Fe wnaeth anaf ar ei gefn yn y gwaith arwain at fynd yn gaeth i gyffuriau, gan newid bywyd Tom yn llwyr – a’i wneud yn ddigartref.
Gyda help Doorstop The Wallich, mae Tom bellach yn byw yn ei le ei hun, mewn adferiad ac yn edrych ymlaen i’r dyfodol.

DARLLENWCH EI STORI
“Cyn i fi gwrdd â The Wallich, roeddwn i’n defnyddio heroin ac ar bresgripsiwn am methadon bob dydd.
Roeddwn i’n ddigartref, yn byw mewn gwesty mewn tref ddieithr ymhell wrth fy nheulu. Doeddwn i ddim yn nabod neb yno. Roedd fy mywyd ar stop.
Ac roeddwn i’n trio stopio, ond doedd gen i ddim rheswm i wneud unrhyw beth. Roeddwn i wedi rhoi’r gorau iddi bron iawn erbyn hynny.”
O GAEL ANAF YN Y GWAITH I FOD YN DDIGARTREF
“Dechreuodd y cyfan pan oeddwn i’n gweithio. Fe ges i anaf ar fy nghefn ac fe wnaeth rhywun roi stribyn o dabledi codein i fi. Roeddwn i wrth fy modd â’r teimlad. Y diwrnod canlynol, roedd fy nghefn yn dal i frifo, a gofynnais am dabled arall. A dywedodd, fe wnai ddod â bocs i ti. Felly, dechreuais eu cymryd nhw, hyd yn oed pan oedd fy nghefn yn iawn.
Ac yna es i o hynny i Tramadol, ac roedd yn gwaethygu. Yna roeddwn i’n prynu oxycodone. A phan na allwn eu cael nhw, roeddwn i’n encilio ac roedden nhw’n llawer drutach na heroin, felly fe wnes i newid i heroin yn y pen draw.
Doeddwn i ddim yn gallu parhau i weithio achos doeddwn i ddim yn gallu fforddio’r cyffuriau oedd eu hangen arna i i osgoi teimlo’n sâl – oherwydd y symptomau diddyfnu corfforol. Ac yna, dwi’n meddwl mai ychydig wythnosau’n ddiweddarach, rhedais allan o arian; rhedais allan o bopeth.
Symudais at fethadon, ond doedd e ddim wir wedi fy helpu gymaint â hynny, felly yn y pen draw, roeddwn i’n ei ddefnyddio ar y cyd â phethau eraill hefyd.
Dwi’n credu mai mis ar ôl y Nadolig oedd hi, roeddwn i’n dal i fyw gyda fy rhieni. Fe wnes i gymryd gorddos a daeth fy mam o hyd i fi ar lawr y gegin, yn las, a bu’n rhaid iddi roi CPR.
Daeth pethau i’r pwynt lle roedd fy mam ddim yn gallu ymdopi mwyach. Yn amlwg, doedd hi ddim eisiau fy nhaflu allan, ond doedd hi ddim yn gwybod beth i’w wneud gan fy mod i’n dwyn arian, pethau o’r tŷ, pob math o bethau, a’r heddlu’n cyrraedd. Felly bu’n rhaid iddi fy nhaflu allan.
Fe wnes i ffonio’r llinell gymorth ar gyfer pobl ddigartref yn y Rhyl, ac fe wnaethon nhw drefnu llety mewn tŷ wedi’i rannu am bythefnos. Ac yna bu’n rhaid i fi fynd i westy ar gyfer pobl ddigartref.”
BAROD I DDADWENWYNO
“Ar ôl tua 3 mis o wneud yr un peth, cyrhaeddodd y pwynt lle roeddwn i ond yn eistedd mewn ystafell yn y gwesty, mynd i’r fferyllydd bob dydd, dod nôl, gwneud dim byd, ac aros i gael rhywfaint o arian Credyd Cynhwysol i brynu cyffuriau a fyddai’n para sawl diwrnod.’ Ac fe wnes i barhau i wneud hynny, ac yn y pen draw, ges i lond bol.
Felly fe feddyliais, mi wna i drio stopio; mi gymera i fy mresgripsiwn a rhoi cynnig go iawn arni am unwaith.
Ac fe ddechreuais deimlo’n well.
Soniodd un o fy ngweithwyr cymorth am ddadwenwyno neu detox a phigiad Buvidal i ddod oddi ar y methadon. Felly cytunais i fynd.
Rwy’n credu mai wythnos cyn y detox, wnaeth Jess o The Wallich fy ffonio. A dywedodd, ‘Rydyn ni’n gwybod dy fod ar fin dechrau detox. Fe glywson ni am yr hyn sy’n digwydd. Allwn ni ddod i siarad â ti? Efallai bod gyda ni rywle i ti fyw ar ôl i ti orffen y detox.’
Roeddwn i’n obeithiol am y detox, ond yn poeni. Ond unwaith i fi siarad â Jess, tua 15 munud yn ddiweddarach, fe ges i alwad ffôn yn dweud, ‘Rydyn ni’n mynd i roi’r tŷ i ti’, ac yna, fe es i am detox.
Meddyliais, wel, fe wna i roi cynnig da arni.”
