Mae Dinasoedd Anweledig yn fenter gymdeithasol lwyddiannus sy’n hyfforddi pobl y mae digartrefedd yn effeithio arnynt i dywys ymwelwyr o amgylch eu dinasoedd eu hunain ar droed.
Mae’r teithiau hyn yn rhoi cipolwg unigryw ar y ddinas, a’r tywyswyr eu hunain fydd yn dewis y themâu, gan gysylltu hanes y ddinas â’u profiadau a’u diddordebau personol eu hunain.
Dechreuodd y fenter Dinasoedd Anweledig yn 2016, ac maent wedi hyfforddi pobl fel tywyswyr yng Nghaeredin, Glasgow, Efrog a Manceinion.
Rhan hollbwysig o waith Y Wallich yw datblygu datrysiadau cynaliadwy, tymor hir i roi diwedd ar ddigartrefedd.
Mae hyn yn dechrau drwy feithrin hyder a datblygu sgiliau drwy gael cleientiaid i helpu i gynllunio, darparu, gwerthuso a gwella’r gwasanaethau maent yn eu derbyn.
Drwy ddechrau cymryd rhan fel hyn, byddant yn barod i symud ymlaen i wneud gweithgareddau lle byddant yn gwneud cynnydd ffurfiol, a’r nod yw helpu pobl i gyrraedd lefel gynaliadwy o annibyniaeth drwy addysg, hyfforddiant a chyflogaeth.
Mae modd i dywyswyr gael eu talu neu weithio’n wirfoddol, yn dibynnu ar ba ddewis sydd fwyaf addas ar gyfer eu hamgylchiadau ar y pryd.
Bydd modd ailfuddsoddi’r incwm o’r teithiau yn y sefydliad a defnyddio hynny i gefnogi tywyswyr i ennill sgiliau fel cyllidebu a rheoli arian.
Bydd tywyswyr yn cael hyfforddiant o safon – fel rheol bydd hyfforddiant ar ffurf gweithdy am gyfnod penodol, cyn iddynt weithio am rhwng pedwar mis a blwyddyn yn datblygu eu taith eu hunain ac yn ymarfer.
Bydd partneriaid creadigol a chymunedol yn darparu’r elfen hon o’r prosiect, gan gynnwys Amgueddfa Genedlaethol Cymru ac Archifau Morgannwg.
Byddant yn defnyddio eu sgiliau a’u harbenigedd i gofnodi, dehongli ac ymgysylltu ag amrywiaeth o wahanol gynulleidfaoedd wrth drafod hanes a threftadaeth.
Helo, John ydw i, bardd ac ymgyrchydd sydd bob amser wedi galw Caerdydd yn gartref.
Ewch i’r safleoedd lle mae protestiadau wedi bywiogi’r ddinas ac wedi paratoi’r ffordd ar gyfer newid. Mae John yn eich tywys i’r mannau cwrdd eiconig lle mae achosion byd-eang a lleol wedi cael eu brwydro.
Wrth wraidd hyn, mae’r berthynas rhwng y tensiynau hynny – Caerdydd fel prifddinas mewn gwlad fach yn ceisio dod o hyd i le ar y llwyfan byd-eang.
Mae John yn eich tywys drwy wahanol fathau o brotestiadau, gan ymweld â’r cofebau o bobl sydd wedi siapio Cymru yn y gorffennol a’r presennol, gan gynnwys Dic Penderyn a Betty Campbell.
Mae John yn cynnwys ei farddoniaeth yn fedrus, gan rannu ei waith ei hun ochr yn ochr â darnau allweddol. Mae’r daith hon yn bersonol ac yn wleidyddol, ac yn rhoi cipolwg i chi ar Gaerdydd fel dinas sy’n gwneud i bobl greu.
Gan ddechrau wrth y gofeb i Betty Campbell, bydd y daith hon yn eich arwain at greadigrwydd Stryd Womanby, ac yn cyfuno sut gwnaeth y Rhufeiniaid, y Llychlynwyr, y teulu Bute a Môr-ladron i gyd ddylanwadu ar y ddinas.
Byddwch chi’n clywed profiadau uniongyrchol, gan gynnwys protest y mudiad Occupy y tu allan i Gastell Caerdydd, ac achub lleoliadau cerddorol lleol.
Bydd y daith yn dod i ben ger cofeb Aneurin Bevan, sylfaenydd y GIG ac eiriolwr dros dai cymdeithasol.
