Stori Stephen

02 Dec 2022

Fe arweiniodd magwraeth heriol yn Abertawe at gaethiwed a daeth troseddu yn rhywbeth normal.

Yn 28 oed, sylweddolodd Stephen bod angen iddo newid ar ôl noson o droseddu ar ôl cymryd cyffuriau ac alcohol.

Darllenwch stori Stephen

Stephen's story - Wallich service user in Swansea turns life around

Anrhefn o blentyndod

“Fe wnes i gyflawni trosedd pan o’n i’n naw oed. Dyna pryd ddechreuodd y cyfan.

Fe gollais i fy nhad yn ifanc. Cafodd ei lofruddio – ei drywanu i farwolaeth. Ro’n i’n cael trafferth byw hebddo o ddydd i ddydd, felly fe wnes i droi at gyffuriau.

Roedd fy mrodyr hŷn arfer gwerthu cyffuriau, felly roedd wastad crac cocên a heroin yn y tŷ.

Pan fydden nhw’n mynd allan, byddwn yn paratoi’r cyffuriau ac yn cymryd beth ro’n i eisiau heb yn wybod iddyn nhw. A dyna sut es i’n gaeth.

Ro’n i’n arfer cymryd heroin i dawelu’r boen. Mae’n taro eich holl emosiynau a’ch teimladau   felly gallwch chi fwrw ymlaen â phethau eraill.

Ro’n i’n dwyn o siopau, bwrgleriaeth, begian ar y strydoedd, dim ond i dalu am fy arferion.

Fe lwyddais i gael sgript methadon yn 16 oed.

Rydw i wedi bod i fewn ac allan o garchar am y rhan fwyaf o’m mywyd. Doeddwn i ddim yn teimlo mod i wedi cael cefnogaeth deuluol, ro’dd yn anodd iawn.

Yna fe gollais i mam. Cafodd gorddos yn ddamweiniol. Fe wnaethon ni gyd addo ar ei gwely angau, y byddem yn troi i fod y person ro’dd hi eisiau i ni fod go iawn.

Fe wnaethon ni gyd ddweud ffarwel ar ei gwely angau. Yna dwi’n credu es i nôl i Lanelli oherwydd ro’n i wedi cwrdd â merch. Ro’n i’n gwneud yn dda am fisoedd.”

Y noson a newidiodd popeth

“Daeth un o’m ffrindiau gorau i ngweld i. Doeddwn i heb ei weld ers sawl mis. Ro’dd yn braf ei weld, ond ro’dd gydag e newyddion drwg ei fod wedi colli ei dad.

Yn hytrach na dweud rhywbeth da fel ‘Dere, gad i ni fynd i wylio ffilm a chael pizza’, fe wnes i benderfynu fynd i’r dafarn a meddwi’n gaib.

Ro’dd gyda ni gyffuriau. Ges i ambell beint a dawns o amgylch y dafarn. Alla i ddim cofio unrhyw beth ar ôl hynny, aeth y cyfan yn nos arna i.

Fe wnaeth yr heddlu fy holi: ‘Fe wnaethoch chi gyflawni pedwar bwrgleriaeth y noson honno, defnyddio cardiau credyd i brynu cardiau crafu, mwy o gwrw, mwy o sigaréts. Ro’dd yn anodd i fi ddychmygu hynny. Go iawn?’

Ro’n i’n siomedig gyda fy hun oherwydd ro’n i’n gwneud yn eithaf da. Tan hynny, ro’n i eisiau gwneud ymdrech ac i newid fy ffyrdd.”

Cynnydd positif yn y carchar

“Tra’n y carchar, ro’n i’n gwneud y Deuddeg Cam [Rhaglen a gynlluniwyd i helpu pobl i ymatal rhag cymryd cyffuriau ac alcohol].

Ro’n i’n gweithio ar fy nghaethiwed, fy nheimladau, fy emosiynau. Byddwn yn mynd i gyfarfodydd yn y carchar ac yn gwrando ar straeon pobl ac yn meddwl ‘Ti’n gwybod beth, fe alli di wneud hyn.’

