Yn brin iawn y caiff carcharorion benywaidd gyfle i rannu eu straeon ond yma rydym yn canolbwyntio ar ddwy fenyw anhygoel sydd, gyda’n cymorth ni, wedi chwalu’r rhwystr sydd ynghlwm â chofnod troseddol i fynd yn ôl i’r byd gwaith. Darllenwch eu straeon.
Mae Leanne wedi defnyddio eu profiadau heriol i helpu pobl eraill. Mae’r prosiect BOSS wedi’i galluogi i hyfforddi pobl â chofnod troseddol, rhoi sicrwydd iddynt a’u hysbrydoli trwy ddangos iddynt fod modd iddynt symud ymlaen yn eu bywydau.
“Mae The Wallich wedi rhoi cyfle i mi fod yma heddiw.
Ymunais â The Wallich ddechrau’r flwyddyn [2019] trwy’r gwasanaeth prawf.
Dechreuais fel Mentor Cymheiriaid. Cefais y cyfle gan y prosiect BOSS. Roeddent wedi mynd ar fy ôl mewn ffordd ac ymgysylltais â nhw a symudais i ymlaen. Rwyf hefyd yn Fentor Cymheiriaid ar gyfer Ymddiriedolaeth Sant Giles. Roeddwn yn ffodus iawn i fod yn fentor â thâl.
Mae BOSS wedi gwrando arnaf ac wedi credu ynof i. Mae’n system gefnogaeth wych. Mae bob amser yn teimlo bod gennych rywun i siarad ag ef, os oes gennych chi ymholiad neu broblem gallwch siarad yn agored.
Bydd The Wallich a’r prosiect BOSS yn rhoi cyngor ac arweiniad i chi o ran yr hyn i’w ddatgelu a’r hyn i’w ddweud wrth bobl. Gallwch chi fod yn naturiol gyda nhw.
Byddwn 150% yn bendant yn argymell The Wallich a’r prosiect BOSS. Mae wedi bod o gymorth mawr i mi. Mae wedi rhoi ysbrydoliaeth ynof fi fy hun nad oeddwn yn gwybod fy mod yn meddu arni. Maent yn hynod o gefnogol. Mae’n sefydliad da i’w ddefnyddio.
Rwyf eisoes wedi argymell y prosiect BOSS i ddau o’m ffrindiau.
Rwyf wedi profi pethau nad oeddwn yn gwybod y gallwn eu cyflawni; erbyn hyn rwy’n gwybod y gallaf gyflawni. Yn fy meddwl i, nid oes dim na allaf ei oresgyn.
Ar gyfer fy nyfodol, rwy’n gobeithio helpu pobl mewn sefyllfaoedd llai ffodus na mi. Hefyd, i helpu pobl â’u hiechyd meddwl.
Rwyf yn dioddef o faterion iechyd meddwl fy hun. Ond ers i mi ddechrau gyda’r prosiect BOSS mae gan bopeth fy mod yn ei wneud batrwm ysgogiadol er mwyn i fy helpu rhag teimlo fel hynny.
Fy mhlant, y prosiectau fy mod yn gweithio arnynt; mae cynifer o bethau fy mod yn edrych ymlaen atynt, nawr fy mod yn gwybod hynny nid wyf byth yn dymuno dychwelyd i’r unigolyn yr oeddwn ar un adeg.
Mae oll yn ymwneud ag edrych ymlaen, credu ynoch chi eich hun, magu hyder a hunanymwybyddiaeth.
Rwy’n ddiolchgar iawn fy mod wedi cwrdd â’r bobl hyn.
Pe na bawn i wedi cwrdd â’r bobl hyn does dim syniad gennyf ble fyddwn i erbyn hyn.
Hoffwn ddiolch i’m mentor, James, mae e’n anhygoel. Mae’r fenyw fy mod yn gweithio â hi nawr, Siân, yn anhygoel. Mae Lizzie yn anhygoel. Mae Prif Swyddog Gweithredol The Wallich yn anhygoel.
Rwyf wedi cwrdd â chynifer o bobl ysbrydoledig ac rwy’n falch iawn bod pobl fel hyn yn y byd fel nad oes angen i chi ddiystyru dynoliaeth.
Caiff rhai pobl eu maeddu a’u hystyried yn wael iawn gan bobl eraill fel nad oes ganddynt unrhyw ffydd mewn dynoliaeth bellach. Mae gennyf ffydd nawr ac mae’n teimlo’n dda. Gallwch chi wireddu eich breuddwydion os hoffech chi gyrraedd yno.”
Defnyddiodd Chantelle ei chyfnod yn y carchar i adnabod ei breuddwyd o ddod yn dechnegydd ewinedd proffesiynol. Gyda chymorth ein mentoriaid BOSS, mae Chantelle yn gwireddu’r breuddwyd hwnnw trwy ennill y cymwysterau cywir a sefydlu ei busnes ei hun.
“Lluniais fy nghynllun busnes fy hun, cefais fy rhyddhau a chefais fy nghyfeirio at y prosiect BOSS gan y gwasanaeth prawf. Roedd BOSS wedi fy helpu ar hyd y ffordd, wedi talu am fy logo ac wedi fy helpu gyda’m cynllun busnes.
Maen nhw wedi ariannu pethau i mi. Mae fy entrepreneur, Roger, wedi fy helpu gyda’m cynllun busnes, fy incwm, fy nhrethi.
Rwyf wedi derbyn llawer o gymorth; maen nhw wedi bod yn dda iawn. Bendigedig.
Rwyf eisiau bod yn dechnegydd ewinedd blaenllaw. Cefais fy nghleient cyntaf yr wythnos ddiwethaf. Rwy’n falch iawn o hynny. Aeth pethau’n dda iawn.
Mae’r prosiect BOSS yn brosiect da iawn ac maen nhw yn wir yn eich cefnogi chi.”