Stori Gareth

06 Mar 2023

Fel oedolyn ifanc, roedd Gareth yn gaeth i alcohol. Symudodd i brosiect Derwen Newydd The Wallich er mwyn gwella

Darllenwch ei stori

Bywyd cyn The Wallich

“O oedran gymharol ifanc, ro’n i’n dioddef gyda fy iechyd meddwl – hunan-barch isel iawn a dim hyder.

Fe wnaeth fy rhieni ysgaru pan o’n i’n weddol ifanc, a deilliodd popeth o hynny rwy’n credu.

Fe wnes i droi at alcohol o oedran ifanc oherwydd ei fod yn rhoi hyder i fi.

Yn fy arddegau, yna pan es i i’r brifysgol, fe wnes i yfed llawer ac yna ces i  flynyddoedd o wadu, gan feddwl bod yr hyn ro’n i’n ei wneud yn iawn.

Felly, yn y brifysgol, doedd hyn yn ddim byd newydd i fi. Fi oedd y cymeriad lle byddai pawb yn troi ato am barti.

Ro’n i’n her, doedd neb yn gallu yfed cymaint â fi, ro’n i’n credu mod i’n cŵl, a’r holl sylw, doeddwn i erioed wedi cael y sylw yna o’r blaen.

Am flynyddoedd, ro’n i’n alcoholig oedd â’r gallu i weithredu, felly ro’n i’n llwyddo i gadw mewn gwaith, ond daeth yn anoddach o lawer erbyn diwedd fy ugeiniau.

Yn y pen draw, ro’n i’n ddigartref yn Llanelli.

Ro’dd yna ddiwrnodau lle byddwn yn prynu poteli o fodca ac yn cerdded ar hyd llwybr arfordirol y mileniwm, ac ro’n nhw’n ddiwrnodau dychrynllyd i fi.

Dyna’r diwrnodau lle sylweddolais nad o’dd gen i unrhyw beth nac unrhyw un. Ro’n i ar fy mhen fy hun.

Ond fe ddaeth trobwynt. Pan ddes i at y croesffyrdd hyn, ro’dd yn amlwg beth oedd yn mynd i ddigwydd i fi pe bawn i’n cario mlaen i wneud yr hyn ro’n i’n ei wneud.

Felly, ro’n i’n gallu dewis hynny neu ddewis help.

Dewis cael help wnes i, a daeth yr help hwnnw wrth The Wallich, ar yr amser iawn.”

Byw yn Derwen Newydd

“Fe ges i gyfle i symud mewn ac ro’dd yn ofod wirioneddol ddiogel ac yn gyfle i orffwys a dechrau fy nhaith tuag at wella.

Gyda chymorth y staff fan hyn, mae wedi bod yn wirioneddol anhygoel.

Un peth sydd wedi gweithio’n eithaf da i fi o ran y prosiect yw nad oes unrhyw bwysau wrth y staff i frysio pethau.

Mae popeth ar eich cyflymder eich hun. Mae digonedd o gyfleoedd y maen nhw’n eu darparu i chi.

Os ydych chi eisiau mynd allan i’r gymuned, fe allwch chi.

Os nad ydych chi eisiau gwneud hynny ac yn teimlo nad ydych chi’n barod, byddan nhw byth yn rhoi pwysau arnoch chi i wneud hynny.

Fe wnaethon nhw lwyddo i greu cysylltiadau ag elusen leol i gŵn. Llwyddodd hynny i nghael i allan.

Rwy’n defnyddio’r gampfa leol yma. Mae’r staff wedi fy nghefnogi drwy’r holl beth.

textimgblock-img

Mae hwn yn adeilad arbennig iawn, yn yr ystyr ei fod yn creu gofod diogel i fi. Rwy’n dweud hynny llawer.

Mae’r ardal hon yn dawel. Ro’dd yn ofod perffaith i fi ar yr adeg berffaith.

Gyda’r arweiniad y maen nhw’n ei roi yma, ro’n i’n gallu, yn fy amser fy hun, fagu’r dewrder i daflu fy hun yn ôl i’r pethau ro’n i’n arfer eu gwneud pan o’n i’n yfed.

Fe wnes i greu amgylchedd  fan hyn lle ro’n i eisiau aros ynddo, ro’n i’n gwybod ei fod yn ddiogel ac ro’n i’n hapus.

Doeddwn i ddim yn gwario arian, felly fe lwyddais i gynilo. Ro’dd gen i gar unwaith eto, felly fe ges i ychydig mwy o annibyniaeth.

