“Yn aml, nid yw menywod digartref yn cael eu gweld gan y cyhoedd. Rwyf i bob amser yn poeni’n arw pan fyddaf yn gweld menyw ar y stryd, oherwydd mae llawer llai o ferched ar y stryd o’i gymharu â dynion. Ond nid yw hynny’n golygu bod dim llawer o fenywod digartref yn bodoli.
Rwyf i’n aml yn gweld cryfder a gwydnwch menywod digartref y tu ôl i ddrysau caeedig. Maen nhw’n fwy tebygol o guddio, symud o soffa i soffa, rhoi eu hunain mewn sefyllfaoedd peryglus er mwyn cael rhywle i gysgu, neu aros mewn perthynas nad yw’n iach.
Mae The Wallich yn gweithio ers 1978 i roi to uwch ben a chefnogi pobl pan nad yw eu cartref yn gartref mwyach. Wrth i’r oes newid, mae ein dull ni o helpu pobl wedi datblygu. Yn fy ngwaith i, rwyf i’n gorfod ystyried anghenion amrywiol gwahanol bobl – ac ymateb i ddigartrefedd mewn ffordd amrywiol sy’n ystyriol o drawma.
Dyna pam ein bod ni yn The Wallich, gyda chefnogaeth Homewards a’r Royal Foundation, yn cynnal grŵp gweithredu ar gyfer merched digartref o’r enw Gwent Women Will Unite.
Mae ein grŵp yn delio â materion sy’n effeithio’n benodol ar ferched – trais domestig, gwaith rhyw, masnachu, bod yn fam, cyffuriau a dibyniaeth, datblygu ein sgiliau, dangos ein gwerth a’n hyder a’n hawydd i wneud y byd yn lle gwell.
Rydym ni’n grŵp ar gyfer pob menyw sydd â phrofiad bywyd. Rwyf i’n sgwrsio gyda nhw am y pethau sydd wedi mynd o chwith yn eu bywyd, a’r cymorth a’r gefnogaeth yr oedden nhw’n eu haeddu’r adeg honno. Rydym ni’n codi ein llais ac yn cydweithio â’r awdurdodau er mwyn gwneud y daith yn haws i’r menywod fydd yn dilyn ôl troed y menywod hyn.
Er bod eich hanes yn siapio eich camau nesaf, nid yw’n eich diffinio
Beth sy’n digwydd pan fyddwch chi’n cael cartref ar ôl bod yn ddigartref? Beth nesaf?
Mae Gwent BOOST yn bartneriaeth o asiantaethau fel The Wallich, St Giles, Cyngor Ffoaduriaid Cymru, Tai Pawb a Cyfannol, sydd yn dod at ei gilydd i gyrraedd yr un nod: Datblygu sgiliau a chryfderau pobl sydd wedi profi digartrefedd er mwyn torri cylch digartrefedd a sicrhau ei fod yn beth prin, sy’n digwydd am gyfnod byr, a hynny un waith mewn bywyd.
Rwyf i â’r grŵp o fenywod sy’n rhan o Gwent Women Will Unite a BOOST Gwent wrthi’n gweithio ar brosiectau cyffrous:
Mae’n gred gyffredin nad oes modd datblygu heb newid, a dyna pam fy mod i’n gofyn i fenywod rannu eu profiadau nhw er mwyn dylanwadu ar y ffordd mae ein systemau’n gweithio, dyna’r unig ffordd y gallwn ni warchod menywod rhag y trawma a ddaw o fod yn ddigartref.
Felly, a fydd menywod digartref yn aros ymhell o’r golwg ac ymhell o’n meddwl? Dim os caf i fy ffordd.