Ro’n i’n gwybod am The Wallich oherwydd ro’dd cyd-garcharor wedi gwneud cais am y rhaglen hefyd.

Ro’n i’n gofyn cwestiynau iddo, ‘Beth yw’r rhaglen? Beth mae’n wneud?’ Esboniodd ei bod yn gweithio ar reoli eich lle eich hun, rheoli eich arian.

A dyna’r math o bethau ro’n i eisiau gwneud, oherwydd mod i wedi cael popeth wedi’i wneud i fi ar hyd fy oes. Felly, pan ddaeth hi’n fater o orfod gwneud, ro’n i’n ei chael hi’n anodd.

Mae gen i ambell anhawster dysgu, a dwi’n  gweithio arnyn nhw, mae’n broses sy’n mynd yn ei blaen.

textimgblock-img

Fe ddes i allan o’r carchar.

Fe gymerais ran mewn cyrsiau, cymryd rhan yn WCADA, gwneud y 12 cam.

Un o’r camau yw ‘Mae’n rhaid i ti gredu na all unrhyw bethau sy’n newid y meddwl reoli dy gorff.’

Ond ro’n i dal ar y meth.

Ro’n i’n dod i lawr yn raddol bach, ac i fod yn onest, ges i ambell disiad, ychydig o boen yn fy nghoesau yma ac acw, ond fe weithiodd y cyfan yn dda.”

Cymorth The Wallich

“Mae cymorth y staff wedi bod yn anhygoel. Ro’n nhw [gweithwyr cymorth Stephen] wedi bod drwy gaethiwed, felly maen nhw’n gwybod beth i’w ddisgwyl wrthoch chi.

Mae’n gwneud i chi wthio ychydig yn fwy. Dyw pobl ddim yn chwarae o gwmpas, ac maen nhw’n cymryd pethau o ddifri.

Mae’r staff wedi bod yn barod iawn i helpu.

Os oes unrhyw beth sydd angen cael ei wneud, maen nhw’n mynd ar drywydd y peth ar unwaith.

Maen nhw’n neis iawn, yn garedig iawn.

Aethon ni i’r ganolfan achub i gerdded y cŵn a helpu i glirio. Ro’dd hwnna peth cyntaf yn y bore, ond mae mor braf mynd allan, mynd â’r cŵn am dro, clirio’r pen a gwneud pethau normal.

Mae wedi bod yn daith hyfryd gyda The Wallich.

Fe wnes i’r cwrs WISE hefyd. Fe wnaeth hynny fy helpu cryn dipyn, gan adeiladu fy hunan-barch, fy hyder.

textimgblock-img

Roedd y graddio mor arbennig i fi, oherwydd dydw i erioed wedi gwneud rhywbeth tebyg o’r blaen.

Ro’n i’n rhan o rywbeth.

Rwy’n dal i weithio ar bethau. Yn dal i ddysgu sut i fyw bywyd i’r eithaf.”

Beth mae Stephen ei eisiau yn y dyfodol?

“Swydd fach ran-amser gobeithio. A gobeithio y bydd gen i fy lle fy hun. Rhywle neis a thawel, wrth y traeth. Rydw i wrth fy modd yn pysgota.

Gyrru; dyna un peth sydd ar fy rhestr i. Dwi wir eisiau cael trwydded yrru.

Fe wnes i gais am basbort. Dyma’r tro cyntaf i fi gael pasbort ers… allai i ddim hyd yn oed cofio. Dwi ddim yn meddwl mod i erioed wedi cael  pasbort.

Mae’n beth braf cadw eich opsiynau yn agored. Fe allwn i fynd o amgylch y byd pe bawn i eisiau. Allwn i byth fod wedi gwneud hynny, bryd hynny. Doeddwn i ddim hyd yn oed yn gwybod pa ddiwrnod o’dd hi.”

Os oes unrhyw rai o’r pynciau a drafodir yn yr astudiaeth achos hon wedi effeithio arnoch chi, mae cymorth a chefnogaeth ar gael. Ewch i’n tudalen Cymorth a Chyngor i gael rhagor o wybodaeth.

Tudalennau cysylltiedig