Anweledig (Caerdydd)

Invisible Cardiff | anweledig caerdydd

Mewn partneriaeth â Dinasoedd Anweledig, y fenter gymdeithasol lwyddiannus, bydd Y Wallich yn hyfforddi pobl y mae digartrefedd yn effeithio arnynt i dywys ymwelwyr o amgylch eu dinas enedigol

Beth yw Dinasoedd Anweledig?

Mae Dinasoedd Anweledig yn fenter gymdeithasol lwyddiannus sy’n hyfforddi pobl y mae digartrefedd yn effeithio arnynt i dywys ymwelwyr o amgylch eu dinasoedd eu hunain ar droed.

Mae’r teithiau hyn yn rhoi cipolwg unigryw ar y ddinas, a’r tywyswyr eu hunain fydd yn dewis y themâu, gan gysylltu hanes y ddinas â’u profiadau a’u diddordebau personol eu hunain.

Dechreuodd y fenter Dinasoedd Anweledig yn 2016, ac maent wedi hyfforddi pobl fel tywyswyr yng Nghaeredin, Glasgow, Efrog a Manceinion.

Sut bydd hyn o fudd i ddefnyddwyr gwasanaeth Y Wallich?

Rhan hollbwysig o waith Y Wallich yw datblygu datrysiadau cynaliadwy, tymor hir i roi diwedd ar ddigartrefedd.

Mae hyn yn dechrau drwy feithrin hyder a datblygu sgiliau drwy gael cleientiaid i helpu i gynllunio, darparu, gwerthuso a gwella’r gwasanaethau maent yn eu derbyn.

Drwy ddechrau cymryd rhan fel hyn, byddant yn barod i symud ymlaen i wneud gweithgareddau lle byddant yn gwneud cynnydd ffurfiol, a’r nod yw helpu pobl i gyrraedd lefel gynaliadwy o annibyniaeth drwy addysg, hyfforddiant a chyflogaeth.

Mae modd i dywyswyr gael eu talu neu weithio’n wirfoddol, yn dibynnu ar ba ddewis sydd fwyaf addas ar gyfer eu hamgylchiadau ar y pryd.

Bydd modd ailfuddsoddi’r incwm o’r teithiau yn y sefydliad a defnyddio hynny i gefnogi tywyswyr i ennill sgiliau fel cyllidebu a rheoli arian.

Bydd tywyswyr yn cael hyfforddiant o safon – fel rheol bydd hyfforddiant ar ffurf gweithdy am gyfnod penodol, cyn iddynt weithio am rhwng pedwar mis a blwyddyn yn datblygu eu taith eu hunain ac yn ymarfer.

Bydd partneriaid creadigol a chymunedol yn darparu’r elfen hon o’r prosiect, gan gynnwys Amgueddfa Genedlaethol Cymru ac Archifau Morgannwg.

Byddant yn defnyddio eu sgiliau a’u harbenigedd i gofnodi, dehongli ac ymgysylltu ag amrywiaeth o wahanol gynulleidfaoedd wrth drafod hanes a threftadaeth.

Teithiau Anweledig (Caerdydd)

Dinas Dychymyg gyda Larysa

Mae Dinas Dychymyg yn stori garu rhwng pobl a lle.

Ymhell cyn i Larysa gyrraedd Caerdydd, roedd y ddinas wedi dal ei dychymyg yn ddiarwybod drwy lyfrau, ffilmiau, rhaglenni teledu, cerddoriaeth a barddoniaeth. Wrth i chi gerdded rhwng tirnodau eiconig Bae Caerdydd, mae straeon am antur, ffuglen wyddonol a rhamant yn dod yn fyw.

Dewrder, cyfeillgarwch a gobaith yw themâu’r daith gerdded hon, gyda digon o hiwmor ac ambell gargoel direidus yn cael eu hychwanegu am lwc.

