caerdydd eleni i dynnu sylw at yr effaith maen nhw’n ei chael, yn unigol ac ar y cyd, ar gefnogi pobl sy’n wynebu a / neu’n profi digartrefedd.

Yn ôl ffigurau a ryddhawyd gan Lywodraeth Cymru ddechrau 2023, roedd dros 140 o bobl yn cysgu allan ac roedd 9,400 o bobl – gan gynnwys 2,800 o blant – mewn llety dros dro.

Mae arolwg diweddar gan YouGov wedi tynnu sylw at y ffaith nad oes yr un elusen tai neu ddigartrefedd ymhlith y 40 o achosion mwyaf poblogaidd yn y DU ar hyn o bryd.

Dywedodd Kerys Sheppard, Pennaeth Codi Arian Shelter Cymru:

“Mae ariannu ein gwaith yn dod yn fwyfwy heriol i bob un ohonom. Mae elusennau iechyd mawr, grwpiau datblygu byd-eang ac elusennau anifeiliaid yn flaenllaw yn y maes codi arian, ac maent wedi bod ers tro.

Yn y cyfamser, mae rhenti wedi codi’n aruthrol, dydy pobl ddim yn gallu talu eu biliau ynni ac maen nhw’n torri’n ôl ar hanfodion wrth siopa bwyd.

Mae llawer o aelwydydd yn dibynnu ar fanciau bwyd ac mae effaith ariannol yr argyfwng costau byw wedi achosi i fwy o bobl boeni am gadw to uwch eu pennau.

Gall cael y cymorth iawn, ar yr adeg iawn, olygu’r gwahaniaeth sylweddol rhwng rhywun yn cadw ei loches ddiogel – ei gartref – neu’n cysgu ar y stryd.

Cartref yw popeth i ni. Nawr, yn fwy nag erioed, mae arnom wir angen pobl i ymuno â’n brwydr ar y cyd yn erbyn digartrefedd a’n cefnogi ni sut bynnag y gallan nhw.”

Gwybodaeth am Hanner Marathon Caerdydd 2023

Bydd Hanner Marathon Caerdydd yn cael ei gynnal ddydd Sul 1 Hydref.

Mae’n cael ei disgrifio gan y trefnwyr fel “ras ffordd gyflym, wastad ac eiconig o amgylch prifddinas Cymru”.

Mae dros £3 miliwn yn cael ei godi ar gyfer achosion da drwy Hanner Marathon Caerdydd bob blwyddyn, gyda channoedd o elusennau’n cael eu cynrychioli.

Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, mae #TîmWallich wedi bod yn falch o gael hyd at X o redwyr ar ddiwrnod y ras.

Dywedodd Deborah Powell, Cyfarwyddwr R4W:

“Mae’n wych gweld yr elusennau hyn yn dod at ei gilydd i wneud rhywbeth arbennig yn ystod y flwyddyn hon sy’n garreg filltir.

Bydd y dull ‘mewn undod mae nerth’ hwn yn codi ymwybyddiaeth ac yn rhoi hwb i negeseuon codi arian pawb sy’n rhan ohono, gan dynnu sylw at y cyfraniad sylweddol y mae’r elusennau hyn yn ei wneud i bobl sydd mewn angen o ran tai yng Nghymru.

Rydyn ni’n gweithio gyda’n partneriaid i wneud yn siŵr eu bod yn manteisio i’r eithaf ar eu cyfranogiad – mae hynny’n rhan o ddull R4W.

Mae pedair elusen digartrefedd yn gweithio gyda’i gilydd o dan un faner yn enghraifft wych o gydweithio yn y sector.”

Cofrestru

Disgwylir y bydd llefydd cyffredinol yn gwerthu allan cyn bo hir, sy’n golygu y bydd angen i redwyr gofrestru drwy elusen swyddogol.

Gobeithio y bydd y cydweithio rhwng Shelter Cymru, Crisis, Llamau a The Wallich yn gwneud eu hachos yn un amlwg i’w gefnogi eleni.

I gofrestru ar gyfer Hanner Marathon Caerdydd a helpu elusennau yng Nghymru sy’n unedig yn erbyn digartrefedd, ewch i’n tudalen gofrestru ar gyfer Hanner Marathon Caerdydd.

Tudalennau cysylltiedig