A hithau’n 79 oed, sylwodd Dorothy fod angen cefnogaeth arni gyda sgiliau byw bywyd annibynnol.
Ar ôl gadael perthynas lle’r oedd yn cael ei cham-drin, symudodd i le newydd, ar ei phen ei hun, am y tro cyntaf erioed.
“Roeddwn i mewn perthynas, yn cael fy ngham-drin gan fy ngŵr”
Roeddwn wedi dychryn ag ofn mawr arnaf, ac yn araf bach aeth pethau o ddrwg i waeth nes y bu rhaid i mi adael er mwyn fy lles a diogelwch fy hun.”
Cafodd Dorothy ei cham-drin ar ffurf gorfodaeth; roedd yn golygu nad oedd ganddi unrhyw reolaeth dros unrhyw elfen o’i pherthynas na sut yr oedd hi’n byw ei bywyd ei hun.
“Doeddwn i ddim yn talu biliau, na, doeddwn i’n talu dim byd. Roedd popeth a brynwyd i fi yn ei enw fe.”
Doedd gen i ddim byd i’n enw ar wahân i’r tŷ, a dim ond oherwydd bod fy ngŵr wedi penderfynu codi arian yn erbyn y tŷ yr oedd gennym berchnogaeth ar y cyd drosto.”
Y prif anawsterau a wynebodd Dorothy oedd ceisio deall biliau, pryd i’w talu a sut. Roedd hyn yn gwneud iddi boeni a theimlo’n ddryslyd.
“Mi es i banig. Ro’n i wir yn credu na fyddwn yn gallu byw ar fy mhen fy hun gan nad oeddwn yn gallu cael trefn ar filiau.
I fod yn onest, wn i ddim o ddifri beth fyddwn i wedi ei wneud oni bai am The Wallich.”
Yn ystod cyfnod pandemig Coronavirus, derbyniodd Dorothy y rhan fywaf o gefnogaeth dros y ffôn, gan ei bod ar y rhestr o bobl fregus.
Wrth i’r cyfyngiadau lacio yng Nghymru, roedd gweithiwr cefnogol Dorothy yn gallu ymweld â hi os oedd angen, gan gadw pellter cymdeithasol.
“Roeddwn i wedi siarad â chymaint o bobl wahanol ar y ffôn, ro’n i wedi drysu braidd drwy’r cyfan.
Roedd yn anodd cofio pwy oedd pwy, pwy oedd yn perthyn i beth, ac yna’n sydyn byddai un person yn diflannu ac un arall yn cyrraedd, a rhain i gyd yn ddim ond lleisiau.
Roeddwn i’n teimlo ar goll, yn gyfan gwbl ar goll.
Rwy’n dweud o waelod fy nghalon, dwi ddim yn gwybod lle bydden i heb The Wallich. O ddifri, dydw i ddim yn gwybod.”
Dywedodd Sarah, gweithiwr cefnogol Dorothy:
“Mae gweithio gyda Dorothy wedi bod yn hyfryd, mae hi’n dal i gael cyfnodau byr o banig ond rydym yn gweithio’n ffordd drwyddo ac rwy’n gweld ei bod yn cryfhau, mae hi’n dawelach ac yn magu hyder gyda phob cyswllt.
Mae’n hyfryd ei gweld yn gwenu a chwerthin, rhywbeth y byddwn yn ei wneud yn aml.
Roedd Dorothy yn ddynes gref, abl ac annibynnol. Ond tynnodd cyfnod ei phriodas hynny oddi arni.
Mae gan Dorothy y sgiliau i fyw bywyd annibynnol ond ei bod angen cael ei hatgoffa ohonyn nhw.”