Cyfleoedd comisiynu

Cyfarwyddwr Pantomeim Nadolig The Wallich yn Porters

Actorion Hwylusol Pantomeim Nadolig The Wallich yn Porters x 2

Cyfarwyddwr Pantomeim Nadolig The Wallich yn Porters

Crynodeb

Rydym yn chwilio am Gyfarwyddwr profiadol i ymuno â phrosiect pantomeim cymunedol cyffrous ar y cyd â The Wallich a fydd yn cael ei gynnal yn Porters, Caerdydd. Bydd y cynhyrchiad hwn yn dod â chyfranogwyr cymunedol o’r elusen digartrefedd The Wallich at ei gilydd gydag amrywiaeth o lefelau sgiliau ochr yn ochr â dau actor proffesiynol i greu perfformiad hwyliog, cynhwysol ac o ansawdd uchel fel rhan o raglen theatr Nadolig Caerdydd.

Disgrifiad o’r Rôl: Cyfarwyddwr

Rydym yn chwilio am unigolyn brwdfrydig a llawn cymhelliant a fydd yn gweithio gyda ni i wneud y canlynol:

  • Arwain y gwaith o ddatblygu gweledigaeth artistig a chyflawni’r cynhyrchiad pantomeim
  • Cynllunio a hwyluso gweithdai ac ymarferion
  • Cydweithio â chyfranogwyr cymunedol, perfformwyr proffesiynol a rhanddeiliaid prosiect
  • Cefnogi amgylchedd cynhwysol a chroesawgar i berfformwyr sydd â lefelau profiad amrywiol
  • Goruchwylio’r gwaith o baratoi a darparu perfformiad

Gofynion y Rôl

  • Profiad amlwg o gyfarwyddo theatrau
  • Profiad o weithio gyda grwpiau cymunedol neu berfformwyr nad ydynt yn broffesiynol
  • Profiad o weithio gyda grwpiau agored i niwed sydd wedi’u heithrio’n gymdeithasol (mae ymarfer creadigol sy’n ystyriol o drawma yn ddymunol)
  • Sgiliau cadarn o ran hwyluso a chyfathrebu
  • Brwdfrydig ac yn gallu cymell cyfranogwyr
  • Anfeirniadol ac yn gallu gweithio ar y cyd, yn gynhwysol ac yn dosturiol gydag amrywiaeth o bersonoliaethau a lefelau sgiliau
  • Dibynadwy, cyson ac yn gallu parhau i fod yn hyblyg o ran anghenion newidiol y grŵp cyfranogwyr
  • Mae tystysgrif DBS uwch yn ddymunol

Manylion y Prosiect

  • Lleoliad: Porters Caerdydd
  • Cyfnod y Contract: 5 Hydref – 4 Rhagfyr
  • Dyddiadau’r perfformiadau: Nos Llun 30 Tachwedd and Nos Mawrth 1 Rhagfyr
  • Ffi: £2,000

Dyddiadau Allweddol

  • • Ceisiadau’n cau Dydd Mawrth 15 Medi
    • Llunio’r rhestr fer Dydd Mercher 16 Medi
    • Cyfweliadau/clyweliadau Dydd Iau 24 Medi
    • Penderfyniad a chynnig yn cael ei wneud Dydd Gwener 25 Medi
    • Contract yn dechrau yn yr wythnos sy’n dechrau ddydd Llun 5 Hydref
    • Dyddiadau’r perfformiadau Nos Llun 30 Tachwedd and Nos Mawrth 1 Rhagfyr

Sut mae Gwneud Cais

  • CV cyfredol
  • Llythyr eglurhaol yn amlinellu eich profiad perthnasol i gynnwys enghreifftiau o waith blaenorol o ran cyfarwyddo, perfformio a/neu ymgysylltu â’r gymuned

Dylid anfon ceisiadau at rosie.seager@thewallich.net erbyn 12pm ddydd Mawrth 15 Medi

Rydym yn croesawu ceisiadau gan unigolion o gefndiroedd amrywiol ac rydym wedi ymrwymo i greu cynhyrchiad cynhwysol a hygyrch

————————————————————————————-

Actorion Hwylusol Pantomeim Nadolig The Wallich yn Porters

Agent Trouble & Gingerbread Actorion Hwylusol Pantomeim Nadolig The Wallich yn Porters

Crynodeb

Rydym yn chwilio am ddau actor proffesiynol sydd â phrofiad o berfformio mewn pantomeim a hwyluso gweithdai cymunedol i ymuno â phrosiect pantomeim cymunedol cyffrous ar y cyd â The Wallich i’w gynnal yn Porters. Bydd y cynhyrchiad hwn yn dod â chyfranogwyr cymunedol o’r elusen digartrefedd The Wallich at ei gilydd gydag amrywiaeth o lefelau sgiliau ochr yn ochr â dau actor proffesiynol i greu perfformiad hwyliog, cynhwysol ac o ansawdd uchel fel rhan o raglen theatr Nadolig Caerdydd.

Disgrifiad o’r Rôl: Actorion Hwylusol (2 Rôl)

  • Cyflawni rolau allweddol yn y cynhyrchiad pantomeim
  • Cefnogi’r Cyfarwyddwr yn ystod ymarferion a gweithdai
  • Hwyluso sesiynau datblygu sgiliau ar gyfer aelodau cast cymunedol o The Wallich
  • Mentora cyfranogwyr mewn technegau perfformio, gan gynnwys:
    • Actio a chymeriadaeth
    • Llais a thaflunio
    • Symud a chrefft llwyfan
    • Technegau dysgu llinellau
    • Meithrin hyder a pherfformio ensemble
  • Annog cyfranogiad a helpu i greu amgylchedd ymarfer cadarnhaol a diddorol

Gofynion y Rôl

  • Profiad amlwg o berfformio mewn theatr
  • Profiad o weithio gyda grwpiau cymunedol neu berfformwyr nad ydynt yn broffesiynol
  • Brwdfrydig ac yn gallu cymell cyfranogwyr
  • Anfeirniadol ac yn gallu gweithio ar y cyd, yn gynhwysol ac yn dosturiol gydag amrywiaeth o bersonoliaethau a lefelau sgiliau
  • Dibynadwy, cyson ac yn gallu parhau i fod yn hyblyg o ran anghenion newidiol y grŵp cyfranogwyr

Manylion y Prosiect

  • Lleoliad: Porters Caerdydd
  • Cyfnod y Contract: 5 Hydref – 4 Rhagfyr
  • Dyddiadau’r perfformiadau: Nos Llun 30 Tachwedd and Nos Mawrth 1 Rhagfyr
  • Ffi: £1,750