Lansiodd y Wallich y prosiect Tai yn Gyntaf cyntaf yn Ynys Môn.
Bum mlynedd ar ôl ei lansio yn 2013, rydym yn adrodd ar lwyddiannau ac ystadegau allweddol y prosiect.
Yn ystod y pum mlynedd diwethaf, mae 74% o’r rhai sydd wedi cael help gennym wedi llwyddo i sicrhau a chadw llety.
Mae Tai yn Gyntaf yn seiliedig ar yr athroniaeth y dylai unigolyn sy’n byw ar y stryd, yn hytrach na disgwyl eu bod yn mynd drwy sawl cam i gyrraedd annibyniaeth, gael cynnig tenantiaeth annibynnol yn gyntaf heb ddim amodau ar gyfer mynediad, ac y dylent gael cymorth dwys a phendant.
Mae ein dull yn seiliedig ar drawma ac mae’n dilyn model cymorth therapiwtig.