Gorwelion

39 Walter Road, Abertawe, SA1 5NW

Abertawe

01792 466 566

Llety â chymorth sy’n canolbwyntio ar ymatal yn Abertawe

Mae Gorwelion yn helpu trigolion i ennill y wybodaeth a’r sgiliau i fyw yn rhydd o sylweddau ac yn annibynnol mewn llety cynaliadwy ac addas.

Mae’r gwasanaeth yn gweithio gyda phobl sydd â hanes blaenorol o ddefnyddio sylweddau a throseddu a hoffai ymatal rhag defnyddio sylweddau.

Mae yna ddau eiddo Gorwelion yn cynnig amgylchedd sy’n ystyriol o gyflwr seicolegol (PIE) ar gyfer adferiad preswylwyr a symud ymlaen gyda’u bywyd.

Mae un tŷ yn cynnwys saith ystafell ac mae gan y llall chwe ystafell.

Mae gan bob ystafell Gorwelion eu hystafell gawod eu hunain a chegin fach.

Mae cegin ac ystafell ymolchi gymunol yn y ddau eiddo.

Mae ein harbenigwyr sy’n deall trawma yn staffio ein heiddo Gorwelion 24/7.

Y gefnogaeth rydym yn ei chynnig:

Mae Gorwelion yn gweithio gyda nifer o wahanol asiantaethau i gefnogi’r cleientiaid i wella o ddefnyddio cyffuriau neu alcohol.

Rydym hefyd yn cynnig gweithgareddau mewnol i annog byw yn rhydd o sylweddau.

Mae atgyfeiriadau i’r prosiect yn cael eu cwblhau drwy’r tîm TAP yn Opsiynau Tai Abertawe.

Beth mae ein staff yn ei ddweud

“Gweld pobl yn ffynnu ac yn mwynhau bywyd unwaith eto. Nid oes yr un swydd arall yn cymharu.”

– Aelod o staff Gorwelion The Wallich

“Bob dydd, mae fy swydd yn fy ngalluogi i weithio mewn tîm sy’n ysbrydoledig ac yn canolbwyntio ar y canlyniadau gorau i’n cleientiaid. Mae’n heriol, yn hwyl ac yn werth chweil.”

“Mae’n anrhydedd gweithio gyda’n cleientiaid sydd wastad yn fy rhyfeddu gyda’u dewrder wrth frwydro i wella o gamddefnyddio sylweddau.”

“Gorwelion yw’r swydd orau rydw i erioed wedi’i chael ac rydw i wrth fy modd yn dod i’r gwaith bob dydd.”

– Aelod o staff Gorwelion The Wallich

Pobl sydd wedi byw yn Gorwelion

textimgblock-img

Fe arweiniodd magwraeth heriol yn Abertawe at gaethiwed a daeth troseddu yn rhywbeth normal.

Yn 28 oed, sylweddolodd Stephen bod angen iddo newid ar ôl noson o droseddu ar ôl cymryd cyffuriau ac alcohol.

 

Darllenwch stori Stephen
textimgblock-img

Am flynyddoedd lawer, roedd Faisal, 62 oed, yn gaeth i sylweddau.

Ar ôl cyfnod yn y carchar, mae Faisal bellach yn byw bywyd heb gyffuriau gyda chymorth staff yn The Wallich.

Darllenwch ei stori

Tudalennau cysylltiedig