Mae’r gofeb hon wedi bod yn fan cychwyn i brotestio yng Nghaerdydd ers degawdau, a bydd yn gwneud i chi gwestiynu beth y byddech chi’n ei newid pe gallech chi wneud hynny.
Mae Dinas Dychymyg yn stori garu rhwng pobl a lle.
Ymhell cyn i Larysa gyrraedd Caerdydd, roedd y ddinas wedi dal ei dychymyg yn ddiarwybod drwy lyfrau, ffilmiau, rhaglenni teledu, cerddoriaeth a barddoniaeth. Wrth i chi gerdded rhwng tirnodau eiconig Bae Caerdydd, mae straeon am antur, ffuglen wyddonol a rhamant yn dod yn fyw.
Dewrder, cyfeillgarwch a gobaith yw themâu’r daith gerdded hon, gyda digon o hiwmor ac ambell gargoel direidus yn cael eu hychwanegu am lwc.
Gan ddechrau yng Nghanolfan Mileniwm Cymru a mynd yn ôl drwy Stiwdios Teledu Porth y Rhath, byddwch yn ymweld â safleoedd sy’n coffáu’r cerddor Ivor Novello, yr awdur Roald Dahl, a’r anturiaethwr Robert Falcon Scott.
Byddwch hefyd yn darganfod ambell le ffuglennol sydd wedi dod yn gyfarwydd drwy Torchwood a Doctor Who. Wrth i’ch dychymyg gael ei danio, cewch eich cyflwyno i orffennol a dyfodol posibl Cymru drwy bensaernïaeth anhygoel Bae Caerdydd.
Mae adeilad y Pierhead yn ein hatgoffa mai’r rhan hon o’r ddinas oedd canolbwynt morol y byd diwydiannol ar un adeg, ac mae’r Senedd yn symbol o gamau at gynaliadwyedd a meddwl i’r dyfodol.
Mae dinasoedd yn siapio pobl, ac mae pobl yn siapio dinasoedd.
Mae cenhedlaeth ar ôl cenhedlaeth wedi dylanwadu ar siapiau Caerdydd drwy’r oesoedd ac i’r dyfodol. Yn y daith gerdded hon rydym yn edrych ar haenau hanesyddol cydamserol y ddinas, y caleidosgop o ofod, lle a phŵer sy’n newid yn gyson.
Byddwn yn gweld dinaswedd heddiw gyda llygaid newydd, gan edrych ar adeiladau cyhoeddus amlwg a cherfluniau coffa ynghyd â rhannau trefol llai adnabyddus i ganfod rhai o’r prif benodau hanesyddol a’r unigolion a chwaraeodd ran yn y gwaith o ffurfio’r Metropolis Glo byd-eang.
Mae’r prif elfennau’n cynnwys olion o’r dref gaerog o’r Oesoedd Canol, darnau o archaeoleg ddiwydiannol a Chaerdydd forol, a gogoniant gothig Eglwys Ioan Fedyddiwr.
Uchafbwynt y daith yw campwaith pensaernïol Parc Cathays, sef y Ganolfan Ddinesig gyntaf a gynlluniwyd yn y Deyrnas Unedig ac sy’n ysbrydoliaeth i fudiad Dinasoedd Prydferth America.
Byddwn yn gorffen y daith wrth gerflun trosiadol Minerva, sy’n dangos llafur y glowyr ar ffurf arwyddlun o Faes Glo’r De a ffynhonnell cyfoeth Caerdydd fel porthladd a dinas.
Mae modd archebu teithiau ar wefan Dinasoedd Anweledig.
Mae modd anfon archebion am lawer o docynnau neu ymholiadau cyffredinol i InvisibleCardiff@thewallich.net
Os gallwch chi helpu i hyrwyddo ein teithiau, cefnogi llwybrau i ddefnyddwyr ein gwasanaeth neu os oes gennych chi ddiddordeb mewn gweithio mewn partneriaeth, cysylltwch â Julia.Thomas@thewallich.net
“Rydyn ni’n falch iawn o gael dechrau gweithio gyda’r Wallich yng Nghymru. Creu cyfleoedd i bobl yng Nghymru y mae’r Wallich, felly addas iawn ydy gweld teithiau Dinasoedd Anweledig yn dod yn rhan o’r hyn maen nhw’n ei wneud.
“Hefyd, mae Caerdydd yn lleoliad gwych ar gyfer y teithiau, gyda miloedd o ymwelwyr, digwyddiadau a hanes cyfoethog i’w rannu.”