Stori Zain

20 Jun 2022

Oeddech chi’n gwybod bod The Wallich hefyd yn gweithio gyda phobl efo Dim Hawl i Arian Cyhoeddus (NRPF)?

Loches

Fel rhan o brosiect cydweithredol Gwlad Noddfa gyda Chyfiawnder Tai Cymru a rhagor o bartneriaid, a ariennir gan Comic Relief, rydyn ni’n helpu i gefnogi pobl yr effeithir arnynt gan yr amod mewnfudo sy’n cyfyngu ar fynediad at arian cyhoeddus.

Ein harbenigedd oedd creu cyfleoedd ar gyfer gwirfoddoli, hyfforddi a chael mynediad at weithgareddau llesiant.

Darllenwch stori Zain

Cyrhaeddodd Zain y DU ym mis Ionawr 2018 a cheisiodd loches.

Ac yntau’n dod o Somalia, anfonwyd Zain i Gaerdydd, lle’r oedd yn byw tra’r oedd ei achos yn cael ei adolygu yn y DU.

Yn anffodus, gwrthodwyd ei gais am loches. O ganlyniad, cafodd Sain ei droi allan o’i lety a daeth yr holl gymorth ariannol i ben.

Nid oes gan Zain yr hawl i weithio yn y DU ac nid oes ganddo hawl i arian cyhoeddus.

Ers hynny, mae Zain wedi bod yn cael ei gefnogi gan Home4U a Sharedydd; elusennau cynnal a llety ydy’r rhain sy’n helpu ceiswyr lloches aflwyddiannus efo dim hawl i arian cyhoeddus.

Mae wedi bod yn byw gyda gwesteiwr yng Nghaerdydd tra bydd ef a’i dwrnai yn paratoi ar gyfer y camau nesaf ar ei daith.

Mae Zain wedi dysgu Saesneg ers iddo ddod i’r DU ac mae’n awyddus i fynd i’r coleg i astudio ffasiwn. Ei nod yn y pen draw yw mynd i Brifysgol Manceinion i astudio Cyfathrebu a Thechnoleg Ffasiwn.

Roedd Cydlynydd NRPF The Wallich wedi cwrdd â Zain mewn sesiwn galw heibio Home4U yn 2022. Dywedodd wrthym y byddai’n hoffi dod o hyd i gyrsiau mynediad a chyfleoedd i wirfoddoli i’w helpu i ddysgu sgiliau a phrofiadau newydd i’w helpu i ddod o hyd i le mewn prifysgol yn y dyfodol.

Trafododd Zain a’i fentor newydd y ffyrdd amrywiol posibl sydd ar gael iddo ddatblygu ei sgiliau, gan gynnwys gwirfoddoli gyda rhaglen celfyddydau creadigol The Wallich, dod o hyd i leoliadau gwirfoddoli allanol a pha gyrsiau sydd ar gael yng Ngholeg Caerdydd a’r Fro.

Buom hefyd yn chwilio am ddosbarthiadau achlysurol ac am ddim yng Nghaerdydd lle gallai fynd i rwydweithio a dysgu.

Yn dilyn gwaith helaeth, fe wnaethon ni gysylltu Zain â’r gweithgareddau canlynol:

Mae Zain yn awyddus i gwrdd â phobl o’r un anian ag ef, i ddatblygu ei sgiliau, ac i gael rhywbeth i’w wneud â’i amser.

Drwy’r gweithgareddau hyn, mae’n gobeithio y gall symud ymlaen a helpu i gyrraedd ei nod o fynd i’r brifysgol i astudio ffasiwn.

Gair gan Zain

“Rydych chi wedi fy helpu gymaint, rydw i mor ddiolchgar, diolch o galon.

Pwy fyddai wedi meddwl y byddai cyfleoedd fel hyn ar gael i rywun fel fi?

Rwyf wedi gwirioni – dwi mor hapus.”

Os oes unrhyw rai o’r pynciau a drafodir yn yr astudiaeth achos hon wedi effeithio arnoch chi, mae cymorth a chefnogaeth ar gael. Ewch i’n tudalen Cymorth a Chyngor i gael rhagor o wybodaeth.

Tudalennau cysylltiedig