Julie James, Ysgrifennydd Cabinet dros Dai, yn ymweld â Tai yn Gyntaf ar Ynys Môn

17 Jun 2024

Mae prosiect tai The Wallich ar Ynys Môn yn darparu gwasanaethau hanfodol a ‘gobaith ar gyfer y dyfodol’

Yn gynharach y mis hwn, bu’r Gweinidog yn ymweld ag un o’n prosiectau, Tai yn Gyntaf ar Ynys Môn, i gwrdd â staff a defnyddwyr gwasanaeth.

Mae Tai yn Gyntaf yn helpu pobl ddigartref i ddod o hyd i gartref parhaol yn gyflym, gan roi cefnogaeth barhaus i’w helpu i setlo yn eu cartref a’i gadw.

Ein gwasanaeth ni ar Ynys Môn yw’r cynllun Tai yn Gyntaf hynaf yng Nghymru.

Mae ein cefnogaeth yn ymestyn i bobl sy’n cysgu allan, yn syrffio soffas, yn gadael cyfleusterau iechyd meddwl diogel, yn gadael ar ôl triniaeth camddefnyddio sylweddau, neu’n gadael y carchar, a phobl sydd wedi cael eu rhoi mewn llety dros dro.

TAI YN GYNTAF YNYS MÔN, Ysgrifennydd y Cabinet dros Tai

Wrth siarad am y prosiect, dywedodd y Gweinidog:

 “Mae pawb yn haeddu cael rhywle i’w alw’n gartref, a dyna pam rydyn ni wedi cyflwyno cynllun radical ac uchelgeisiol yma yng Nghymru i atal a rhoi diwedd ar bob math o ddigartrefedd.

“Mae adnabod y risgiau’n gynnar â chymryd camau i fynd i’r afael â nhw yn rhan hanfodol o gyflawni hyn, ac mae prosiectau fel Tai yn Gyntaf ar Ynys Môn yn gwneud gwahaniaeth go iawn ac yn cefnogi ein cynlluniau.”

Roedd yr ymweliad yn gyfle gwych i staff siarad ag Ysgrifennydd y Cabinet am y cymorth rydyn ni’n ei gynnig, yn ogystal â phrofiad go iawn o ddigartrefedd, tai i bobl agored i niwed, ac iechyd meddwl.

textimgblock-img

Dywedodd Ceri Thomas, Rheolwr Ardal y Gogledd-orllewin, y Canolbarth a Cheredigion:

“Rydyn ni’n ddiolchgar i Ysgrifennydd y Cabinet am roi o’i hamser i gysylltu â’n timau ar Ynys Môn.

“Roeddem yn falch ei bod hi hefyd wedi cael cyfle i siarad â defnyddiwr gwasanaeth rydyn ni’n ei gefnogi a siarad am ei brofiad o ddigartrefedd a’i sefyllfa ansicr o ran tai.”

Mae’r Aelod o’r Senedd Julie James wedi bod yn Ysgrifennydd y Cabinet dros Dai, Llywodraeth Leol a Chynllunio ers 21 Mawrth 2024.

Os ydych chi’n Aelod o’r Senedd, yn Aelod Seneddol, neu’n rhywun sy’n gwneud penderfyniadau yn eich cymuned leol, ac os hoffech chi ymweld ag un o brosiectau The Wallich, cysylltwch â ni i gael rhagor o wybodaeth: communications@thewallich.net

Tudalennau cysylltiedig