Hanner Marathon Caerdydd

Beth am redeg hanner marathon Caerdydd ar ran elusen ddigartrefedd yng Nghymru.

01 Oct 2023

Mae cael gwared ar ddigartrefedd yn farathon – nid sbrint.  Beth am gymryd rhan yn Hanner Marathon Caerdydd i gynorthwyo pobl i ddod oddi ar y strydoedd. 

Mae Hanner Marathon Caerdydd yn ras 13.1 milltir sy’n adnabyddus am ei gwrs gwastad, cyflym ac eiconig drwy brifddinas Cymru.  Mae wedi tyfu mewn poblogrwydd bob blwyddyn, gan ddenu rhedwyr o bob oed a gallu. 

Mae cofrestru gyda ni heddiw yn golygu y byddwch yn ymuno â chymuned o bobl sydd wedi ymrwymo i atal a rhoi diwedd ar ddigartrefedd, am byth.

Felly, os mai hwn yw eich hanner marathon cyntaf, neu os ydych chi’n awyddus i guro eich amser gorau, ymunwch â ni ar gyfer Hanner Marathon Caerdydd mis Hydref 2023 a helpu i wneud gwahaniaeth i bobl sy’n ddigartref.

Pryd y cynhelir Hanner Marathon Caerdydd? 

Dydd Sul 1 Hydref 2023

Beth yw cost lle gyda’r elusen? 

Ymunwch â #TîmWallich heddiw drwy dalu eich ffi gofrestru o £15 ac addo codi £200 i atal digartrefedd yng Nghymru.

Pam rhedeg Hanner Marathon Caerdydd dros The Wallich?

Yn ogystal â helpu i gefnogi ein gwasanaethau hanfodol, bydd pawb sy’n ymuno â #TîmWallich yn cael:

Sut mae gwneud cais am le gyda The Wallich yn Hanner Marathon Caerdydd? 

Llenwch y ffurflen isod ac fe gysylltwn â chi i roi eich manylion cofrestru.

Byddwch hefyd yn cael pecyn codi arian am ddim – sy’n cynnwys yr holl gyngor, cefnogaeth a deunyddiau sydd eu hangen arnoch i ddechrau arni.

E-bost: dosomething@thewallich.net

Ffoniwch: 07786 255 225

 

Tudalennau cysylltiedig