Stori Faisal

11 Apr 2023

Am flynyddoedd lawer, roedd Faisal, 62 oed, yn gaeth i sylweddau

Ar ôl cyfnod yn y carchar, mae Faisal bellach yn byw bywyd heb gyffuriau gyda chymorth staff yn The Wallich.

Darllenwch ei stori

Bywyd cyn The Wallich

“Dwi wastad wedi cymryd cyffuriau. Roeddwn i ar grac, heroin a sbeis. Eu gwerthu a’u hysmygu.

Roedd fy nibyniaeth ar ei waethaf pan oeddwn yn fy 30au.

Yn 2018, cefais fy ngalw’n ôl i’r carchar. Er fy mod wedi fy nyfarnu’n ‘ddieuog’ yn y llys, dywedodd y gwasanaeth prawf fy mod yn cael fy ngalw’n ôl i’r carchar. Roeddwn i yn y carchar am 13 mis.

Fe wnes i adael y carchar ym mis Chwefror 2021 ac rydw i wedi bod yma [yn un o brosiectau The Wallich yn Abertawe] ers hynny.”

Cael y gefnogaeth iawn

“Mae wedi bod yn dda ers i mi fod yma. Rydw i wedi cael llawer o gefnogaeth.

Rydw i wedi dilyn triniaeth, y rhaglen Deuddeg Cam. [Lluniwyd y rhaglen Deuddeg Cam fel bod pobl yn gallu ymwrthod â chyffuriau ac alcohol yn llwyddiannus, a chynnal hynny yn y tymor hir.]

Does dim llawer o bobl yn cwblhau’r rhaglen gan ei fod mor ddwys. Yn ngham pedwar a phump, mae’n rhaid i chi dyrchu’n ddwfn.

Mae’n rhaid i chi siarad am eich asedau, eich diffygion, eich dicter. Mae’n rhaid i chi edrych yn fanwl ar eich ffordd o fyw. Mae’n anodd.

Dwi’n teimlo’n wych nawr. Dwi ddim yn meddwl am gyffuriau mwyach.

Rydw i’n gallu bod o gwmpas pobl sy’n cymryd cyffuriau ac nid yw’n fy mhoeni. Rydw i wedi cael cynnig cyffuriau ac rydw i wedi dweud ‘na, does dim diddordeb gen i mwyach.’

Mae nhw’n parchu fy newis. Dydyn nhw ddim yn gofyn i mi nac yn ceisio pasio cyffuriau i mi.”

Cadw’n brysur

“Rydw i wedi gwneud gwaith gwirfoddol ar gyfer cartref i gŵn [Many Tears Rescue Centre].

textimgblock-img

Ers i mi ddod yma [i The Wallich], rydw i wedi prynu fy nghar fy hun.

Y tro cyntaf erioed i mi gael car wedi’i drethu a’i yswirio’n gyfreithiol.

Mae’n braf gallu neidio yn fy nghar a mynd i unrhyw le. Yn gyfreithiol.

Fy hoff le i fynd yw i lawr y Gŵyr.

Mae gen i arian yn fy poced, arian yn y banc. Rydw i’n mynd i mewn ac yn talu am bethau nawr, yn hytrach na’u dwyn – a byddwn i wedi gwneud hynny o’r blaen.

Rydw i wedi cyflawni llawer ers i mi fod ym mhrosiect The Wallich. Rydw i wrthi’n symud ymlaen.”

Bywyd teuluol a chefnogaeth

“Mae gen i deulu.

Mae fy nai yn yr ystafell drws nesaf i mi. Roeddwn yma o’i flaen. Roedden nhw wedi rhoi gwybod i mi ei fod yn dod yma.

Mae gen i ddau fab a dydyn nhw ddim yn cyffwrdd cyffuriau. Rydw i’n eu gweld nhw nawr bob penwythnos.

Mae gen i 4 o wyrion, felly dwi’n eu gweld nhw drwy’r amser. Cyn hynny, fyddwn i ddim yn eu gweld nhw o gwbl. Nawr eu bod nhw’n rhan o fy mywyd, mae’n wych.

Mae fy wyres bob amser yn dweud ‘Bampa, bampa, alla i aros gyda chi?’ Rydw i’n dweud [wrth ei fab], ‘Mae hi’n fy ngalw i’n Bampa eto, dweud wrthi i roi’r gorau iddi a fy ngalw Midge. Mae’n gwneud i mi deimlo’n hen.’ Mae’n grêt.

Yn fuan, byddan nhw’n gallu aros dros nos gyda mi.

Ychydig wythnosau’n ôl, es i a fy nau fab allan am swper. Mae’n braf, roedd yn ben-blwydd fy mab iau. Aethom am garferi.

Roedd yn wych i’r tri ohonom fod gyda’n gilydd.

Rwy’n falch iawn o’m dau fab. Roedd gen i berthynas â nhw o’r blaen ond pan oeddwn i’n cymryd cyffuriau, doedden nhw ddim eisiau gwybod.

Alla i ddim gweld bai mewn gwirionedd. Doeddwn i ddim yn lân ac yn daclus. Roeddwn i’n denau fel styllen. Roedd fy wyneb yn hagr. Nawr maen nhw’n fy ngweld i drwy’r amser.”

Dyfodol cadarnhaol o’m blaen

“Mae gen i fy nhrwyddedau gyrru cerbydau nwyddau trwm. Efallai y byddaf yn mynd yn ôl i yrru lorïau. Neu efallai af i ddreifio bysiau, dydw i ddim yn gwybod eto. Mae fy opsiynau ar agor.

Maen nhw wedi fy nghofrestru ar gyfer canolfan i bobl dros 50 oed. Mae ganddyn nhw ardaloedd hyfryd.

Dydw i ddim eisiau mynd yn ôl i ardaloedd drwg, lle mae cylchoedd cyffuriau. Dydw i ddim eisiau dilyn y trywydd hwnnw eto.

Rydw i wedi bod yno, wedi gwneud hynny, wedi gwisgo’r crys-t. ‘Dyw hi ddim yn werth y drafferth

Rydw i wedi llenwi fy holl bapurau symud ymlaen; dim ond aros sydd rhaid nawr. Rydw i’n fodlon mynd i unrhyw le gwell.”

Dywedodd Hayley, Rheolwr Gwasanaethau Cynorthwyol y gwasanaeth yn The Wallich:

“Mae Faisal wedi bod yng Nghanolfan Gorwelion ers dwy flynedd ac wedi cwblhau rhaglen gydag Adferiad.

Nid yw’n gaeth i sylweddau anghyfreithlon ers nifer o flynyddoedd bellach.

Drwy gydol ei gyfnod yma, mae wedi ymgysylltu’n dda â staff a bydd yn symud i lety parhaol ddiwedd y mis.”

Os oes unrhyw rai o’r pynciau a drafodir yn yr astudiaeth achos hon wedi effeithio arnoch chi, mae cymorth a chefnogaeth ar gael. Ewch i’n tudalen Cymorth a Chyngor i gael rhagor o wybodaeth.

Tudalennau cysylltiedig