Abertawe
swansea.shoreline@thewallich.net
01792 466 603
Mae Shoreline Abertawe yn brosiect llety arbenigol sy’n darparu llety â chymorth hirdymor I oedolion digartref sydd naill ai’n gaeth i alcohol neu sydd â phroblemau alcohol difrifol.
Mae’r prosiect yn brosiect “gwlyb”, sy’n golygu y gall y preswylwyr ddal i yfed yn eu llety.

Drwy ddarparu amgylchedd diogel i’r preswylwyr a chefnogaeth staff gwybodus a phrofiadol, gall y prosiect helpu preswylwyr â’r broses o newid ac addasu eu hymddygiadau.
Mae gwneud preswylwyr yn fwy ymwybodol o’r opsiynau, y cyfleoedd a’r dewisiadau sydd ar gael iddynt yn eu galluogi i wneud dewisiadau deallus drostynt eu hunain.
Mae’r opsiynau’n cynnwys yfed dan reolaeth, yfed llai neu stopio yfed – ond mae’r prosiect hefyd wedi’i gynllunio i gefnogi’r rhai nad yw hyn yn opsiwn iddynt, yn y tymor hir neu’r tymor byr.
Mae staff yn y prosiect hefyd yn helpu preswylwyr i ddiwallu eu hanghenion cymorth unigol.
Ein cefnogaeth
- Er enghraifft cael mynediad at wasanaethau gofal iechyd, asiantaethau budd-daliadau a darparwyr tai, a chysylltu â’r rhain
- A gwella sgiliau bywyd personol y preswylwyr er mwyn iddynt fod yn fwy annibynnol a gallu edrych ar ôl eu hunain.
Er bod y prosiect yn un “gwlyb” mae ethos ac athroniaeth gwaith y prosiect yn golygu bod cyfran helaeth o’r preswylwyr yn yfed llai ac yn cymedroli eu hymddygiad yfed.

Mae’r Wallich yn credu mai unigolion ag anghenion cymorth amrywiol a gwahanol yw pobl ddigartref ac agored i niwed.
Profwyd y gall byw mewn Amgylchedd sy’n Ystyriol o Feddylfryd Seicolegol (PIE) helpu i’w hadfer yn llwyddiannus.
Rydyn ni eisiau darparu gwasanaethau arloesol sy’n seiliedig ar ddealltwriaeth o drawma, fel Shoreline yn Abertawe, a chyfateb pobl cystal ag y gallwn â chymorth sy’n addas iddyn nhw.
I gael rhagor o wybodaeth am y prosiect, neu i ofyn am wybodaeth am atgyfeirio, cysylltwch â ni.
