Mae Prosiect Derwen Newydd y Wallich yn darparu cymorth i bobl ddigartref a phobl a allai fod yn ddigartref sy’n 18 oed neu fwy

Bwriad y prosiect yw cynnig llety i rai oedd yn arfer defnyddio sylweddau sydd wedi cwblhau rhaglen driniaeth gymunedol neu breswyl benodol yn llwyddiannus ac sy’n awyddus i gynnal ffordd o fyw heb ddibynnu ar sylweddau.
Am Derwen Newydd
- Mae’r prosiect yn cynnig cartref diogel a sefydlog gyda chymorth 24 awr
- Mae’n helpu preswylwyr i ddal ati i ymwrthod â sylweddau, datblygu sgiliau bywyd a sgiliau byw’n annibynnol
- Mae’n helpu preswylwyr i gael mynediad at hyfforddiant, addysg, cyfleoedd i wirfoddoli a gwaith
- Mae’n cynnig cymorth gyda budd-daliadau a rheoli arian
- Mae’n helpu preswylwyr i gael hyd i lety addas, mwy parhaol
- Mae’n helpu preswylwyr i ail-sefydlu cysylltiadau gyda theulu a chyfeillion
- Mae’n cynnwys preswylwyr mewn gweithgareddau cymunedol
- Mae’n darparu amgylchedd cynhwysol trwy ymgynghori rhwng staff/cleientiaid
- Mae’n helpu preswylwyr i gael mynediad at gyngor a chymorth gan asiantaethau eraill

Rydym yn derbyn atgyfeiriadau gan unrhyw asiantaeth leol gydnabyddedig ym maes Camddefnyddio Sylweddau
