Llywodraeth Cymru’n rhyddhau cyfrif cysgwyr ar y stryd 2019

Ymateb y Wallich

05 Feb 2020

Mae niferoedd llawn o’r cyfrif ar gael ar-lein: Ffigurau cysgu ar y stryd Llywodraeth Cymru

Amcangyfrifir bod 405 o bobl yn cysgu ar y stryd ar draws Cymru yn ystod cyfrif pythefnos yn Hydref 2019 – cynnydd o 17% o’i gymharu â 2018.

Yn ystod un ciplun ym mis Tachwedd 2019, roedd 176 o bobl yn cysgu ar y stryd – cynnydd o 11% o’i gymharu â’r flwyddyn cynt.

Dyma ein hymateb.

Meddai Lindsay Cordery-Bruce, prif weithredwr y Wallich, elusen ddigartrefedd a chysgu ar y stryd fwyaf blaenllaw Cymru:

“Mae pawb yn siomedig a does neb yn synnu, o’r bobl sy’n gwneud y penderfyniadau i’r bobl ar y ddaear, ac mae hyn yn annerbyniol.

“Fe ddylen ni synnu; fe ddylai fod yn sioc, ac fe ddylen ni fod yn ddig iawn gyda’r cynnydd parhaus o un flwyddyn i’r llall yn nifer y bobl sy’n cysgu ar y stryd ar draws Cymru.

“Dylai’r ffigur hwn ymbilio arnom i gyd i wneud yn well. Ni allwn adael i gynnydd mewn digartrefedd o flwyddyn i flwyddyn ddod yn normal – methiant fyddai hynny.

“Mae’r 57 o bobl a welwyd yn cysgu ar y stryd yng Nghaerdydd yn ystod y cyfrif unnos yn debyg i’n ffigurau ein hunain ond mae’n bwysig sôn ein bod, nes ymlaen yn y mis, wedi gweld gymaint â 76 o bobl un bore, dim ond yng nghanol y ddinas.

“Mae gan gyfrifon unnos eu lle fel ciplun, ond yn aml iawn maen nhw’n cuddio gwir faint y broblem. Er enghraifft, yn aml iawn mae llawer mwy’n cysgu ar y stryd yn yr haf pan na fydd gwasanaethau tywydd oer ychwanegol ar gael.

“Rydyn ni’n gweithio gyda Llywodraeth Cymru ar greu data-bas cenedlaethol (y Rhwydwaith Data Digartref ar y Stryd neu’r SHIN) a fyddai’n rhoi ffigurau cywir i ni drwy’r flwyddyn.

“Mae ffigurau’r llywodraeth hefyd yn dangos cynnydd aruthrol mewn ardaloedd lle mae llai o fuddsoddi mewn gwasanaethau allgymorth, fel Caerffili a Chonwy, lle mae nifer y cysgwyr ar y stryd bron wedi dyblu rhwng 2018 a 2019.

“Mae’r bobl sy’n cysgu ar y stryd yn yr ardaloedd hyn yn haeddu’r un cymorth â phobl yn ein dinasoedd mwy.

“Mae Llywodraeth Cymru wedi gofyn i’r Gweithgor Digartrefedd feddwl o’r newydd a gwneud pethau’n wahanol, yn defnyddio’r arbenigedd sydd ar gael i gyflwyno’r newid sydd ei angen.

“Rydyn ni’n rhan o’r gweithgor hwn ac er y gwelsom ganlyniadau clir yn dod allan o’r trafodaethau, rydyn ni’n galw am weithredu ar frys a bod Llywodraeth Cymru’n mynd ati’n ddi-oed i weithredu argymhellion y gweithgor, gan gynnwys ymrwymiad ariannol o ddifrif.

“Rhwng 2012-2018 mae’r gyllideb Cefnogi Pobl wedi gweld toriadau o £37m mewn termau real. Os na fydd cyllideb nesaf Llywodraeth Cymru yn buddsoddi mwy yn y Grant Cymorth Tai, mae perygl y gallai digartrefedd fynd yn llawer gwaeth.

“Mae hefyd angen ymrwymiad i newid systemig er mwyn cael gwared ar y rhwystrau sy’n golygu na all pobl ddod allan o’r cylch digartrefedd, fel dileu’r angen blaenoriaeth, bod yn fwriadol ddigartref, cysylltiad lleol a defnyddio’r Ddeddf Crwydradaeth.

“Mae angen ail-gyflwyno caredigrwydd fel rhywbeth sy’n uno pawb yn y frwydr yn erbyn digartrefedd. Nid oes lle mwyach i ragfarn a beio’r dioddefwr yn yr argyfwng hwn.

“Mae angen ein help, ein tosturi a’n blaenoriaeth ar o leiaf 405 o bobl ar draws Cymru’r funud hon. Fel unigolion, gwneuthurwyr penderfyniadau, darparwyr gwasanaethau a busnesau, ac fel gwlad, ni allwn siomi’r bobl hyn.”

Mae’n bryd gweithredu

Mae’n bryd cau’r siop siarad ac yn bryd i ni weithredu – a phwyswn arnoch i’n helpu: