Stori Alex

12 Nov 2019

Mae Alex, oedd yn arfer cysgu allan yng Nghaerdydd, wedi gweithio gyda’n Tîm Mentora Cymheiriaid. Bellach mae byw mewn tŷ a rennir gan The Wallich.

Darllenwch ei siwrnai ysbrydoledig a’i agwedd gadarnhaol newydd ar gyfer y dyfodol.

“Roeddwn yn ddigartref am bum mis ar ôl dod allan o’r carchar.

Doedd dim trefn ar fy mywyd, roeddwn yn cysgu allan, yn begera, yn cymryd cyffuriau – roeddwn ar sbeis. Pe byddai raid i mi ddisgrifio’r cyfnod hwnnw, mi fuaswn i’n dweud ei fod o’n hamser peryglus, anobeithiol, ac roeddwn yn meddwl am ladd fy hun.

Cefnu ar y strydoedd

Roeddwn yn adnabod AJ [Tîm Mentora Cymheiriaid] yn flaenorol, rwyf yn ei adnabod ers amser hir. Doeddwn i ddim yn adnabod yr AJ newydd gan fy mod yn gwybod am ei orffennol a’i brofiadau gyda chyffuriau. Allwn i ddim credu cymaint yr oedd o wedi newid.

Roedd AJ yn mynnu fy ngwahodd o hyd i’r boreau coffi yma. Roedd y ffaith bod pobl yn dod ata i ac yn sôn yn gyson am gymorth y gallwn ei gael yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol.

Es i’r boreau coffi, ac wrth edrych yn ôl arnynt nawr, byddwn yn dod i mewn gyda bag o ddillad, budr, ac yn gweld AJ, a chymaint yr oedd o wedi symud ymlaen, mor wahanol yr oedd o’n edrych ac yn siarad, a’r ffordd yr oedd o’n helpu pobl eraill. Cafodd hyn argraff fawr arna i.

Gyda chymorth AJ a’r tîm, oherwydd mae’r diolch i fwy na dim ond un person, mae fy mywyd yn gwbl wahanol.

Heb y tîm, mae’n debyg y buaswn i’n dal allan yn cymryd sbeis. Maen nhw’n fy helpu i ganolbwyntio ar y dyfodol.

Y boreau coffi oedd yr amgylchedd perffaith i mi gan fod yr holl bobl oedd eu hangen arna i o dan yr un to – The Wallich, y cyngor, gweithwyr cyffuriau ac iechyd meddwl.

Loteri_Stori Alex

Cadw oddi ar y strydoedd

Bellach rwy’n byw mewn tŷ a rennir gan The Wallich ac mae’n filwaith gwell na lle’r oeddwn i’n arfer byw.

Pan ydych chi allan ar y strydoedd, rydych chi’n agored i bopeth. Does dim ffiniau, dim preifatrwydd a dim trefn. Mae cymdeithas yn gallu gwneud yr hyn y mae ei eisiau gyda chi. Does gennych chi ddim llawer o reolaeth.

Roedd y ffaith bod gen i stafell i mi fy hun yn hybu fy arferion da. Mae gen i le i ymarfer a bwyta’r bwyd priodol.

Mae ymarfer yn bwysig i mi gan ei fod yn cael effaith arnoch chi’n feddyliol, ac ar eich hyder, a’ch osgo. Mae’n rhoi nodau gwirioneddol i mi feddwl amdanynt a rhywbeth i weithio tuag ato.

Corff, enaid ac ysbryd – mae’r tri’n bwysig ac mae cofio hynny’n fy nghadw’n bositif, gan symud ymlaen. Mae AJ wedi rhoi llawer o gyngor i mi.

Cefnogaeth a gwella

Mae AJ yn driw ac mae wedi mynd y filltir ychwanegol i fy helpu. Os oes rhywbeth nad yw’n gallu ei wneud i mi, bydd yn dod o hyd i rywun sy’n gallu.

Mae’r cyfan wedi helpu i fy ngwella. Rwy’n pasio fy mhrofion cyffuriau ac mae hynny’n addawol iawn. Mae angen pobl dda o fy nghwmpas, gyda chalon fawr, mewn llefydd da. Mae hynny’n werth y byd i mi.

Mae’r ôl-ofal yn hanfodol ar ôl bod yn ddigartref a chael stafell oherwydd gallech fynd yn ôl i fod yn ddigartref. Efallai mai dim ond eistedd y byddwch chi, wedi diflasu, yn gwylio’r teledu ac yn defnyddio cyffuriau unwaith eto.

Nawr bod gennyf fy stafell fy hun, rwy’n edrych yn well oherwydd fy mod yn gallu ymolchi. Rwy’n teimlo’n llawer gwell.

Mae cael stafell a gweithio gyda’r tîm, yn teimlo fe pe bai rhywun wedi gweld y potensial ynof fi.

Mae fel gweld tŷ wedi troi’n adfail; efallai bydd llawer o bobl yn cerdded heibio gan feddwl mai dim ond gweddillion sydd yna. Ond efallai bydd un person yn gweld y potensial ac yn defnyddio’r gweddillion i adeiladu plasty.

Rwy’n canolbwyntio nawr ar bob dydd yn ei dro, ar gadw’r ffocws, ond mae gen i syniad cyffredinol am y dyfodol.

Hoffwn wneud gwaith mentora cymheiriaid tebyg. Mae angen pobl fel ni ar bobl sydd ar y strydoedd. Mae angen i ni ddefnyddio straeon llwyddiant ac rwyf eisiau bod yn rhan o hynny.

Dyma oedd gan AJ, mentor Alex i’w ddweud:

“Y cyfan wnes i oedd agor y drws i Alex ac agor ei lygaid efallai – mae wedi gwneud yr holl waith caled ei hun.

Mae ei siwrnai wedi bod yn anhygoel ac rwy’n wirioneddol falch ohono.

Rwyf wrth fy modd ei fod wedi ymddiried ynof fi ac mae’r ddau ohonom bellach yn enghraifft dda i bobl eraill.”

Tudalennau cysylltiedig