Cafodd y Bil Digartrefedd a Dyrannu Tai Cymdeithasol (Cymru) ei basio’n unfrydol yn y Senedd ar 10 Chwefror 2026.

Roeddem yn falch iawn o weld y gefnogaeth drawsbleidiol i’r diwygiadau pwysig hyn.
Rydym yn croesawu’r ddeddfwriaeth newydd hon yn fawr, ac mae’n ganlyniad i flynyddoedd o ymdrechion unedig gan y sector gyfan i atal digartrefedd.
Beth fydd yn newid?
- Bydd y ‘dyletswydd atal’ yn codi o 56 diwrnod i chwe mis. Mae hyn yn rhoi llawer mwy o amser i awdurdodau lleol gefnogi unrhyw un sydd mewn perygl o fod yn ddigartref.
- Bydd amrywiaeth o wasanaethau cyhoeddus â dyletswydd i ‘Ofyn a Gweithredu’ os ydynt yn cwrdd â rhywun sy’n profi, neu sydd mewn perygl o brofi digartrefedd.
- Bydd y prawf angen blaenoriaethol a’r prawf digartrefedd bwriadol – sydd wedi atal pobl rhag cael cymorth sy’n achub bywydau am gyfnod llawer rhy hir – yn cael eu diddymu.
- Bydd y prawf cysylltiadau lleol yn aros (er gwaethaf ein galwadau i gael gwared arno’n llwyr) – ond bydd mesurau diogelwch newydd yn gwarchod pobl sy’n symud i ardal newydd er mwyn dianc rhag camdriniaeth.
Dywedodd Thomas Lavery, Cydlynydd Polisi a Materion Cyhoeddus The Wallich:
“Rydym ni’n ddiolchgar iawn i bawb sydd wedi cyfrannu at y gwaith o gyflwyno’r ddeddfwriaeth hon.
Dyma gyflawniad pwysig sydd â’r potensial i newid pethau i’r bobl rydym ni’n eu cefnogi.”