ADFERIAD GREDDFOL
“Mae’r gweithwyr cymorth yn anhygoel. Roedd ‘na ddyn o’r enw Phil. Fe oedd yr un drefnodd i fi ddechrau’r cwrs adferiad greddfol.
Mae’r cwrs yn dweud wrthych chi sut mae eich ymennydd yn crefu am y cyffuriau roeddech chi’n eu cymryd.
Dyw e ddim fel cyfarfodydd AA, doedden nhw byth yn gweithio i fi. Ond mae adferiad greddfol yn fwy tebyg i: does dim rhaid i chi fod yn gaeth i sylweddau am weddill eich oes.
Gallwch chi benderfynu mai dyma’r pwynt lle rydych chi’n stopio; does dim rhaid i chi fod fel hyn am byth, a does dim rhaid i chi gael y label ‘caeth’. Dwi eisiau ei adael yn y gorffennol, ac roedd y cwrs hwn yn wych ar gyfer hynny.
Ar ôl cwblhau’r cwrs, syrthiodd popeth i’w le. A dyna wnaeth i fi ddechrau meddwl: ‘Iawn, galla i wneud rhywbeth os wna i roi cynnig arni.'”
SYMUD YMLAEN GYDA THE WALLICH
“Mae The Wallich wedi fy helpu drwy roi cymorth gyda thai.
Maen nhw fwy neu lai wedi fy rhoi ar ben ffordd i ddechrau fy mywyd pan fydda i’n gorffen y detox. Dydw i ddim yn symud i dŷ gwag ac yn gorfod ei ailadeiladu o’r newydd.
Rydw i’n llythrennol ddeg munud i ffwrdd o dŷ fy rhieni, tra bod yr hen sefyllfa yn golygu fy mod mewn tref hollol wahanol, heb unrhyw gefnogaeth o’m cwmpas. Rydw i’n gallu anfon neges destun atyn nhw unrhyw bryd, ac anfon neges destun at Jess unrhyw bryd a chael cymorth. Ond gan nad ydw i hyd yn oed yn gallu dychmygu mynd nôl i sut roeddwn i, dydw i ddim wedi gorfod gofyn am ormod.”
Y TEULU A’R DYFODOL
“Rydw i’n siarad gyda fy rhieni bob dydd. Pan oeddwn yn y Rhyl – unwaith yr wythnos ar y gorau. Ac fel arfer, pan oeddwn i’n cysylltu â nhw, roedd hynny oherwydd fy mod i eisiau arian, neu rywbeth.
Y pethau rydw i wedi’u gwneud, a’r hyn rydw i wedi gwneud i fy nheulu ei ddioddef, i fod yn onest, rwy’n credu y byddai nifer o deuluoedd wedi troi eu cefnau arna i, ond wnaethon nhw erioed wneud hynny.
A nawr, dydyn ni erioed wedi bod yn nes at ein gilydd. Mae fy rhieni yn ymddangos yn hapus unwaith eto. Dyna’r cyfan roedden nhw ei eisiau. Dim ond eisiau i fi fod yn iawn oedden nhw.
Rwy’n lwcus.
Rwy’n gorffen y pigiad Buvidal. Rydw i nôl yn y gampfa. Roeddwn i’n gwneud llawer o ymarfer corff, ac mae hynny’n helpu i gadw fy iechyd meddwl yn dda, ond yn naturiol, anghofiais amdano’n llwyr pan oeddwn i’n cymryd cyffuriau.
Rydw i’n hapus iawn fy mod i’n gallu deffro yn y bore, gwneud rhywbeth â’m diwrnod, ac nid dim ond eistedd o gwmpas yn teimlo trueni drosof fi fy hun.
Mae cael fy lle fy hun yn golygu cymaint – o fyw gyda fy rhieni a chymryd cyffuriau, i fod yn ddigartref ac yn dal i gymryd cyffuriau, ac yna’n sydyn iawn, mae gen i fy lle fy hun ac rydw i wedi rhyddhau fy hun o gaethiwed.
Roeddwn i’n meddwl y byddwn i naill ai wedi marw neu’n dal i ddefnyddio cyffuriau, yn mynd trwy’r un cylch nes i fi fod tua 50 oed, ac yn dal i fod yn ddigartref.”
Gwyliwch Tom yn adrodd ei stori
EIN GWASANAETHAU
Mae The Wallich yn cynnig cymorth cyffuriau ac alcohol ar draws Conwy a Sir Ddinbych, Sir y Fflint a Wrecsam.
Mae hyn yn cynnwys cyngor ar leihau niwed ac atgyfeirio at grwpiau cymorth cyd-fuddiannol a rhaglenni triniaethau.
Gallwch chi gysylltu â’r gwasanaeth yn uniongyrchol i drefnu amser i gael sgwrs ynglŷn â’ch anghenion cymorth.
Llety â chymorth dwysedd canolig a gwasanaeth cymorth lle bo’r angen yw Doorstop, i bobl sydd ag anghenion cymorth yn gysylltiedig ag alcohol neu gamddefnyddio sylweddau. Mae angen i chi gael eich cyfeirio at y gwasanaeth hwn gan Lwybr Atgyfeirio Sengl Sir Ddinbych neu Llwybr Atgyfeirio Sengl Conwy.