Stori Nigel

29 Nov 2024

Bu Nigel yn defnyddio sylweddau am dros 25 mlynedd, ac yn y pen draw cyrhaeddodd Abertawe.

Pan ddechreuodd Nigel ymgysylltu â The Wallich roedd yn byw ar y stryd yn Abertawe.

Darllenwch ei stori.

Nigel standing at the door

Roedd yn gwbl ddibynnol ar alcohol ac yn byw’r math o fywyd oedd yn golygu bod trais a chyffuriau o’i amgylch yn gyson. Dywedodd Nigel ei fod yn ddyn oedd yn gallu troi’n “gas” yn ei gwrw.

Cafodd Nigel broblemau gyda’r Heddlu droeon.

Gobaith

textimgblock-img

Ymunodd Nigel â Gorwelion, prosiect ar gyfer pobl sydd â phrofiad o’r system cyfiawnder troseddol ac sydd eisiau ymwrthod â chymryd cyffuriau a / neu alcohol.

Mae’r prosiect yn darparu llety â chymorth 24 awr sy’n helpu pobl â’u hadferiad, eu hiechyd meddwl, ac unrhyw beth arall y maen nhw ei angen er mwyn eu galluogi i symud yn eu blaen.

Ers i Nigel gymryd rhan yn y prosiect, mae The Wallich wedi ei helpu o i symud i’w fflat ei hun.

Dywedodd Nigel fod The Wallich wedi bod yn “help mawr” iddo. 

Y Dyfodol

Am ei fod o wedi bod yn ddi-waith am 8 mlynedd o ganlyniad i’w iechyd meddwl a’i ddefnydd o gyffuriau, cafodd Nigel ei gyfeirio gan y ganolfan swyddi at ein rhaglen Camau at Gynnydd, sy’n para 15 wythnos.

Graddiodd gyda’i gyd-fyfyrwyr mewn seremoni yn Y Barri fis Awst.

Ers iddo raddio, mae Nigel wedi bod yn gwirfoddoli, yn ymgysylltu â Llwybrau at Waith ac wedi ymuno â Bwrdd Cysgodol The Wallich.

Roedd Nigel hefyd yn rhan o grŵp ffocws a oedd yn helpu i lunio polisi cyffuriau The Wallich. Mae Nigel eisiau helpu’r elusen i wella eu gwasanaethau gan sicrhau ei bod yn aros yn atebol.

Dywedodd Nigel fod ei fywyd wedi newid yn llwyr o ganlyniad i gymorth tymor hir The Wallich.

Erbyn hyn mae Nigel yn ymwybodol o’i iechyd meddwl ac yn ceisio cadw’n glir oddi wrth y pethau sy’n gwneud i’w iechyd meddwl ddirywio.

Er bod ganddo fflat ei hun, mae Nigel yn llwyr ymwybodol bod cymorth ar gael iddo gan The Wallich pe bai ei angen arno

Mae’n ymwrthod ag alcohol a chyffuriau ac yn ceisio cadw ei hun yn brysur.

Os oes unrhyw rai o’r pynciau a drafodir yn yr astudiaeth achos hon wedi effeithio arnoch chi, mae cymorth a chefnogaeth ar gael. Ewch i’n tudalen Cymorth a Chyngor i gael rhagor o wybodaeth.