Stori Adele

09 May 2025

Ar ôl cyn lleied â chwe mis yn llety’r Prosiect Trawsffiniol i Fenywod, mae Adele eisoes wedi dechrau trawsnewid ei bywyd â chymorth, ymddiriedaeth, ac anogaeth ein staff arbenigol.

O argyfwng a thrawma i hyder a sefydlogrwydd, mae bellach yn camu ymlaen tuag at annibyniaeth â gobaith a phwrpas.

Rhybudd sbarduno teimladau affwysol: Mae’r astudiaeth achos hon yn trafod pynciau sensitif, gan gynnwys defnyddio sylweddau, trawma, hunan-niweidio a cholli plentyn.

Darllenwch ei stori

Adele

“Roedd fy mywyd yn berffaith tan i mi gyfarfod y dyn anghywir. Yna dirywiodd pethau yn gyflym iawn.

Roedd e’n rhoi cyffuriau i mi a doeddwn i ddim hyd yn oed yn gwybod.

Ro’n i ar ddos uchel o feddyginiaeth. Fe wnes i ddarganfod hynny drwy fynd drosodd [cymryd gorddos] a dywedodd y parafeddyg wrthyf i. Teimlais fy ngafl a sylweddolais ei fod yn chwistrellu cyffuriau i mi.

Cefais fy nhroi’n fenyw na fyddwn i byth wedi dychmygu y gallwn fod – ro’n i’n arfer bod mor gryf yn erbyn heroin.

Collais fy nheulu; collais fy mywyd. Ceisiais ddiweddu fy hun, ond rydw i yma o hyd.

Es i i babell wedyn am 9 mis gydag e. Yna es i’n feichiog, ac fe wnes i newid fy mywyd er gwell.

Cefais y babi.

Ro’n i’n mynd i roi’r babi i gael ei fabwysiadu gan deulu cariadus, ond meddyliais, wel mae 15 mlynedd ers y tro diwethaf i mi gael babi, felly siawns na fyddwn i’n gallu bod yn fam dda iddo.

Cafodd ei eni a chefais ef yn y lleoliad mamau a babanod. Roedd camera arna i 24/7. Newidiais fy mywyd.

Yna, dair blynedd yn ddiweddarach, daeth menyw i’m bywyd.

Fe wnes i achosi risg o niwed sylweddol i’r babi drwy fod o gwmpas y fenyw hon. A dyma nhw’n mynd ag e oddi arna i.”

Dod o hyd i ddiogelwch a symud ymlaen

[Pan ofynnwyd i Adele sut y gwnaeth hi ddod o hyd i The Wallich, dywedodd]

“Fy ngweithiwr allweddol yn y gymdeithas dai wnaeth fy nghyfeirio i atyn nhw [y Prosiect Trawsffiniol]. Cefais gyfweliad yma, ac fe wnaethon nhw fy nerbyn ar unwaith.

textimgblock-img

Rydw i wedi bod yn gwneud cyrsiau cyfrifiadurol ac rydw i wedi graddio.

Rwy’n fenyw wahanol nawr.

Yn fenyw well.

Mae’r Gweithwyr Cymorth yn anhygoel; maen nhw’n barod i wneud unrhyw beth er fy mwyn i.

Maen nhw wedi gwneud y siwrnai yn un anhygoel, wedi rhoi bywyd gwell i mi, rhoi cyngor i mi, a gwneud yn siŵr mod i ar y trywydd cywir, ac maen nhw bob amser yn fy annog i wneud yn dda oherwydd rwy’n fenyw dda.

Maen nhw’n fy neall i, maen nhw’n gwybod o ble rydw i wedi dod, pa fath o siwrnai rydw i wedi ei chael, ac rwy’n well nawr.

Roedd gwneud y Grisiau at Gynnydd yn brofiad da. Fe wnes i gyfarfod pobl newydd.

Maen nhw’n trefnu mod i’n cael mynd i fodurdy cyn bo hir er mwyn dechrau gweithio fel peiriannydd.

Rydw i wedi gwneud addurno, trin gwallt, gwaith mecanyddol.

Byddaf yn symud oddi yma cyn bo hir; rydw i wedi pacio’n barod.”

Yn ôl Emma, Uwch Weithiwr Cymorth yn y Prosiect Trawsffiniol i Fenywod:

“Pan ddaeth Adele yma roedd arni hi angen llawer o gymorth.

Fe wnaethon ni ennyn ymddiriedaeth Adele a datgelodd ragor o wybodaeth yn raddol, ac â’r fath onestrwydd, yn enwedig am ei defnydd o sylweddau.

Dros gyfnod, dechreuodd dderbyn cefnogaeth er mwyn cynnal ei phresgripsiwn Buvidal a lleihau ei defnydd o sylweddau.

Cafodd Adele ei chyfeirio at wasanaeth cwnsela er mwyn delio â’r trawma yr oedd wedi ei brofi. Roedd hyn a’r tîm Allgymorth Iechyd Meddwl Cymunedol yn fuddiol iddi.

Yn ystod ei chyfnod yn llety’r Prosiect Trawsffiniol aeth Adele ar gwrs Grisiau at Gynnydd, lle dysgodd sgiliau TG a sgiliau eraill. Gorffennodd y cwrs, gan raddio a chael gliniadur ar ddiwedd y cwrs.

Mae’n dal i wneud cynnydd.

Mae’n cael ei lleoli yn ein heiddo gwasgaredig. Mae hynny’n golygu llai o gefnogaeth, gan na fydd hi yn y tŷ creiddiol a fydd yna ddim staff o gwmpas.

Bydd mwy o annibyniaeth yn galluogi Adele i reoli a chynnal tenantiaeth pan fydd allan yn y gymuned.

Mae gan Adele bersonoliaeth heintus ac mae’n bleser ei chefnogi.”

Gwyliwch Adele yn dweud ei stori

Os ydych wedi cael eich effeithio gan unrhyw rai o’r pynciau y cyfeiriwyd atynt yn yr astudiaeth hon, mae cymorth a chefnogaeth ar gael. Ewch i’n tudalen Cymorth a Chyngor i gael rhagor o wybodaeth.