Cyn-gleient yn cael trawsnewidiad dannedd

05 Sep 2019

Fe wnaeth Stuart, aelod o staff Wallich â phrofiad o fod yn ddigartref, oresgyn ffobia deintyddol i drawsnewid ei wên. Nawr, mae’n annog pobl eraill i wneud yr un peth.

Roedd ffordd o fyw ddi-drefn, gan gynnwys camddefnyddio sylweddau a chyfnod o fod yn ddigartref, wedi cyfrannu at oblygiadau deintyddol sylweddol i Stuart.

Yn dilyn gwaith mawr ar ei ddannedd, gadewch i ni weld sut aeth y broses a’r gwahaniaeth mae wedi’i wneud i fywyd Stuart.

Pam wnaethoch chi benderfynu mynd drwy’r trawsnewidiad hwn?

“Rwy’n berson hyderus, ond dwi wastad wedi bod yn ymwybodol iawn o’m dannedd.

Fe wnes i osgoi’r deintydd am dros 20 mlynedd, ond roedd y problemau ro’n i’n cael gyda’m dannedd, oherwydd fy hen ffordd o fyw, yn dechrau troi’n broblem go iawn.

Roedd gen i dannedd coll yn y pen blaen, a glendid gwael iawn yn y geg.

Mae fy swydd yn ymwneud â siarad â phobl newydd a chwrdd â nhw bob dydd, felly ro’n i’n teimlo bod angen i fi wella fy hyder gyda’m gwên.”

Mae digartrefedd yn fwy na cholli to dros eich pen. I lawer, gall effeithio’n negyddol ar iechyd meddwl neu gorfforol rhywun – gan gynnwys eu dannedd.

Sut roeddech chi’n teimlo ynglŷn ag ymweld â’r deintydd cyn hyn? Os felly, ydy hyn wedi newid?

Ro’dd gen i ofn deintyddion a bues i bron iawn â pheidio mynd amdani.

Yr un peth a helpodd oedd y ffaith fy mod i’n mynd i Ysbyty Deintyddol y Brifysgol, felly llwyddais i argyhoeddi fy hun nad o’n i’n mynd i’r deintydd.

Roedd y staff mor dda gyda fi. Esboniais fod gen i  ffobia ac fe wnaethon nhw deilwra’r driniaeth i helpu i dawelu fy nerfau.

Dwi’n credu y bydda i wastad yn nerfus wrth ymweld â’r deintydd, ond dwi wedi goresgyn y ffobia ei hun.”

Mae gan 12% o oedolion y DU ffobia deintyddol. Mae hyn yn rhywbeth brofodd Stuart a’i atal rhag cael ei wên berffaith am flynyddoedd lawer.

Pa mor hir gymerodd y broses a faint oedd y gost?

Mae’r broses gyfan, gan gynnwys bod ar restr aros, wedi cymryd ychydig dros flwyddyn.

Ces i driniaeth go sylweddol, ond oherwydd fy ffobia, ro’dd y staff yn gadael i fi gwblhau’r driniaeth ar fy nghyflymder fy hun.

Wnaeth e ddim costio dim i fi, oherwydd es i Ysbyty Deintyddol y Brifysgol yng Nghaerdydd. Roedd yn rhaid i fi dalu costau teithio.”

Sut oedd y broses i chi? Ai dyma roeddech chi’n ei ddisgwyl?

“Ar ôl i fi daclo’r nerfau cychwynnol, roedd yn grêt. Gweithiais gyda’r staff a gwneud cynllun triniaeth oedd yn addas i fi. Ro’n i’n teimlo mai fi o’dd yn rheoli’r broses.

Drwy gydol y broses, ro’dd yn rhaid i fi wneud rhai newidiadau i’m ffordd o fyw – addasu’r deiet a lleihau faint ro’n i’n smygu. Dwi’n dal i gadw at ddeiet iachach a dwi bellach yn defnyddio vape, dwi ddim yn smygu.

Dim ond yn ystod oriau gwaith ro’dd apwyntiadau ar gael yn Ysbyty Deintyddol y Brifysgol, felly ro’dd hyn yn golygu bod rhaid defnyddio llawer o wyliau blynyddol i fynd i’r apwyntiadau, ond roedd The Wallich yn hyblyg iawn.

Ar ôl cwblhau fy nhriniaeth, cymerais wythnos i ffwrdd o’r gwaith i ddod i arfer â’r dannedd newydd ac i addasu i fwyta a siarad.

Rhoddodd hwb go iawn i fi.

Dwi bellach ddim yn teimlo bod angen cuddio fy ngheg, dwi’n teimlo’n falch o ddangos fy nannedd ac mae’n haws mynegi fy hun.”

Sut gall cleientiaid The Wallich fynd drwy’r broses hon a pham dylen nhw fynd amdani?

“Gall unrhyw un gael y driniaeth ond mae meini prawf penodol y mae angen i chi eu bodloni.

Byddem yn argymell mynd drwy Ysbyty Deintyddol y Brifysgol i gael triniaeth, yn enwedig os oes gennych ffobia. Gall y deintyddion fod yn hyblyg, ond mae angen i chi ymrwymo.

I ddefnyddwyr gwasanaethau sy’n mynd drwy’r broses adfer, sydd angen gwaith deintyddol, dwi’n meddwl ei fod yn gymhelliant go iawn i beidio â mynd yn ôl i’r hen ffordd o fyw.

I fi, dyma’r darn olaf o’r broses adfer. Mae wedi newid fy mywyd.”

Ydych chi’n rhan o sefydliad sy’n gallu cynnig profiadau all newid bywydau ein cleientiaid? Cysylltwch â’n tîm heddiw
dosomething@thewallich.net

Tudalennau cysylltiedig