Mae’r Wallich wedi ymuno â Kaleidoscope, elusen cyffuriau, alcohol ac iechyd meddwl, i alw ar Lywodraeth Cymru am raglen frechu gyson ac wedi’i thargedu ar gyfer pobl sy’n ddigartref yng Nghymru.
Mae brechiadau COVID-19 yn cael eu cyflwyno ledled y wlad ar hyn o bryd drwy GIG Cymru, fel elfen allweddol o’r strategaeth genedlaethol i ddod â phandemig y Coronafeirws i ben.
Mae strategaeth Llywodraeth Cymru, sy’n seiliedig ar gyngor gan y Cydbwyllgor ar Frechu ac Imiwneiddio (JCVI), yn nodi naw grŵp blaenoriaeth ar gyfer brechu, yn ôl proffil oedran a chyflyrau iechyd pob carfan.
Nod y Llywodraeth yw cynnig y brechlyn i’r pedwar grŵp blaenoriaeth cyntaf erbyn canol mis Chwefror, ac yna cwblhau pob un o’r naw grŵp erbyn yn ddiweddarach yn y gwanwyn.
Er ein bod yn cydnabod pwysigrwydd brechu pobl hŷn a’r rheini sydd â chyflyrau iechyd sy’n bodoli’n barod cyn gynted â phosibl, mae’r Wallich yn dal yn bryderus y gallai llawer o bobl sy’n ddigartref yng Nghymru fod mewn perygl sylweddol o gael eu heintio, ond y gallai’r strategaeth frechu bresennol eu colli.
Mae Prif Weithredwr y Wallich, Dr Lindsay Cordery-Bruce, wedi tynnu sylw at y lefel uwch o risg i staff a chleientiaid mewn llety dros dro, ac mae wedi galw ar Lywodraeth Cymru i sefydlu rhaglen benodol wedi’i thargedu ar gyfer pobl sy’n ddigartref ac sy’n wynebu rhwystrau wrth gael gafael ar ofal iechyd.
“Mae gennym fflyd o gerbydau lles y gellid eu defnyddio i wneud yn siŵr bod y brechlyn yn mynd allan i’r cymunedau lle mae ei angen fwyaf”, cynigiodd.
“Pan nad oes gennych chi gyfeiriad, gall fod yn anodd cael neu gadw cofnod o apwyntiadau. Bydd cyflwyno brechlynnau’n llwyddiannus i bobl sy’n ddigartref weithiau’n golygu mynd atyn nhw, ar eu telerau nhw.”
Mae Kaleidoscope yn elusen genedlaethol sy’n darparu cymorth i bobl sy’n ei chael yn anodd delio ag alcohol, camddefnyddio sylweddau a phroblemau iechyd meddwl.
Mae prif weithredwr Kaleidoscope, Martin Blakebrough, wedi dweud bod cleientiaid yn ymddiried yn ei staff, a bod ganddyn nhw brofiad o ddarparu gofal meddygol, gan gynnwys rhoi pigiadau, yn barod.
“Mae’n ymddangos i mi, gan ein bod yn darparu llawer o wasanaethau meddygol i’r grŵp cleientiaid hwn, y byddai’n fwy synhwyrol i ni roi’r brechiad hwnnw.
“Mae gennym nyrsys, ac maen nhw’n rhoi brechlynnau ar gyfer Hepatitis B, er enghraifft, felly dydy rhoi pigiadau ddim yn rhywbeth newydd i ni.”
Drwy gydol 2020, cafodd y sector digartrefedd a chymorth tai lwyddiant mawr o ran rheoli a lliniaru’r risgiau o ledaenu’r coronafeirws ym mhob lleoliad, sy’n golygu mai ychydig iawn o achosion positif sydd wedi bod, yn ffodus.
Serch hynny, yn ddi-os mae lefel uwch o risg wrth wneud gwaith cymorth wyneb yn wyneb, i’n staff ac i’r bobl maen nhw’n eu cefnogi.
Ceir tystiolaeth sylweddol sy’n cysylltu digartrefedd â chanlyniadau iechyd gwaeth, ac mae’r disgwyliad oes ar gyfer unigolion sy’n cysgu allan yn y DU yn ddim ond 45 oed, bron i hanner disgwyliad oes y boblogaeth gyffredinol.
Gyda hyn mewn golwg, mae’r Wallich a sefydliadau fel Cymorth Cymru yn galw ar Lywodraeth Cymru i gynnwys pobl sy’n ddigartref yn benodol fel grŵp blaenoriaeth wrth gyflwyno rhaglen frechu COVID-19.
Mae hyn yn wir hefyd am weithwyr rheng flaen yn y sector digartrefedd. Mae 23% o staff y Wallich wedi cael eu brechu, sy’n rhy isel o ystyried lefel y risg.
Dywedodd Dr Cordery-Bruce, “Mae ein timau, sy’n gweithio mewn llety dros dro yn haeddu cael eu brechu yn llawn cymaint â phobl sy’n gweithio mewn cartrefi gofal.”
Rydym wedi gweld bod gwahanol awdurdodau lleol yn rheoli eu blaenoriaethau eu hunain ar gyfer rhoi’r brechlyn ar hyn o bryd. Ond, rydym yn credu bod angen i hyn fod yn gyson ledled Cymru, ac rydyn ni’n barod i gefnogi clinigwyr a gweinyddwyr er mwyn hwyluso hyn.