Uchafbwyntiau’r Daith

textimgblock-img

Gan ddechrau yng Nghanolfan Mileniwm Cymru a mynd yn ôl drwy Stiwdios Teledu Porth y Rhath, byddwch yn ymweld â safleoedd sy’n coffáu’r cerddor Ivor Novello, yr awdur Roald Dahl, a’r anturiaethwr Robert Falcon Scott.

Byddwch hefyd yn darganfod ambell le ffuglennol sydd wedi dod yn gyfarwydd drwy Torchwood a Doctor Who. Wrth i’ch dychymyg gael ei danio, cewch eich cyflwyno i orffennol a dyfodol posibl Cymru drwy bensaernïaeth anhygoel Bae Caerdydd.

Mae adeilad y Pierhead yn ein hatgoffa mai’r rhan hon o’r ddinas oedd canolbwynt morol y byd diwydiannol ar un adeg, ac mae’r Senedd yn symbol o gamau at gynaliadwyedd a meddwl i’r dyfodol.

Dinas Haenau: Monopoli a Metropolis gyda John

Mae dinasoedd yn siapio pobl, ac mae pobl yn siapio dinasoedd.

Mae cenhedlaeth ar ôl cenhedlaeth wedi dylanwadu ar siapiau Caerdydd drwy’r oesoedd ac i’r dyfodol. Yn y daith gerdded hon rydym yn edrych ar haenau hanesyddol cydamserol y ddinas, y caleidosgop o ofod, lle a phŵer sy’n newid yn gyson.

Byddwn yn gweld dinaswedd heddiw gyda llygaid newydd, gan edrych ar adeiladau cyhoeddus amlwg a cherfluniau coffa ynghyd â rhannau trefol llai adnabyddus i ganfod rhai o’r prif benodau hanesyddol a’r unigolion a chwaraeodd ran yn y gwaith o ffurfio’r Metropolis Glo byd-eang.

Uchafbwyntiau’r Daith

textimgblock-img

Mae’r prif elfennau’n cynnwys olion o’r dref gaerog o’r Oesoedd Canol, darnau o archaeoleg ddiwydiannol a Chaerdydd forol, a gogoniant gothig Eglwys Ioan Fedyddiwr.

Uchafbwynt y daith yw campwaith pensaernïol Parc Cathays, sef y Ganolfan Ddinesig gyntaf a gynlluniwyd yn y Deyrnas Unedig ac sy’n ysbrydoliaeth i fudiad Dinasoedd Prydferth America.

Byddwn yn gorffen y daith wrth gerflun trosiadol Minerva, sy’n dangos llafur y glowyr ar ffurf arwyddlun o Faes Glo’r De a ffynhonnell cyfoeth Caerdydd fel porthladd a dinas.

Sut alla i gefnogi?

Mae modd archebu teithiau ar wefan Dinasoedd Anweledig.

Mae modd anfon archebion am lawer o docynnau neu ymholiadau cyffredinol i InvisibleCardiff@thewallich.net

Os gallwch chi helpu i hyrwyddo ein teithiau, cefnogi llwybrau i ddefnyddwyr ein gwasanaeth neu os oes gennych chi ddiddordeb mewn gweithio mewn partneriaeth, cysylltwch â InvisibleCardiff@thewallich.net

Yn ôl Sylfaenydd Dinasoedd Anweledig, Zakia:
textimgblock-img

“Rydyn ni’n falch iawn o gael dechrau gweithio gyda’r Wallich yng Nghymru. Creu cyfleoedd i bobl yng Nghymru y mae’r Wallich, felly addas iawn ydy gweld teithiau Dinasoedd Anweledig yn dod yn rhan o’r hyn maen nhw’n ei wneud.

“Hefyd, mae Caerdydd yn lleoliad gwych ar gyfer y teithiau, gyda miloedd o ymwelwyr, digwyddiadau a hanes cyfoethog i’w rannu.”

Heritage Fund stamp logo