Tai yn Gyntaf Abertawe wedi’i achredu a’i gydnabod gan Lywodraeth Cymru

16 Apr 2025

Dyfarnwyd achrediad Tai yn Gyntaf Cymru i wasanaeth The Wallich yn Abertawe mewn cyflwyniad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Thai

Mae’r achrediad yn dilyn misoedd o graffu trylwyr i werthuso pa mor agos mae’r prosiect yn cadw at egwyddorion Tai yn Gyntaf Cymru.

Cyflwynwyd y wobr i’r tîm gan Jayne Bryant AS o Lywodraeth Cymru, yn ystod ymweliad arbennig â’r gwasanaeth ym mis Ebrill.

Mae nifer o egwyddorion Tai yn Gyntaf yn cyd-fynd â dull The Wallich fel sefydliad sy’n seiliedig ar drawma – themâu fel diogelwch, cydweithredu a dewis.

The Wallich: Arweinydd o ran darparu dull Tai yn Gyntaf

Mae gwasanaethau Tai yn Gyntaf Abertawe wedi cael eu darparu gan The Wallich ers 2019.

Mae’r tîm wedi cefnogi 30 o bobl i gael eu cartref parhaol eu hunain ers iddo ddechrau ac mae’n gweithio’n agos gyda’r asiantaeth cyffuriau ac alcohol, Kaleidoscope.

Mae’r tîm hefyd yn gweithio’n dda ochr yn ochr â thîm Opsiynau Tai Cyngor Abertawe, nyrs arbenigol defnydd sylweddau Dyfodol, darparwyr gofal iechyd a hosteli a gwasanaethau eraill The Wallich.

Dyma ail achrediad Tai yn Gyntaf Cymru The Wallich yn dilyn ei wobr Tai yn Gyntaf Ynys Môn yn 2022.

Adroddiad achredu

Gellir gweld tystiolaeth lawn o’r adroddiad ar wefan Cymorth Cymru.

Dyma rai dyfyniadau o’r adroddiad am sut mae gwasanaeth Tai yn Gyntaf The Wallich wedi profi ei fod yn deilwng o’r achrediad:

Cefnogi pobl i gael cartref

“Cadarnhaodd un cleient, yn ystod ei gyfweliad, y syniad fod ei weithiwr cymorth yn gweithredu fel eiriolwr ac yn amlwg ‘ar ei ochr’.”

“Bydd tîm The Wallich ‘bob amser yn eirioli dros y cleient ac yn herio [landlordiaid] pryd bynnag y bo angen’.”

“Mae cyllidebau wedi’u personoli ar gael i gleientiaid addurno eu llety a chreu llefydd sy’n teimlo fel ‘cartref’.”

“Does yr un cleient wedi cael problemau gyda’u llety cyn symud i mewn (a fyddai’n cael sylw gan weithwyr cymorth, fel eu heiriolwyr) sy’n awgrymu bod y broses lle mae cleientiaid yn dod o hyd i eiddo  a’i weld yn gweithio’n dda. Mae unrhyw broblemau gyda’r llety y mae cleientiaid yn eu hadrodd wedyn yn cael sylw yn y ffordd briodol. Roedd y cleientiaid a gafodd eu cyfweld yn dweud eu bod yn fodlon gyda’r ffordd y mae hyn wedi gweithio.”

Cefnogi’r bobl ddigartref fwyaf bregus sy’n cysgu allan

“Wnaiff y tîm ddim gwrthod unrhyw un ar sail eu bod yn ‘rhy gymhleth’. Darparwyd sawl enghraifft, gan gynnwys cleient yr oedd angen cymorth iechyd meddwl sylweddol hirdymor arno.”

Cafodd y tîm ei gymeradwyo am gydweithredu â’r sector gofal iechyd; nyrsys ac arbenigwyr defnyddio sylweddau.

Dywedodd un person a gefnogwyd gennym trwy Tai yn Gyntaf ei fod wedi “treulio un mis ar bymtheg ar y strydoedd”.

Lleihau niwed

“Mae dogfennau polisi alcohol a chyffuriau ar draws y sefydliad yn ei gwneud hi’n glir bod yn rhaid i ymatal fod yn ‘ddewis a wneir gan y cleient’, sy’n golygu na fyddai ymagwedd o’r fath at ddefnyddio sylweddau byth yn cael ei orfodi ar unrhyw gleient”.

“Mae’r polisi alcohol ar gyfer cleientiaid Tai yn Gyntaf yn un enghreifftiol wedi’i ysgrifennu mewn ffordd sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn ac yn seiliedig ar drawma.”

Datblygu perthnasoedd a gweithio gyda’n gilydd

“Mae gweithwyr Tai yn Gyntaf wedi datblygu perthynas gadarn gyda’r gwahanol awdurdodau lleol, Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig, a phartneriaid eraill sy’n allweddol i reoli llety.”

Cyd-gynhyrchu, dewis a chydweithredu

“Beth bynnag fo’r sefyllfa, cyd-destun neu darddiad y gŵyn neu’r broblem, mae cleientiaid yn cymryd rhan drwy’r amser.”

“Mae cynlluniau cymorth sy’n gysylltiedig â chleientiaid yn tynnu sylw at y lefel sylweddol o hyblygrwydd ac amrywiaeth sy’n rhan annatod o’r gefnogaeth sy’n cael ei chynllunio gyda phob unigolyn, ac yna ei darparu.”

“Ymrwymiad i gefnogaeth sydd nid yn unig yn hyblyg, ond heb unrhyw derfynau amser.”

“Mae’r dogfennau cau achos yn enghraifft arall o’r gefnogaeth sy’n cael ei darparu gan The Wallich… eglurir bod achosion cleientiaid yn annhebygol o gael eu cau, ond yn hytrach maen nhw’n aros yn ‘segur’ a byddai cleientiaid yn dal i allu cael mynediad at gefnogaeth hyblyg yn ôl eu hanghenion”.

“Mae The Wallich yn sefydliad sydd wedi ymrwymo ers amser maith i amgylcheddau sy’n ystyriol o gyflwr seicolegol (PIE), ac mae’r arfer hwn yn cael ei ddangos yn glir gan staff gwasanaeth Abertawe”.

“Cadarnhaodd cleientiaid eu bod yn teimlo eu bod yn cael eu derbyn a’u dathlu am bwy oedden nhw, ac yn cael cynnig cyfleoedd i benderfynu a dilyn nodau yr oedden nhw wedi’u dewis”.

Meddai Anna Hooper, Rheolwr Ardal The Wallich ar gyfer Abertawe:

“Mae The Wallich yn ddiolchgar iawn i dîm Tai yn Gyntaf Cymru yn Cymorth Cymru am yr amser a gymerodd i asesu llwyddiant Tai yn Gyntaf Abertawe, ac i’r Gweinidog am ddod i gyfarfod ein tîm gwych wyneb yn wyneb.”

“Mae’r tîm achredu wedi darparu argymhellion dilys ac adeiladol ar gyfer sut y gellir ei wella hyd yn oed ymhellach yn y dyfodol.

“Edrychwn ymlaen at gefnogi mwy o bobl i gefnu ar y strydoedd fel rhan o’r uchelgais i leihau digartrefedd a helpu pobl i fyw bywydau mwy diogel, hapusach ac annibynnol.”