Rydw i wedi llwyddo i ymuno â dau fand chwyth lleol, felly rwy’n chwarae’r trwmped unwaith eto. Ac rwy’n actio mewn grŵp theatr lleol.

Rydw i wir yn hapus. Ac mewn lle da iawn, ac oni bai am y lle yma, fyddwn i ddim.”

Cymryd rhan

Cymuned greadigol

Mae’r gymuned Greadigol yn sesiwn wythnosol i gleientiaid, staff a gwirfoddolwyr The Wallich i ddod at ei gilydd ar gyfer amser cymdeithasol, cymorth lles a gweithgareddau creadigol.

“Mae gan y gymuned greadigol y gallu i wneud i chi deimlo’n anhygoel wedyn, beth bynnag wnewch chi.

Dydd Mawrth yw dydd Mawrth, ry’ch  chi’n codi o’r gwely, yn cael rhywfaint o frecwast, ac efallai weithiau, dydych chi ddim yn barod amdani, ond rydw i wastad yn trio. Achos rwy’n gwybod, yn syth ar ôl cymuned greadigol, gyda’r holl bethau gwahanol ry’n ni’n eu gwneud, fy mod i wastad yn teimlo’n dda.

Os na allwch chi dynnu llun, does dim ots. Os na allwch chi ysgrifennu, neu greu cerddi, does dim ots.

Mae beth bynnag ry’ch chi’n ei wneud yn cael ei werthfawrogi ac mae yna barch.”

WISE

WISE yw prosiect Gweithio mewn Cyflogaeth Gynaliadwy The Wallich, prosiect cynaliadwyedd i bobl sydd â phrofiad bywyd.

“Ro’dd yr hyn a ddarparwyd ganddyn nhw  yn anhygoel.

Fel rhywun sy’n mynd drwy adferiad, rydw i’n credu na ddylech chi fyth stopio mewn gwirionedd.

Dim ond oherwydd eich bod wedi bod i ganolfan adsefydlu, mae hynny’n wych, ond yn fy adferiad i, rydw i’n mynd i barhau i wneud pethau fel hyn.

Mae’r cyfle i gael hyfforddiant cymorth cyntaf, iechyd a diogelwch, yr holl bethau y gallwn eu gwneud i’w rhoi ar fy CV, yn helpu fy ngham nesaf tuag at gyflogaeth.

Fe wnes i gwblhau prosiect WISE fan hyn [yn Derwen Newydd].

Fe wnaethon nhw dalu i fi wneud cwrs Swoleg ar-lein a chwrs ymddygiad anifeiliaid.

Dyna beth rydw i eisiau gwneud, rydw i eisiau gweithio gydag anifeiliaid.

Maen nhw wedi ei droi’n realiti. Rwy’n hynod ddiolchgar.”

Y dyfodol

“Fe es i drwy lawer o fy mywyd heb wybod beth ro’n i eisiau ei wneud. Fe wnes i radd mewn actio, gan feddwl fy mod i eisiau bod yn actor.

Fe wnes i sylweddoli yn fuan nad dyma’r maes i fi.

Pan adawes i’r ganolfan adsefydlu a dod nôl i Derwen Newydd, fe wnes i ganfod elusen leol, elusen achub border collies, a rydw i wedi bod gyda nhw ers tro bellach.

Fe wnaeth hynny gadarnhau’r ffaith fy mod i eisiau gweithio gydag anifeiliaid.

Drwy fod yn sobor nawr, rydw i eisiau dysgu unwaith eto.

Mae pawb yn credu bod y rhai sy’n gaeth i gyd yn yr un cwch a’i fod yr un peth i bawb, ond mae’n hollol wahanol.

Mae stori pawb yn wahanol, mae’r ffordd y mae pawb yn delio â phethau yn hollol wahanol.

Rwy’n credu os ydych chi’n dod o hyd i’r gallu i ddal ati, hyd yn oed pan fo pethau’n wirioneddol wael, gallwch chi ddod drwy unrhyw beth.

Dyna sut rydw i’n teimlo ar hyn o bryd, fy mod i’n gallu ymdopi ag unrhyw beth sy’n cael ei daflu ataf oherwydd y lle hwn.”

Gwyliwch Gareth yn dweud ei stori

Os oes unrhyw rai o’r pynciau a drafodir yn yr astudiaeth achos hon wedi effeithio arnoch chi, mae cymorth a chefnogaeth ar gael. Ewch i’n tudalen Cymorth a Chyngor i gael rhagor o wybodaeth.

Tudalennau cysylltiedig